Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Sut i lenwi a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth wrth ddef-nyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Unwaith i chi wneud yr holl addasiadau i’ch treuliau ac incwm o hunangyflogaeth ac eiddo, bydd angen i chi ddefnyddio’ch meddalwedd i wneud y canlynol:

  • llenwi’ch Ffurflen Dreth
  • cyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth berthnasol, ond gallwch ei chyflwyno’n gynharach na hyn. Er enghraifft, gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 unrhyw bryd ar ôl 6 Ebrill 2026, ond mae’n rhaid i chi fod wedi’i chyflwyno hi erbyn 31 Ionawr 2027.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, yna byddwch yn agored i bwynt cosb am gyflwyno’n hwyr.

Ychwanegu’ch ffynonellau eraill o incwm ac enillion

Mae angen i chi wneud yn siŵr bod eich holl ffynonellau trethadwy eraill o incwm neu enillion ar gyfer y flwyddyn wedi’u cynnwys yn eich meddalwedd sy’n cydweddu.

Ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, byddwch chi a CThEF yn ychwanegu gwybodaeth wahanol am eich ffynonellau eraill o incwm. Mae angen i chi wirio bod yr holl wybodaeth sydd wedi’i hychwanegu’n gywir.

Gwybodaeth y bydd CThEF yn ei hychwanegu

Os oes gan CThEF wybodaeth yn barod am eich ffynonellau eraill o incwm ac enillion, byddwn yn ychwanegu hon at eich Ffurflen Dreth. Mae hyn yn cynnwys:

  • incwm o gyflogaeth (TWE)
  • ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr
  • incwm o bensiwn y Wladwriaeth, pensiwn preifat a phensiwn galwedigaethol
  • budd-daliadau trethadwy eraill y Wladwriaeth
  • Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) — didyniadau is-gontractwr
  • Gwaredu eiddo preswyl at ddiben Treth Enillion Cyfalaf
  • Hawliadau am Lwfans Priodasol

Ar ôl i CThEF ychwanegu’r wybodaeth hon, gallwch ddod o hyd iddi yn y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • eich meddalwedd sy’n cydweddu, pan fyddwch yn gofyn i’r feddalwedd am gyfrifiad
  • eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF

Yr wybodaeth y byddwch chi’n ei hychwanegu

Mae’n dal i fod angen i chi ychwanegu ffynonellau eraill o incwm at eich Ffurflen Dreth os nad ydych wedi’u hychwanegu yn ystod y flwyddyn dreth a bod angen i chi eu datgan. Er enghraifft:

  • cynilion a difidendau
  • unrhyw enillion neu incwm arall sydd heb eu hychwanegu’n awtomatig

Mae angen i chi ychwanegu’r wybodaeth hon cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Gwrio’ch gwybodaeth

Cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, gwiriwch fod yr wybodaeth wedi’i hychwanegu gennych chi a CThEF yn gywir.

Os oes rhywbeth yn anghywir neu fod angen i chi ddiweddaru’r wybodaeth, gallwch ychwanegu’r wybodaeth gywir a bydd hyn yn disodli’r wybodaeth flaenorol.

Dim ond pan fyddwch chi wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth y bydd eich gwybodaeth yn cael ei thrin fel gwybodaeth derfynol.

Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth eich hun

Mae angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth drwy feddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. 

Mae angen i chi gadarnhau’r canlynol yn eich meddalwedd:

  • eich bod yn barod i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth
  • eich bod yn cytuno â’r cyfrifiad y mae’ch meddalwedd wedi nodi am y dreth sy’n ddyledus

Bydd hefyd angen i chi ddatgan bod yr wybodaeth a roddwyd gennych yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eich gwybodaeth.

Dim ond ar ôl i chi ychwanegu’r holl ffynonellau o’ch incwm a’ch enillion, ac wedi gwirio bod eich holl wybodaeth yn gywir, y dylech chi wneud hyn.

