Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor ar Baratoi a Chyflwyno Dogfennau Cais
Mae’r nodyn cyngor hwn yn esbonio sut dylai dogfennau cais a gwybodaeth ategol gael eu paratoi, eu trefnu, a’u cyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIPau).
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau cynllunio seilwaith cenedlaethol, y dylai ymgeiswyr a phartïon eraill eu darllen. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008 (y Ddeddf Cynllunio).
Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth a chaiff ei gynhyrchu o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio.
Ѳ’r Ddeddf Cynllunio a rheoliadau 5, 6 a 7 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (Rheoliadau CFfGR 2009) yn amlinellu’r gofynion ar gyfer y dogfennau a’r wybodaeth y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd â chais NSIP.
Dylai ymgeiswyr drafod gyda’r Arolygiaeth Gynllunio sut dylai eu cais a’u gwybodaeth ategol gael eu paratoi a’u cyflwyno. Mae canllawiau statudol y llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio yn esbonio’r gofynion a’r disgwyliadau wrth baratoi cais NSIP. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu Dogfen Raglen, y bydd angen i ymgeiswyr ei chyflwyno yn y Cyfarfod Cychwynnol gyda’r Arolygiaeth Gynllunio ac esbonio sut y caiff ei datblygu a’i chynnal drwy gydol y cam cyn-ymgeisio. Mae Dogfen Raglen yr ymgeisydd yn amlinellu’r rhaglen fwriadedig ar gyfer y cam cyn-ymgeisio a pha waith ac astudiaethau sy’n ofynnol i baratoi cais.
Mae canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio a Phrosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio yn esbonio’r tri gwasanaeth cyn-ymgeisio gwahanol a gynigir gan yr Arolygiaeth Gynllunio i ymgeiswyr, a rhoddir gwybodaeth am y ffioedd cysylltiedig yng nghanllawiau’r llywodraeth ar Adennill Costau a Phrosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio. Dylai ymgeiswyr ddarllen y dogfennau hyn er mwyn deall y lefelau gwasanaeth y gallant eu disgwyl gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar faterion fel cyngor ar ddogfennau drafft, ateb cwestiynau sy’n ymwneud â materion archwilio posibl a pha mor barod yw cais i gael ei gyflwyno.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod eu cynigion wedi’u datblygu’n llawn ac wedi bod yn destun ymgynghoriad cyn eu cyflwyno. Mae’r gallu i newid cais a gyflwynwyd yn gyfyngedig ac ni allwn dderbyn gwybodaeth newydd yn ystod y cam derbyn. Mae’n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod eu ceisiadau NSIP yn bodloni’r holl ddeddfwriaeth, polisïau, a chanllawiau perthnasol i gael eu derbyn i’w harchwilio ac i alluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i benderfynu p’un ai rhoi caniatâd datblygu.
Y ffurflen gais
Mae’r ffurflen gais ar gyfer NSIPau wedi’i rhagnodi gan ddeddfwriaeth ac mae’n rhaid i ymgeiswyr ei defnyddio (gweler atodlen 2 Rheoliadau CFfGR 2009).
Gweler canllawiau’r llywodraeth ar y ffurflen gais ynglŷn â sut i wneud cais ar gyfer caniatâd datblygu.
Rhoddir dolen i’r ffurflen a gwybodaeth ychwanegol yn nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar sut i gyflwyno cais ar gyfer caniatâd datblygu.
Mae canllawiau’r llywodraeth ar y Cam cyn-ymgeisio a Chynnwys Gorchymyn Caniatâd Datblygu, a gyhoeddwyd ar y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol, yn rhoi gwybodaeth am gynnwys ceisiadau hefyd.
Cyflwyno’r cais
Mae gwasanaethau’r llywodraeth yn ddigidol yn ddiofyn, a gofynnwn i ymgeiswyr ac eraill gyflwyno dogfennau, data a gwybodaeth arall i ni’n electronig.
Dylai ymgeiswyr gyflwyno eu ceisiadau NSIP yn electronig i’r Arolygiaeth Gynllunio gan ddefnyddio’r wefan SharePoint ddiogel a gynhelir pythefnos cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig.
Dylid anfon ceisiadau wedi’u cwblhau at yr Arolygiaeth Gynllunio rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, heblaw am wyliau cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl 5pm yn cael eu prosesu ar y diwrnod gwaith nesaf.
Dylid cyflwyno ceisiadau yn unol â’r cyngor hwn er mwyn sicrhau cysondeb a chydweddoldeb â systemau digidol yr Arolygiaeth Gynllunio.
Fe allai’r Awdurdod Archwilio ofyn am gopïau argraffedig o rywfaint o wybodaeth y cais, neu’r holl wybodaeth, cyn neu yn ystod archwiliad. Bydd nifer y copïau argraffedig o wybodaeth y bydd eu hangen yn dibynnu ar y prosiect, maint yr Awdurdod Archwilio, a nifer yr aseswyr neu gynghorwyr cyfreithiol sy’n gysylltiedig, lle y bo’n berthnasol.
Trefn gwybodaeth y cais a mynegeio ffeiliau
Mae trefn, dull mynegeio a system ffeilio dogfennau cais a data yn bwysig i sicrhau bod modd dod o hyd i symiau mawr o wybodaeth yn rhwydd.
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r mynegai derbyn cais yn Atodiad 1 fel y gellir mewngludo dogfennau’r cais i system rheoli dogfennau’r Arolygiaeth Gynllunio. Rhoddir arweiniad ar gwblhau’r mynegai ar dab ar wahân yn y daenlen.
Dylai ymgeiswyr ddilyn y cyngor yn Atodiad A ar sut i drefnu dogfennau’r cais. Mater i ymgeiswyr yw penderfynu pa wybodaeth sy’n berthnasol a beth sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth. Er y dylai’r cais ddilyn y strwythur a amlinellir yn Atodiad A, mae rhywfaint o hyblygrwydd yn bosibl os oes rheswm rhesymegol a chyfiawn dros wyro oddi wrth y strwythur. Dylai’r ymgeisydd drafod unrhyw gynnig i wyro oddi wrth y strwythur yn Atodiad A gyda’r tîm achos, ar y cyfle cynharaf.
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn datblygu safonau ychwanegol ar fformat gwybodaeth a sut y dylid ei chyflwyno mewn rhai dogfennau cais. Mae templedi ar gyfer dogfennau a data penodol yn cael eu llunio ac mae cyngor technegol yn cael ei baratoi ar fathau penodol o ddatblygiadau, sy’n amlinellu arferion enwi a chyfeirnodi ar gyfer dogfennau sydd i’w cyflwyno, diffiniadau, strwythur a chymalau Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) a gofynion sy’n berthnasol i’r math hwnnw.
Os yw dogfen ragnodedig wedi’i chynnwys o fewn dogfen arall, eglurwch ble y gellir dod o hyd i’r ddogfen hon, gan gynnwys y cyfeirnod, tudalen, paragraff, a rhifau atodiad perthnasol. Pan fydd cynlluniau wedi’u cynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol, er enghraifft cynlluniau safle dynodedig neu gynlluniau safle treftadaeth, ni ddylai’r rhain gael eu dyblygu yng Nghyfrol 2 y dogfennau cais. Fodd bynnag, dylai’r cynlluniau gael eu cyfeirnodi’n rhesymegol a dylid cyfeirio atynt yn glir.
Dylai mynegai’r cais amlygu’r holl ddogfennau a gwybodaeth a gyflwynir gyda’r cais a disgrifio’r wybodaeth a gynhwysir ym mhob dogfen mewn iaith glir. Dylai enwau ffeiliau adlewyrchu enw’r ddogfen neu’r data yn gywir. I wella hygyrchedd y dogfennau a gyhoeddir ar y wefan , dylai’r holl ddogfennau gael eu rhifo’n drefnus. Dylai ffeiliau gynnwys rhifau dogfennau ar ddechrau’r teitl sy’n cyfateb i rif y gyfrol gyfatebol. Gweler Atodiad A ar gyfer rhifo dogfennau.
Mae angen mynegai’r cais i helpu i gynnal y gwiriadau yn ystod y cam derbyn, darparu cyfeirnodau, a threfnu dogfennau’r cais a’r data sydd i’w cyhoeddi ar y wefan . Os oes angen copi argraffedig o’r cais, dylai’r cais papur gael ei drefnu yn yr un ffordd â’r fersiwn electronig.
Maint dogfennau a chrynodebau
Bydd maint a swm dogfennau cais yn amrywio yn dibynnu ar y math o ddogfen neu ddata a gyflwynir a chymhlethdod y datblygiad arfaethedig.
Dylai ymgeiswyr feddwl am faint o wybodaeth sy’n ofynnol yn eu dogfennau a data i gydymffurfio â deddfwriaeth, polisi, cyfraith achosion a chanllawiau. Dylid osgoi cynnwys dyblyg a diangen. Gweler canllawiau’r llywodraeth ar y i gael gwybodaeth am y broses ar gyfer derbyn cais NSIP, y profion derbyn o dan adran 55 y Ddeddf Cynllunio, a’r safon sy’n ofynnol er mwyn i geisiadau gael eu derbyn i symud ymlaen i gael eu harchwilio.
Dylai dogfennau neu ddata sy’n cynnwys mwy na 1,500 o eiriau gynnwys crynodeb o’r prif faterion a chyfeirio darllenwyr at y dystiolaeth maen nhw wedi’u seilio arni (gweler rheoliad 14(3) Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010). Dylai crynodebau fod yn llai na 1,500 o eiriau neu’n 10% o’r ddogfen wreiddiol. Ni ddylent gyflwyno gwybodaeth newydd na gwahanol i honno a gynhwyswyd yn y ddogfen neu’r data sy’n cael ei chrynhoi/grynhoi. Gall crynodebau da helpu i esbonio gwybodaeth gymhleth i ddarllenwyr eang a galluogi’r partïon i ddod o hyd i’r cynnwys mwyaf perthnasol yn rhwydd.
