Credyd Cynhwysol a theuluoedd gyda mwy na 2 o blant: gwybodaeth i hawlwyr
Gwybodaeth am y cyfyngiad dau o blant mewn Credyd Cynhwysol ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol presennol ac hawlwyr newydd.
Ffeithiau pwysig
Bydd hawl gennych i gael swm ychwanegol ar gyfer unrhyw blentyn a aned cyn 6 Ebrill 2017.
Ni fydd Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol a aned ar neu ar 担l 6 Ebrill 2017, oni fydd amgylchiadau arbennig yn gymwys.
Er enghraifft, os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, gyda chyfrifoldeb am 2 blentyn ach bod wedyn yn rhoi genedigaeth i blentyn newydd, ni fyddwch yn cael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn newydd hwnnw, oni fydd amgylchiadau arbennig yn gymwys.
Bydd dal gennych hawl i gael cymorth ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw blant anabl, hyd yn oed os nad ydych yn cael swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn anabl.
Efallai bydd gennych ddal hawl i gael help gyda chostau gofal plant ar gyfer unrhyw un och plant, hyd yn oed os nad ydych yn cael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer eich holl blant.
Pan fyddwn yn cyfeirio at blentyn yn y canllawiau hyn, ystyr hynny yw person:
-
dan 16 oed
-
16 i 19 oed (hyd at a chan gynnwys 31 Awst yn dilyn eu penblwydd yn 19 oed, os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant cymwys
Gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol
Bydd Credyd Cynhwysol yn derbyn ceisiadau newydd gan deuluoedd gwaeth faint o blant sydd gennych. Os ydych yn gwneud cais newydd, bydd Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol ar gyfer yr holl blant a aned cyn 6 Ebrill 2017.
Bydd unrhyw amgylchiadau arbennig oedd yn gymwys mewn dyfarniad blaenorol o Gredyd Cynhwysol, Credyd Treth Plant, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn parhau i fod yn gymwys yn eich dyfarniad Credyd Cynhwysol newydd, oni bai nad ywr amodau dros yr eithriad hwnnw yn cael eu cwrdd bellach.
Amgylchiadau arbennig
Rydym yn galwr amgylchiadau arbennig hyn yn eithriadau.
Os ydych yn gyfrifol am drydydd plentyn neu blentyn dilynol au bod yn bodlonir meini prawf ar gyfer yr eithriadau ar gyfer genedigaethau lluosog neu feichiogiad nad oedd yn gydsyniol a restrir isod, efallai y gallwch gael y swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn hwnnw.
Efallai y gallwch gael eithriad ar gyfer unrhyw blant yn eich cartref syn bodlonir meini prawf ar gyfer yr eithriadau ar gyfer gofal heb fod yn rhiant neu drefniant mabwysiadu. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau y gallwch eu cael ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.
Genedigaethau lluosog
Gallwch gael Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer eich trydydd plentyn a phlant dilynol os c但nt eu geni fel rhan o enedigaeth luosog, heblaw am un plentyn yn yr enedigaeth honno. Mae hyn yn golygu bod yr eithriad yn gymwys ir plant ychwanegol yn yr enedigaeth honno.
Er enghraifft, os ydych eisoes yn cael symiau ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer 2 blentyn presennol, ach bod wedyn yn cael efeilliaid, byddwn yn talu swm plentyn ychwanegol arall o Gredyd Cynhwysol ar gyfer un or efeilliaid hynny (syn golygu y bydd gennych hawl i gael swm ar gyfer 3 allan o 4 och plant).
Os mair plentyn cyntaf or enedigaeth luosog ywr plentyn cyntaf neur ail blentyn yn y cartref, byddwn yn talu swm plentyn ar gyfer pob plentyn a anwyd fel rhan or enedigaeth luosog.
Plant a fabwysiadwyd
Ers 28 Tachwedd 2018, maer polisi ar gyfer pryd y byddwn yn talu am blant sydd wediu mabwysiadu wedi newid.
Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant mabwysiadu, byddwch yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.
Bydd yr eithriad fel arfer yn gymwys or dyddiad y byddwch yn dod yn gyfrifol am y plentyn a fabwysiadwyd.
Gallai hyn fod yn ddyddiad y trefniant mabwysiadu ffurfiol, neun ddyddiad lleoli, yn dibynnu ar pryd y caiff cyfrifoldeb rhianta ar gyfer y plentyn ei drosglwyddo i chi. Bydd angen i chi roi dogfennau ategol ar gyfer unrhyw blentyn neu blant a fabwysiadwyd syn byw gyda chi.