  1. Ewch i’ch meddalwedd a chadarnhau eich bod yn barod i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

  2. Edrychwch dros y cyfrifiad yn eich meddalwedd sy’n dangos faint o dreth sy’n ddyledus.

  3. Gwiriwch fod y cyfrifiad yn gywir.

  4. Cyflwynwch eich Ffurflen Dreth drwy ddatgan bod eich gwybodaeth a’r cyfrifiad yn gywir.

Byddwch wedyn yn gweld neges yn eich meddalwedd i ddweud bod eich Ffurflen Dreth wedi’i chyflwyno.

Cyflwyno Ffurflen Dreth eich cleient

Bydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth eich cleient drwy’ch meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os yw’ch cleient wedi cyflwyno’i ddiweddariadau chwarterol ei hun neu wedi ychwanegu ffynonellau eraill o incwm, gallwch weld y rhain yn eich meddalwedd.

Pan fyddwch wedi ychwanegu holl incwm ac enillion eich cleient, byddwch yn barod i gyflwyno’i Ffurflen Dreth.

  1. Ewch i’ch meddalwedd a chadarnhau eich bod yn barod i gyflwyno Ffurflen Dreth eich cleient.

  2. Edrychwch dros y cyfrifiad yn eich meddalwedd sy’n dangos faint o dreth sy’n ddyledus.

  3. Gwiriwch fod y cyfrifiad yn gywir.

  4. Rhannwch gopi o’r cyfrifiad â’ch cleient a chadarnhau ei fod yn cytuno â’r cyfrifiad.

  5. Cyflwynwch Ffurflen Dreth eich cleient drwy ddatgan bod yr wybodaeth a’r cyfrifiad yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth.

Byddwch wedyn yn gweld neges yn eich meddalwedd i ddweud bod Ffurflen Dreth eich cleient wedi’i chyflwyno.

Os byddwch yn anghytuno â’r cyfrifiad neu fod gwall yn eich meddalwedd

Dylech wirio’r wybodaeth rydych wedi’i hychwanegu at eich meddalwedd. Os oes gwall, gallwch ei gywiro yn eich meddalwedd cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Os na fydd eich meddalwedd yn rhoi cyfrifiad i chi pan fyddwch yn gofyn am hynny, mae yna wall. Dylai’ch meddalwedd esbonio beth i’w wneud nesaf. Os na fydd hi’n gwneud hyn, cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd am gymorth.

Os ydych yn gwirfoddoli i brofi’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Wrth i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, os byddwch yn anghytuno â’r cyfrifiad y mae’ch meddalwedd yn ei ddangos, gallwch gysylltu â’r tîm cymorth i gwsmeriaid penodedig am help.

Os nad yw’ch meddalwedd yn gallu cyflwyno eich ffynonellau eraill o incwm

Efallai eich bod yn gwirfoddoli i brofi’r gwasanaeth cyn 6 Ebrill 2026.

Os nad yw’ch meddalwedd bresennol yn gallu cyflwyno’ch ffynonellau eraill o incwm, gofynnwch i’ch darparwr meddalwedd a fydd yn ychwanegu’r gallu hwn at eich meddalwedd sy’n cydweddu, a phryd y bydd yn gwneud hyn.

Os nad yw’n ychwanegu’r swyddogaeth hon neu os na fydd hon yn ei le cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, gallwch naill ai:

Ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Os oes angen i chi gywiro neu gynnwys rhywbeth arall, gallwch ddiwygio eich ffurflen dreth.

Bydd y wybodaeth a roddwch i CThEM yn creu eich bil treth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

Ni fydd y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn newid y ffordd rydych yn talu treth na’r dyddiadau cau ar gyfer taliadau. Os na fyddwch yn talu’ch bil treth Hunanasesiad erbyn y dyddiadau cau perthnasol, byddwch yn agored i dalu cosb am dalu’n hwyr.