Cyfeirnodi ar gyfer cynlluniau, dogfennau a ffotograffau
Mae Rheoliad 5(2) a (3) Rheoliadau CFfGR 2009 yn amlinellu gofynion ar gyfer darparu dogfennau penodol. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at is-adran berthnasol unrhyw reoliadau cymwys ar gyfer cyflwyno dogfennau sy’n ofynnol.
Dylai’r wybodaeth gyfeirnodi ar gyfer pob cynllun neu ddogfen gynnwys:
- enw’r datblygiad arfaethedig
- teitl dogfen neu gynllun
- rhif cyfeirnod unigryw cynllun neu ddogfen
- y dyddiad y cynhyrchwyd y cynllun neu’r ddogfen
- nodyn cronolegol o unrhyw ddiwygiadau a wnaed i’r cynllun neu’r ddogfen, gan gynnwys rhif diwygiedig y cynllun neu’r ddogfen.
Dylai ffotograffau gael eu labelu, eu hanodi, a’u dyddio. Dylai lleoliadau mewn ffotograffau gael eu nodi ar fap neu gynllun. Mae’n rhaid darparu’r math o gamera a lens a ddefnyddiwyd hefyd. Ni ddylid defnyddio ffotograffau lle y gellir adnabod unigolyn, oni bai bod yr unigolyn hwnnw wedi cydsynio i’w ddelwedd gael ei chyhoeddi. Ni fydd delweddau heb gydsyniad penodol unigolion o’r fath yn cael eu hystyried na’u cyhoeddi yn rhan o gais.
ڴǰ
Dylai dogfennau cais a data:
- gael eu tudalennu a chynnwys paragraffau, tablau a ffigurau wedi’u rhifo
- cynnwys paragraffau wedi’u rhifo o fewn atodiadau
- cael eu hargraffu ar ddwy ochr y dudalen (os bydd yr Awdurdod Archwilio’n gofyn am fersiynau argraffedig)
- bod â maint ffeil mwyaf o 50MB yr un, mewn fformat PDF os oes modd ac wedi’u hoptimeiddio ar gyfer eu gweld trwy’r we
- cynnwys tabl cynnwys ar gyfer dogfennau â mwy nag un dudalen
- cynnwys cynlluniau wedi’u labelu’n glir gyda gwybodaeth y dudalen deitl ar waelod y gornel dde
- cynnwys rhestr o ddiwygiadau i gynlluniau neu ddogfennau
- cynnwys rhestr termau ar gyfer pob dogfen
- defnyddio maint ffont 12 pwynt o leiaf a defnyddio ffont clir fel Arial
- dyfynnu unrhyw gyfeiriadau at ddogfennau y dibynnir arnynt, fel datganiadau polisi cenedlaethol neu gynlluniau datblygu, a chynnwys y darnau, y polisïau, neu’r adrannau perthnasol.
Peidiwch â chyflwyno gwybodaeth fideo na sain oni chytunwyd o flaen llaw gyda’r Arolygiaeth Gynllunio.
Ni ellir derbyn dolenni i ddogfennau neu dystiolaeth a gynhelir ar wefannau trydydd parti, fel cyfryngau cymdeithasol. Ni all yr Awdurdod Archwilio, yr Ysgrifennydd Gwladol ac eraill ddibynnu ar ddogfennau neu dystiolaeth sydd y tu allan i reolaeth yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae hyn yn cynnwys cydymffurfio â’n dyletswyddau o dan y ddeddf diogelu data.
Fodd bynnag, gellir derbyn dolenni i wefannau dibynadwy, fel gwefannau’r llywodraeth neu sefydliadau cynllunio siartredig sy’n cynnal dogfennau polisi lleol a chenedlaethol. Mae’n rhaid i’r dolenni hyn gynnwys y cyfeirnod llawn a’r dyddiad cyrchu.
Y Gorchymyn Caniatâd Datblygu drafft
Dylai ymgeiswyr ddarllen canllawiau’r llywodraeth ar a chyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar . Mae’n rhaid i Orchmynion Caniatâd Datblygu (DCOau) sy’n cynnwys darpariaethau deddfwriaethol sy’n cymhwyso, diwygio, neu eithrio darpariaethau statudol eraill gael eu gwneud ar ffurf offeryn statudol (OS) wedi’i ddilysu.
Bydd angen i ymgeiswyr ofyn am gael mynediad at y system templed a dilysu OS ar-lein o’r wefan Cyhoeddi Deddfwriaeth.
