Dod o hyd i wybodaeth a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF
Sut i gyflwyno cais ffurfiol i Gofrestrfa Tir EF am wybodaeth am dir ac eiddo.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Gallwch wneud cais am wybodaeth am dir ac eiddo a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF trwy gyflwyno cais ffurfiol.
Sylwer bod ff誰oedd yn daladwy.
Beth ywr gost?
Gallwch weld y ff誰oedd cyfredol ar gyfer y wybodaeth mae ei hangen arnoch yn Cofrestrfa Tir EF: Ff誰oedd Gwasanaethau Gwybodaeth 51画鋼
Pwy syn berchen ar yr eiddo?
Defnyddiwch ein gwasanaeth ar-lein Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo ar 51画鋼 i gael manylion ynghylch pwy syn berchen ar eiddo cofrestredig.
Gallwch chwilio trwy god post (yr opsiwn diofyn) neu sgrolio i lawr y dudalen i chwilio trwy stryd a thref, map neu rif teitl.
Os ywr eiddon gofrestredig, gallwch weld a lawrlwytho crynodeb eiddo, syn rhoir cyfeiriad, disgrifiad, math o ddeiliadaeth (rhydd-ddaliol neu brydlesol), ac a oes cyfamodau cyfyngu neu hawddfreintiau ar y gofrestr teitl, yn rhad ac am ddim.
Gallwch brynur dogfennau canlynol hefyd:
- cofrestr teitl yn dangos perchnogaeth a rhif teitl
- cynllun teitl yn dangos terfynau cyffredinol
Cewch ragor o wybodaeth am y dogfennau hyn yn ein canllawiau.
Ar gyfer cyfeiriadau anarferol neu barseli tir, defnyddiwch yr opsiwn chwilio trwy fap o dan Ffyrdd eraill o chwilio.
Cofiwch: maer gwasanaeth ar-lein yn darparu gwybodaeth am eiddo cofrestredig yn unig. Os nad yw tir neu eiddon gofrestredig, ni fyddwn yn gwybod pwy ywr perchnogion, ac ni fydd eich chwiliad yn rhoi canlyniad.
Mae gan gwsmeriaid y porthol a Business Gateway yr opsiwn Register View hefyd, lle gallant gael copi or gofrestr teitl ar cynllun.
Eiddo a berchnogir gan gwmn誰au yn y DU a thramor
Gallwch gael gwybod hefyd pa eiddo a berchnogir gan gwmn誰au yn y DU a thramor trwy lawrlwythor setiau data gydar un enw. Maent yn rhad ac am ddim.
Darllenwch ragor yn: Cwmn誰au yn y DU syn berchen ar eiddo yng Nghymru a Lloegr 51画鋼 a Chwmn誰au tramor syn berchen ar eiddo yng Nghymru a Lloegr 51画鋼
Cop誰au swyddogol or gofrestr teitl neur cynllun teitl
Efallai bydd angen copi swyddogol arnoch at ddibenion cyfreithiol (megis profi perchnogaeth yn y llys):
-
Gwnewch gais am gopi swyddogol trwy ddefnyddio ffurflen OC1.
-
Gall defnyddwyr y porthol wneud cais ar-lein. (Os ydych yn ddefnyddiwr y porthol, gallwch wneud cais trwy ddefnyddior gwasanaeth hwnnw. Os ydych yn meddwl byddai angen ichi ddefnyddior gwasanaeth yn rheolaidd, gallwch gael gwybod sut i fewngofnodi, ac ar gyfer beth y gallwch ei ddefnyddio, yn HM Land Registry portal: login and guides 51画鋼.)
Ar gyfer gwiriadau cyffredinol, mae canlyniadau safonol o Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo yn ddigonol fel rheol.
Chwilio am ddogfennau eiddo penodol?
Gwnewch gais trwy ddefnyddio ffurflen OC2 ar gyfer cop誰au o weithredoedd neu ddogfennau, megis
- trosglwyddiad (gweithred gwerthu/prynu)
- arwystl (gweithred morgais)
- prydles
Defnyddiwch y ffurflen hon pan fydd copi yn y ffeil iw weld yn y gofrestr eiddo i wneud cais am weithredoedd a ffurflenni eraill yn ymwneud 但 chais yn y gorffennol neu gais presennol.
Perchnogion eiddo blaenorol
Gwnewch gais am gop誰au hanesyddol or gofrestr neur cynllun teitl trwy ddefnyddio ffurflen HC1.
Cysylltwch 但n Canolfan Cymorth i Gwsmeriaid os nad ydych yn sicr am ba gofrestr neu gynllun teitl y dylid gwneud cais, neu pa wybodaeth sydd gennym yn ein cofnodion.
Cysylltwch 但 ni yn gyntaf am wybodaeth hen iawn gallwn gynghori ynghylch a allwch gael gafael ar y wybodaeth a sut i wneud cais.
DS: bydd rhai on dogfennau yn ein harchif bapur, felly gall gymryd peth amser i gael y wybodaeth.
Ceisiadau syn aros iw prosesu
Ar gyfer ceisiadau sydd wedi dod i law ond ddim wedi eu cofrestru eto, gallwch lenwi ffurflen OS3 i weld beth syn aros iw brosesu o hyd, yna ffurflen OC2 os ydych am gael cop誰au or dogfennau sydd wedi cael eu cyflwyno, er enghraifft, y weithred drosglwyddo neur weithred morgais.
Cwestiynau am derfynau
Yn anaml bydd gwybodaeth benodol gennym am berchnogaeth terfynau.
I weld unrhyw fanylion am derfynau rydym wedi eu cofrestru:
- gwnewch gais am gop誰au or gofrestr teitl, cynllun teitl a gweithredoedd wedi eu ffeilio os ydynt ar gael
Am gyngor a chymorth, ymgynghorwch 但 chyfreithiwr.
Ar gyfer anghydfodau ynghylch terfynau, dylech ystyried gwasanaeth cyfryngu /
Am ragor o wybodaeth:
- ewch i Terfynau eich Eiddo: Trosolwg 51画鋼
- gwyliwch ein fideo YouTube:
Preifatrwydd a chwiliadau arbennig
Yn gyffredinol, ni allwch chwilio am bob eiddo a berchnogir gan unigolyn.
I gael gwybod am bwy gallwch chi chwilio, gweler cyfarwyddyd ymarfer 74.
Ar gyfer eiddo a berchnogir gan gyrff corfforaethol neu gwmn誰au cofrestredig:
-
chwiliwch y Mynegai Enwau Perchnogion trwy ddefnyddio ffurflen PN1
-
gallwch chwilio yn 担l enw cwmni ond ni allwch chwilio am unigolyn preifat oherwydd bod chwiliadau y Mynegai Enwau Perchnogion yn erbyn unigolion preifat byw yn ymwneud 但 data personol, sydd wedi ei eithrio rhag cael ei ddatgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth