Canllawiau

Newid y manylion mewngofnodi ar gyfer eich 51 One Login

Sut i newid y cyfrinair, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost rydych yn ei ddefnyddio i fewngofnodi i'ch 51 One Login.

Newid neu ailosod eich cyfrinair

Newid eich cyfrinair

Gallwch newid eich cyfrinair yn eich 51 One Login. I wneud hyn:

  1. Mewngofnodwch i’ch 51 One Login.
  2. Ewch i Diogelwch.
  3. O dan Eich manylion mewngofnodi, dewch o hyd i’r rhes ar gyfer Cyfrinair a dewiswch Newid cyfrinair.
  4. Rhowch eich cyfrinair cyfredol a dewiswch Parhau.
  5. Rhowch gyfrinair newydd a dewiswch Parhau.

Ailosod eich cyfrinair

Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod. I wneud hyn:

  1. Ewch i Mewngofnodwch i’ch 51 One Login.
  2. Dewiswch Mewngofnodi.
  3. Rhowch eich cyfeiriad e-bost.
  4. Ar y sgrin Rhowch gyfrinair, dewiswch y ddolen sy’n dweud Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair.
  5. Gwiriwch eich e-bost am god diogelwch.
  6. Rhowch y cod diogelwch a dewiswch Parhau.
  7. Rhowch god diogelwch arall - cewch hwn trwy neges destun neu o’ch ap dilysu.
  8. Rhowch gyfrinair newydd a dewiswch Parhau.

Newid eich rhif ffôn

Gallwch newid y rhif ffôn rydych yn ei ddefnyddio i gael codau diogelwch i fewngofnodi. I wneud hyn:

  1. Mewngofnodwch i’ch 51 One Login.
  2. Ewch i Diogelwch.
  3. Darganfyddwch Sut rydych yn cael codau diogelwch i fewngofnodi.
  4. Dewiswch Newid eich rhif ffôn.

Os ydych wedi ychwanegu rhif ffôn fel dull wrth gefn, gallwch ei dynnu ac ychwanegu rhif ffôn newydd.

Os ydych wedi colli mynediad i’ch ffôn

Os ydych chi wedi colli mynediad i’ch rhif ffôn neu wedi’i newid, gallwch ddefnyddio eich dull wrth gefn (rhif ffôn arall neu ap dilysydd) os ydych chi wedi ychwanegu un.

Os nad oes gennych ddull wrth gefn, gwiriwch a allwch chi newid sut rydych yn cael codau diogelwch:

  1. Mewngofnodwch i’ch 51 One Login.
  2. Rhowch eich cyfrinair.
  3. Pan ofynnir i chi roi’r cod diogelwch, dewiswch Problemau gyda’r cod.
  4. Dewiswch Gwiriwch a allwch chi newid sut rydych yn cael codau diogelwch.

Byddwch ond yn gallu newid sut rydych yn cael codau diogelwch os ydych eisoes wedi profi eich hunaniaeth gyda 51 One Login.

Os dywedir wrthych na allwch newid sut rydych yn cael codau diogelwch, .

Os dywedir wrthych y gallwch newid sut rydych yn cael codau diogelwch, bydd angen i chi brofi eich hunaniaeth drwy ddefnyddio’r ap 51 ID Check. Mae hyn oherwydd rydym angen gwybod mai chi sydd yna ac yn helpu i gadw eich 51 One Login yn ddiogel.

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau er mwyn sicrhau y gallwch ddefnyddio’r ap 51 ID Check. Yna byddwn yn dweud wrthych sut i lawrlwytho a defnyddio’r ap i brofi eich hunaniaeth. 

Gallwch ddewis sut rydych eisiau cael y codau diogelwch. Gallwch gael y codau diogelwch wedi’u hanfon drwy neges destun i’ch rif ffôn symudol neu eu cael o ap dilysydd.

Bydd newid sut rydych yn cael codau diogelwch yn dileu eich dull diofyn ac wrth gefn blaenorol, os ydych wedi sefydlu un.

Cael help i ddefnyddio’r ap 51 ID Check.

Os na allwch ddefnyddio’r ap yna .

Newid eich cyfeiriad e-bost

Gallwch newid eich cyfeiriad e-bost yn eich 51 One Login. I wneud hyn:

  1. Mewngofnodwch i’ch 51 One Login.
  2. Ewch i Diogelwch.
  3. O dan Eich manylion mewngofnodi, dewch o hyd i’r rhes ar gyfer E-bost a dewiswch Newid cyfeiriad e-bost.
  4. Rhowch eich cyfrinair a dewiswch Parhau.
  5. Rhowch gyfeiriad e-bost newydd a dewiswch Parhau.
  6. Gwiriwch eich e-bost am god diogelwch.
  7. Rhowch y cod diogelwch a dewiswch Parhau.

os ydych angen mwy o help.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Gorffennaf 2025 show all updates
  1. Updated instructions for how to change your phone number to explain you can now use a back-up method to sign into your 51 One Login.

  2. Updated instructions on changing how to get security codes if you've lost access to your phone.

  3. The instructions for changing your phone number if you have lost access to your phone or changed your number have been updated to include the rule that you can only do this if you are not also resetting your password.

  4. The steps for resetting your password have been updated.

  5. Added translation

Argraffu'r dudalen hon