Dylai ymgeiswyr gyflwyno’r canlynol gyda gwybodaeth eu cais:
- Fersiwn PDF o’r DCO drafft yn y templed OS
- Yr hysbysiad e-bost gan https://publishing.legislation.gov.uk/validation sy’n cadarnhau bod y ddogfen wedi cael ei dilysu’n llwyddiannus
- Y fersiwn PDF o’r adroddiad dilysu OS a gafwyd o’r ddolen yn yr hysbysiad e-bost.
- Fersiwn MS Word lân (gyda’r holl dracio wedi’i ddileu) ar wahân o’r dDCO, heb bennyn na thudalen glawr.
Y Datganiad Amgylcheddol
Mae angen i Ddatganiadau Amgylcheddol gydymffurfio â rheoliad 14 , ond dylent fod yn gymesur â nodweddion y datblygiad arfaethedig a sensitifrwydd yr amgylchedd sy’n ei dderbyn.
Mae’r rhain yn aml yn ddata a dogfennau mawr sy’n cynnwys llawer o benodau, tablau, ffigurau, ychwanegiadau, ac atodiadau. Er mwyn helpu i brosesu ceisiadau NSIP, dylai ymgeiswyr ddarllen nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio .
Dylai’r Datganiad Amgylcheddol:
- ddarparu dolenni yn y dudalen gynnwys i’r penodau, tablau, ffigurau, ychwanegiadau, ac atodiadau a restrir
- cynnwys penodau, tablau, ffigurau, ychwanegiadau, ac atodiadau a enwyd yn ôl pwnc
- bod mewn fformat y gall yr Arolygiaeth Gynllunio ei gopïo a’i ludio
- defnyddio croesgyfeirio i leihau’r angen am ailadrodd yn y datganiad, er mwyn cyflwyno materion yn gymesur.
Dylai’r disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig fod yr un fath ym mhob dogfen.
Mae’n bosibl y bydd angen i rywfaint o wybodaeth amgylcheddol gael ei golygu. Fe allai hyn ymwneud â gwybodaeth am bresenoldeb a lleoliadau rhywogaethau prin neu sensitif. Dylai ymgeiswyr drafod golygu’r data hwn yn gymesur gyda’r Arolygiaeth Gynllunio yn ystod y cam cyn-ymgeisio.
Dylai arolygon a data ategol y cyfeirir atynt yn y Datganiad Amgylcheddol neu’r Adroddiad Rheoliadau Cynefinoedd gael eu hatodi neu eu hychwanegu at y ddogfen berthnasol neu eu cyhoeddi ar blatfform hygyrch.
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
Mae (y Rheoliadau Cynefinoedd) yn mynnu bod ymgeiswyr yn rhoi gwybodaeth i’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer asesu effaith yr NSIP ar amcanion cadwraeth safle Ewropeaidd neu i alluogi’r awdurdod i benderfynu p’un a oes angen asesiad priodol.
Dylai ymgeiswyr gyfeirio at nodyn cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio cyngor ar faterion amgylcheddol ynglŷn â’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gefnogi cais NSIP.
Graddfa cynlluniau a lluniadau
Dylai cynlluniau a lluniadau gydymffurfio â’r gofynion a amlinellir yn rheoliad 5 Rheoliadau CFfGR 2009:
- peidio â bod yn fwy na maint A0
- dangos cyfeiriad y gogledd
- cynnwys bar graddfa
- cael eu tynnu wrth raddfa a amlygwyd nad yw’n llai nag 1:2500 ar gyfer datblygiad ar y tir
- defnyddio graddfa addas ar gyfer datblygiad alltraeth (er mwyn osgoi sawl map sy’n dangos môr gwag)
- sicrhau bod y datblygiad arfaethedig wedi’i ddynodi’n glir ac yn gywir
- bod yn ddigon eglur i’w darllen
- nodiannu dimensiynau a mesuriadau allweddol, fel y rhai hynny sy’n dangos pellteroedd rhwng strwythurau arfaethedig a ffin y safle neu uchderoedd prif adeiladau.
Mae’n bosibl y bydd angen i gynlluniau llinellol gynnwys set o luniadau sy’n dangos hyd a lled llawn y datblygiad arfaethedig. Pan ddefnyddir lluniadau a thrychiadau wedi’u dilyniannu, dylid darparu cynllun allwedd a nodiant dilyniant neu drychiad.
ٴǻ徱岹
Gall atodiadau helpu i amlinellu deunydd ffeithiol, deunydd technegol a deunydd arall mewn ffordd drefnus.
Dylai atodiadau:
- gael eu labelu a’u henwi’n glir ar y dudalen fynegai flaen
- cael eu cyfeirnodi a’u mynegeio’n llawn.
Os oes angen copïau argraffedig o ddogfennau, gellir eu rhwymo ar wahân a dylent gynnwys rhanwyr adrannau wedi’u hanodi er mwyn helpu’r partïon i ddod o hyd i wybodaeth yn gyflym.