Ni allwch gael swm ychwanegol ar gyfer plentyn a fabwysiadwyd os bydd wedii fabwysiadu o dramor, neu os oeddech chi neuch partner yn rhiant neun llys-riant iddo cyn i chi ei fabwysiadu.
Plant syn byw gyda theulu a ffrindiau fel rhan o drefniadau gofalu heb fod yn rhiant
Ers 28 Tachwedd 2018, maer polisi ar gyfer pryd y byddwn yn talu am blant syn rhan o drefniadau gofalu heb fod yn rhiant wedi newid.
Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant gofalu heb fod yn rhiant, byddwch yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.
Gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer unrhyw blentyn neu blant sydd eisoes yn byw gyda chi fel rhan o un or trefniadau canlynol:
- trefniant gofalu ffurfiol
- trefniant gofalu anffurfiol, lle y byddain debygol y byddent wedi cael eu rhoi yng ngofal yr awdurdod lleol fel arall
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn talu swm plentyn ychwanegol pan fydd gan blentyn yn eich cartref (dan 16 oed) blentyn ei hun, rydych yn gyfrifol amdanynt.
Gofalwyr syn ffrindiau neun deulu: gofal ffurfiol
Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant gofalu ffurfiol, efallai y gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.
Gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer unrhyw blentyn neu blant os ydych yn gofalu amdanynt drwy drefniant gofalu ffurfiol, er enghraifft:
- gorchymyn trefniadau plentyn
- gorchymyn gwarcheidiaeth
- gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig
- rydych wedi cael eich penodin Warcheidwad (yn yr Alban)
- kinship care order (yn yr Alban)
- permanence order (yn yr Alban)
Maer eithriad hefyd yn gymwys os oedd un or trefniadau ffurfiol hyn mewn lle ond ei fod wedi dod i ben ar ben-blwydd y plentyn yn 16 oed, cyhyd 但ch bod wedi parhau i fod yn gyfrifol amdanynt ers hynny.
Gofalwyr syn ffrindiau neun deulu: gofal anffurfiol
Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant gofalu anffurfiol, efallai y gallwch gael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.
Bydd yr eithriad ond yn gymwys os ywn debygol y byddair plentyn wedi cael ei roi yng ngofal yr awdurdod lleol fel arall.
Bydd angen i chi ddarparu dogfennau ategol gan weithiwr cymdeithasol or awdurdod lleol gan ddefnyddior IC1 ffurflen cymorth ar gyfer plentyn syn byw gyda chi yn anffurfiol.
Ni fydd yr eithriad hwn yn gymwys os ydych chi neu eich partner yn rhiant neun llys-riant ir plentyn.
Gofalwyr syn ffrindiau neun deulu: plant dan 16 oed sydd 但 phlentyn
Maer eithriad hwn yn gymwys pan fydd plentyn dan 16 oed rydych yn gyfrifol amdanynt yn dod yn rhiant i blentyn. Efallai y gallwch gael Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer y plentyn newydd os ydynt hefyd yn rhan och cartref. Ni fydd hyn yn effeithio ar y swm a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref.
Byddwch yn parhau i gael y swm ychwanegol nes bydd y rhiant ifanc naill ai:
- yn 16 oed ac yn gallu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, neu
- yn gadael eich cartref, gan adael y plentyn yn eich gofal, oni fydd eithriad arall yn gymwys
Plant y maen debygol eu bod wedi cael eu beichiogi o ganlyniad i weithred rywiol nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais), neu ar adeg pan oedd yr hawlydd yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus gan riant biolegol arall y plentyn
Gallwch gael Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn neu blant dilynol yn eich cartref y maen debygol eu bod wedi cael eu beichiogi o ganlyniad i weithred rywiol na wnaethoch roi cydsyniad iddi neu nad oedd yn bosibl i chi wneud hynny.
Mae hyn yn ymwneud 但 phlentyn sydd naill ai:
- yn debygol o fod wedi cael eu geni o ganlyniad i feichiogiad nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais)
- wediu feichiogi ar adeg neu o gwmpas adeg pan roedd eich cydberthynas 但 rhiant biolegol arall y plentyn yn dreisgar ach bod yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus
Er mwyn bod yn gymwys i gael yr eithriad hwn (ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol) ni ddylech fod yn byw gyda rhiant biolegol y plentyn mwyach a bydd gofyn i chi gadarnhau hyn.