Dylai perthnasedd yr atodiadau gael ei esbonio yn y brif ddogfen.
Diogelu data a phreifatrwydd
Gan fod dogfennau cais yn cael eu cyhoeddi, dylid osgoi cynnwys data personol unigolion. Mae hyn yn cynnwys ffotograffau o unigolion heb eu cydsyniad a llofnodion.
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio’n trin gwybodaeth yn unol â’n hysbysiad preifatrwydd ac yn dilyn y protocolau a osodwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar ei gwefan . Gall tîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio ddarparu rhagor o wybodaeth am y mater hwn ar gais.
Hawlfraint ac eiddo deallusol
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gael caniatâd i ddefnyddio’r holl ddogfennau, cynlluniau, lluniadau, delweddau a chynnwys sain neu weledol a gynhwysir yn eu cais a gyflwynwyd. Gweler ein .
Ceisiadau yng Nghymru
Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio Gynllun Iaith Gymraeg sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Ar gyfer NSIPau yng Nghymru, dylai ymgeiswyr ddarparu dogfennau cais priodol yn Gymraeg a Saesneg. Dylai ymgeiswyr drafod gyda’r awdurdod lleol perthnasol pa ddogfennau a ddylai fod ar gael yn Gymraeg. Yr ymgeisydd sy’n gyfrifol am ddarparu cyfieithiadau o ddogfennau cais pan fydd angen.
Rhestr wirio derbyn cais
Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi cynhyrchu ‘rhestr wirio derbyn ceisiadau’ yn seiliedig ar y meini prawf yn adran 55 y Ddeddf Cynllunio. Defnyddir y rhestr wirio i helpu’r Arolygiaeth Gynllunio i benderfynu a yw cais o safon foddhaol i’w dderbyn i’w archwilio.
Darperir copi o’r rhestr wirio yn Atodiad 2.
Fe allai’r rhestr wirio fod yn ddefnyddiol i ymgeiswyr wrth baratoi eu ceisiadau i’w cyflwyno. Fodd bynnag, nid yw cwblhau’r rhestr wirio hon yn gwarantu y bydd y cais yn cael ei dderbyn. Mater i’r Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, yw’r penderfyniad i dderbyn cais ar ôl ystyried deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol.
Shapefile GIS
Er mwyn helpu i adolygu digonolrwydd ymgynghoriad cyn-ymgeisio, gan gynnwys adnabod ymgyngoreion rhagnodedig, dylai ymgeiswyr ddarparu ‘shapefile’ System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i’r Arolygiaeth Gynllunio o’r tir sy’n destun y cais NSIP.
Dylai’r shapefile GIS gael ei hanfon trwy e-bost at flwch negeseuon e-bost yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer y prosiect, o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn i’r cais gael ei gyflwyno.
Dylai’r shapefile GIS:
- fod o fath geometreg bolygon a chynnwys un neu fwy o nodweddion polygon sy’n cynrychioli ffin safle arfaethedig y DCO, gan gynnwys unrhyw ddatblygiad dros dro, parhaol a chysylltiedig
- bod yn Shapefile ESRI unigol, ddilys ar gyfer ffin safle arfaethedig y DCO, a ddarperir fel ffeil *.zip gan ddefnyddio gosodiadau diofyn WinZip heb amgryptiad a chyda chywasgiad arferol
- cynnwys un o bob un o’r ffeiliau canlynol *.prj, *.dbf, *.shp, *.shx
- peidio â chynnwys unrhyw ffeiliau eraill o fewn y ffeil *.zip
- bod yn fformat y Grid Cenedlaethol Prydeinig (OSGB1936).
Nid yw ffeiliau *.zip lluosog neu ffeiliau .shp lluosog o fewn un ffeil sip yn cydweddu â system GIS yr Arolygiaeth Gynllunio. Os yw ffin safle arfaethedig y DCO yn cynnwys sawl polygon ar wahân, dylai’r rhain i gyd gael eu cynnwys o fewn y shapefile unigol a gynhwysir yn y ffeil *.zip.
ھDZ
Ffioedd cyn-ymgeisio
O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n codi ffioedd am ei chyngor a’i gwasanaethau a ddarperir i ymgeiswyr yn ystod y cam cyn-ymgeisio.
Mae adran 4 y Ddeddf Cynllunio yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy’n darparu ar gyfer codi ffioedd gan yr Arolygiaeth Gynllunio (sy’n gweithredu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol). Mae rheoliad 2A ac atodlen 1 Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ffioedd) 2010 (fel y’u diwygiwyd) yn amlinellu’r ffioedd a godir am ddarparu gwasanaethau cyn-ymgeisio’r Arolygiaeth Gynllunio sy’n ymwneud â:
- rhoi cyngor i’r ymgeisydd o dan adran 51 y Ddeddf Cynllunio
- y broses asesu effeithiau amgylcheddol o dan Reoliadau AEA 2017
- rhoi cyngor ar faterion sy’n ymwneud â’r amserlen ar gyfer archwilio a pharatoi ceisiadau mewn perthynas â chaniatáu o dan y Weithdrefn Garlam
- gwasanaethau a ddarperir i’r ymgeisydd yn gysylltiedig ag unrhyw faterion y mae’r Ysgrifennydd Gwladol o’r farn eu bod yn bwysig ac yn berthnasol i’w benderfyniad o dan adran 104 (penderfyniadau mewn achosion lle mae datganiad polisi cenedlaethol mewn grym) ac adran 105 (penderfyniadau mewn achosion lle nad oes datganiad polisi cenedlaethol mewn grym) y Ddeddf Cynllunio.
Yn ogystal, mae adran 54A y Ddeddf Cynllunio (fel y’i diwygiwyd) hefyd yn galluogi rhai awdurdodau cyhoeddus rhagnodedig i godi ffioedd am wasanaethau penodol a ddarperir ganddynt ynghylch ceisiadau NSIP a darpar geisiadau.
Darllenwch ganllawiau’r llywodraeth ar Adennill Costau a Phrosbectws Cyn-ymgeisio yr Arolygiaeth Gynllunio i gael gwybodaeth am ein gwasanaethau y gellir codi tâl amdanynt.
Ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn dechrau darparu’r gwasanaeth cyn-ymgeisio y cytunwyd arno, gan gynnwys paratoi Barn Gwmpasu, nes i’r taliad glirio. Bydd angen i’r ymgeisydd dalu unrhyw ffioedd cyn-ymgeisio sy’n weddill a godwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio cyn cyflwyno ei gais ar gyfer Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP).
Ffi ymgeisio
Mae’n rhaid i’r ffi sy’n cyd-fynd â’r cais gael ei thalu pan gyflwynir y cais NSIP. Nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio’n cyhoeddi anfoneb am y ffi ymgeisio ac ni fydd yn ystyried y cais hyd nes y derbynnir y taliad.
Ffi cyn-archwilio
Os derbynnir y cais i’w archwilio, codir ffi cyn-archwilio. Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n cyhoeddi anfoneb sy’n amlinellu’r telerau a’r amodau ar gyfer talu. Pennir swm y ffi yn ôl maint y panel a benodir i archwilio’r cais.
Os na fydd yr ymgeisydd yn talu’r ffi hon o fewn y cyfnod penodedig, ni fydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n cymryd unrhyw gamau pellach ynglŷn â’r cais hyd nes y gwneir y taliad.
Ffi archwilio
Rhennir y ffi archwilio’n ddau daliad:
- mae’r anfoneb gyntaf ar gyfer hanner cost yr archwiliad a chaiff ei chyhoeddi ar ôl y cyfarfod rhagarweiniol
- mae’r ail anfoneb ar gyfer gweddill balans y ffi archwilio a chaiff ei chyhoeddi yn fuan ar ôl i’r archwiliad ddod i ben.
Os na fydd yr ymgeisydd yn talu’r taliad olaf o fewn y cyfnod penodedig, fe allai hyn effeithio ar y broses ymgeisio.
Dull talu
Bydd pob ffi berthnasol yn cael ei thalu trwy drosglwyddiad electronig. Dylid talu’n brydlon erbyn y dyddiad dyledus a roddir ar unrhyw anfoneb.
Codir yr holl ffioedd sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf Cynllunio yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol. Mae rhestr o’r ffioedd a godir ar gael yn y Canllaw i ymgeiswyr ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.
Dogfennau drafft
Yn rhan o’n gwasanaeth cyn-ymgeisio haen safonol a haen manylach a gynigir, gall ymgeiswyr gyflwyno dogfennau cais drafft i’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer cyngor. Gellir adolygu mwy o ddogfennau yn rhan o’r gwasanaeth manylach, o gymharu â’r gwasanaeth safonol. O fewn y gwasanaeth haen sylfaenol a gynigiwn, nid yw’r Arolygiaeth yn rhoi cyngor ar ddogfennau cais drafft. Rhoddir adborth ar ddogfennau drafft yn ysgrifenedig fel arfer, a ddilynir gan gyfarfod rhwng yr ymgeisydd a thîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio i drafod y camau nesaf.
Ni fydd unrhyw gyngor a roddir yn rhagfarnu’r penderfyniad ffurfiol ynglŷn â ph’un ai derbyn y cais i’w archwilio o dan adran 55 y Ddeddf Cynllunio.
Dylai ymgeiswyr hefyd rannu rhannau o ddogfennau a data’r cais gydag awdurdodau lleol perthnasol ac unrhyw bartïon eraill yr ymgynghorir â nhw’n barhaus. Bydd hyn yn galluogi’r cyrff hynny i ymgysylltu â’r ymgeisydd ynglŷn â deunydd drafft ar adeg briodol.
Dylai ymgeiswyr barhau i drafod gyda’r Arolygiaeth Gynllunio er mwyn sicrhau bod gwybodaeth y cais yn cael ei pharatoi a’i chyflwyno’n effeithiol, yn dibynnu ar lefel y gwasanaeth a gaffaelir. Bydd hyn yn helpu ceisiadau i gael eu hasesu’n effeithlon ac yn sicrhau bod gwybodaeth mor hygyrch â phosibl i’r holl bartïon.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio’n cyhoeddi dogfennau’r cais ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Bydd gan yr Arolygiaeth Gynllunio 28 niwrnod i benderfynu p’un ai derbyn y cais i’w archwilio. Bydd yr amserlen hon yn dechrau y diwrnod ar ôl i’r cais gael ei gyflwyno.
Hysbysir yr ymgeisydd am y penderfyniad ynglŷn â ph’un a yw’r cais wedi cael ei dderbyn i’w archwilio. Os na dderbynnir y cais, rhoddir rhesymau.
O dan adran 56 y Ddeddf Cynllunio, mae’n rhaid i ymgeiswyr roi gwybod i bob un o’r unigolion a’r cyrff rhagnodedig a rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais a dderbyniwyd. Mae’n rhaid sicrhau bod y cais, gan gynnwys yr holl wybodaeth ategol, ar gael i’r unigolion a’r cyrff hyn a hysbyswyd.
Bydd angen cyhoeddusrwydd, ymgynghoriad ac ardystiad ychwanegol ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd sy’n cynnwys asesiad o’r effaith amgylcheddol. Dylid sicrhau bod un copi o leiaf, ar ffurf electronig neu argraffedig, ar gael mewn lleoliad neu leoliadau yn ardal y datblygiad arfaethedig. Mater i ymgeiswyr yw penderfynu faint o gopïau argraffedig maen nhw’n ystyried y bydd angen eu darparu.
Cysylltu â ni
Os bydd arnoch angen trafod eich cais yn ystod unrhyw gam, anfonwch neges e-bost at dîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae cyfeiriad e-bost y tîm achos ar gael ar dudalen y prosiect ar y wefan .
Os ydych yn ansicr ynghylch pwy i gysylltu ag ef yn yr Arolygiaeth Gynllunio, gallwch gysylltu â ni trwy’r opsiynau canlynol:
Ffurflen gyswllt:
-Dz: NIEnquiries@planninginspectorate.gov.uk
Rhif ffôn: 0303 444 5000
Gellir gweld gwybodaeth am yr Arolygiaeth Gynllunio ar 51.
Mae rhagor o wybodaeth am y broses NSIP ar gael ar ein gwefan .
Atodiad A: Trefn gwybodaeth a gyflwynir gyda cheisiadau NSIP
Cyfeiriwch at y gofynion yn Rheoliad 5(2) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (y Rheoliadau CFfGR), Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol y llywodraeth, casgliad o nodiadau cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio a’r Prosbectws Cyn-ymgeisio am fanylion. Bydd angen i ymgeiswyr benderfynu pa wybodaeth y mae’n rhaid iddi fod yn rhan o’r cais yn ôl y ddeddfwriaeth a pha wybodaeth sy’n berthnasol i’w prosiect penodol.
Rhif y Ddogfen | Categori | Math o Ddogfen | |
---|---|---|---|
Cyfrol 1.0 | Ffurflenni cais | ||
1.1 | Ffurflen gais | ||
1.2 | Llythyr Eglurhaol y Cais | ||
1.3 | Canllaw i’r Cais | ||
1.4 | Copïau o hysbysiadau papurau newydd | ||
1.5 | Dogfen Rhaglen Cyn-ymgeisio | ||
1.6 | Rhestr wirio adran 55 yr ymgeisydd (Atodiad 2) | ||
1.7 | Dogfen Derbyn Gweithdrefn Garlam (y Weithdrefn Garlam yn unig) | ||
Cyfrol 2.0 | Cynlluniau a lluniadau | ||
2.1 | Cynlluniau lleoliad | ||
2.2 | Cynlluniau tir | ||
2.3 | Cynllun gwaith | ||
2.4 | Cynlluniau mynediad a Hawliau Tramwy | ||
2.5 | Cynlluniau gosodiad safle | ||
2.6 | Lluniadau gwedd | ||
2.7 | Cynlluniau llawr | ||
2.8 | Mynediad, parcio a thirweddu | ||
2.9 | Draenio a/neu reoli dŵr wyneb | ||
2.10 | Cynlluniau a thrychiadau eraill manwl | ||
2.11 | Cynlluniau safleoedd neu nodweddion statudol ac anstatudol (cadwraeth natur, cynefinoedd, parthau cadwraeth morol, cyrff dŵr ac ati) | ||
2.12 | Cynlluniau sy’n dangos safleoedd henebion hanesyddol neu gofrestredig statudol neu anstatudol | ||
2.13 | Cynllun tir y Goron | ||
2.14 | Siartiau ar gyfer cynlluniau morol | ||
2.15 | Gorchymyn Cadw Coed a Chynllun Gwrychoedd | ||
Cyfrol 3.0 | DCO drafft | ||
3.1 | Gorchymyn arfaethedig drafft | ||
3.2 | Memorandwm esboniadol i’r gorchymyn arfaethedig drafft | ||
Cyfrol 4.0 | Gwybodaeth caffael gorfodol | ||
4.1 | Datganiad o’r rhesymau | ||
4.2 | Datganiad ariannu | ||
4.3 | Llyfr cyfeirio (rhannau 1 i 5) | ||
4.4 | Traciwr Trafodaethau Tir a Hawliau Cyn-ymgeisio | ||
Cyfrol 5.0 | Adroddiadau a datganiadau | ||
5.1 | Adroddiad ymgynghori | ||
5.2 | Adroddiad Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd | ||
5.3 | Adroddiad i Lywio Asesiad Priodol (lle bo’n berthnasol neu’n ofynnol) | ||
5.4 | Datganiad Niwsans Statudol | ||
5.5 | Cydsyniadau a thrwyddedau sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth arall | ||
5.6 | Datganiad Cynllunio | ||
5.7 | Datganiad Dylunio a Mynediad (DAS) | ||
5.8 | Datganiad Cydymffurfio â Pholisïau | ||
5.9 | Dogfen Prif Faterion Posibl ar gyfer yr Archwiliad (a ategir gan Ddatganiadau Crynhoi Prif Feysydd Anghytundeb) | ||
5.10 | Datganiad Tir Cyffredin (SOCG) (os yw ar gael ar y cam derbyn) | ||
5.11 | Dogfen Ymagwedd Ddylunio (DAD) | ||
5.12 | Asesiad Diogelwch (lle bo’n ofynnol) | ||
5.13 | Materion Diogelwch Cenedlaethol (lle bo’n ofynnol) | ||
5.14 | Manylion datblygiad cysylltiedig, gyda chyfeiriadau at ddogfennau | ||
Cyfrol 6.0 | Datganiad amgylcheddol | Gweler ein Cyngor ar y Datganiad Amgylcheddol a’r Dudalen Cyngor Technegol berthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y fformat a’r dull safonol ar gyfer gwybodaeth ac asesiadau amgylcheddol. | |
Cyfrol 1 | Penodau cyflwyniadol | ||
Cyfrol 2 | Penodau agwedd | ||
Cyfrol 3 | Dogfennau eraill y datganiad amgylcheddol ac atodiadau technegol | ||
Crynodeb annhechnegol | |||
Cyfarwyddyd sgrinio (os yw’n berthnasol) | |||
Barn gwmpasu (os yw’n berthnasol) | |||
Gofynion cyhoeddusrwydd | |||
Cyfryngau eraill | Gwybodaeth fodel | ||
Unrhyw wybodaeth am gyfryngau eraill | |||
Cyfrol 7.0 | Gwybodaeth ragnodedig ychwanegol ar gyfer prosiectau o fathau penodol | Gorsaf gynhyrchu alltraeth: * Manylion y llwybr arfaethedig ar gyfer ceblau alltraeth * Datganiad parth diogelwch |
|
Gorsaf gynhyrchu nad yw’n alltraeth: * Datganiad cyfrifoldeb ar gyfer dylunio ac adeiladu’r cysylltiad |
|||
Datblygiad priffordd neu reilffordd: *Lefelau, dyfnderoedd, ac uchderau’r gwaith arfaethedig *Croestoriadau * Manylion gollyngfeydd draenio |
|||
Cyfleusterau harbwr: *Datganiadau ynghylch pam mae’r DCO yn angenrheidiol |
|||
Piblinellau: *Enw a pherchennog *Mesuriadau’r biblinell * Beth fydd yn cael ei gludo gan y biblinell * Unrhyw hawliau mewn tir neu gydsyniadau sy’n ofynnol |
|||
Cyfleuster gwastraff peryglus: *Datganiad ynghylch diben a chapasiti blynyddol, gwaredu terfynol, ac adfer |
|||
Argae neu gronfa ddŵr: *Amwynderau hamdden |
|||
Dogfennau eraill | Unrhyw ddogfen arall na restrir uchod y mae’r ymgeisydd yn dewis ei chynnwys i gefnogi’r cais. Fe allai’r rhain fod yn ddogfennau i fodloni gofynion Datganiad Polisi Cenedlaethol, gan gynnwys, er enghraifft, arfarniad o gynaliadwyedd, asesiad o’r effaith ar iechyd, cynllun teithio, cod ymarfer adeiladu, neu adroddiad economi garbon. |
Updates to this page
-
Process for submitting the application updated and new Appendix 1: Application index added
-
Various updates to clarify the order of application information.
-
Various updates to clarify the order of application information.
-
Appendix 3 (Application acceptance checklist) updated
-
First published.