Rydym yn cydnabod bod angen mynd ir afael 但r eithriad hwn mewn modd hynod sensitif. Fodd bynnag, maen bwysig iawn cael yr eithriad hwn er mwyn eich helpu os ydych yn y sefyllfa hon.
Ni fydd staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich holi am y digwyddiad heblaw am dderbyn y cais ar wybodaeth ategol. Caiff unrhyw wybodaeth a dderbynnir ei thrin yn unol 但r rheolau y maer Adran Gwaith a Phensiynau eisoes yn eu defnyddio ar gyfer trin a defnyddio gwybodaeth hynod sensitif.
Ceir rhagor o wybodaeth yn siarter gwybodaeth bersonol yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gall yr eithriad hwn fod yn gymwys pan fydd euogfarn wedii wneud am drais neu am ymddygiad rheoli neu orfodi, neu ble rydych wedi derbyn Taliad Iawndal Anafiadau Troseddol ond nid oes raid bod achos llys nac euogfarn wedi digwydd. Os oes gennych wybodaeth am naill ai euogfarn neu daliad gallwn ddefnyddio hyn i gefnogi eich cais am yr eithriad hwn.
Os nad oes gennych ddogfennau i ategur eithriad hwn eisoes, byddwch yn gallu llenwi ffurflen cymorth ar gyfer plentyn a feichiogwyd heb eich cydsyniad. Gallwch wneud hyn gyda help gan sefydliadau neu unigolion fel:
- gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, er enghraifft, meddygon, nyrsys, bydwragedd neu ymwelwyr iechyd
- gweithwyr cymdeithasol cofrestredig
- sefydliadau penodol, fel elusennau trais arbenigol dewch o hyd i restr or sefydliadau hyn
Bydd angen iddynt roi cadarnhad bod eich amgylchiadaun gyson 但r meini prawf ar gyfer eithriad. Ni fyddwch mewn sefyllfa lle y bydd rhaid i chi roi manylion am amgylchiadaur beichiogrwydd i staff yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Hyd yn oed pan na allwch gael y cadarnhad hwn, cysylltwch 但ch anogwr gwaith. Byddant yn gallu eich helpu i gael y cymorth trydydd parti rydych ei angen.
Os oes trosedd neu achos o gam-drin domestig wedi effeithio arnoch neu os ywr wybodaeth hon wedi peri gofid i chi, mae cymorth ar gael i chi.
Os byddwch angen siarad 但 rhywun, cysylltwch ag un or sefydliadau canlynol:
- Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) - mae SARCs mewn rhai ardaloedd or DU, defnyddiwch i ddod o hyd i un yn eich ardal
- mae mwy na 135 o aelod asiantaethau ledled y DU syn rhoi cymorth i oroeswyr trais, trais rhywiol neu gam-drin rhywiol yn ystod plentyndod (Ff担n: 0808 801 0818)
- elusen genedlaethol ar corff ambar辿l ar gyfer rhwydwaith o Ganolfannau Argyfwng Trais syn aelodau annibynnol (Ff担n: 0808 802 9999)
- , gwasanaeth cenedlaethol 24 awr yn cael ei redeg gan Refuge, (Ff担n: 0808 2000 247)
- - (Ff担n: 0808 801 0302)
- llinell ff担n 24 awr am ddim a gaiff ei staffio gan weithwyr wediu hyfforddin arbennig a gwirfoddolwyr a reolir gan Scottish Womens Aid (Ff担n: 0800 027 1234)
- llinell gymorth 24 awr am ddim a gaiff ei rhedeg gan Cymorth i Ferched Cymru (Ff担n: 0808 80 10 800)
- elusen annibynnol syn cynnig cymorth i bobl y mae troseddau neu ddigwyddiadau trawmatig wedi effeithio arnynt (Ff担n: 0808 168 9111)
- y Llinell Gymorth Stelcio Genedlaethol - rhoi canllawiau a gwybodaeth i unrhyw un y mae achosion o aflonyddu neu stelcio yn effeithio arnynt nawr neu wedi gwneud yn flaenorol (Ff担n: 0808 802 0300 neu e-bost: advice@stalkinghelpline.org)
Efallai y bydd y yn ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i gymorth yn eich ardal leol.
Gwneud cais am eithriad
Pan fyddwch yn dweud wrthym am blentyn newydd yn eich cartref, byddwch yn cael gwybodaeth am yr eithriadau. Gallwch ddweud wrthym am blentyn newydd drwy ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Os bydd un or eithriadau yn gymwys ir plentyn newydd, dyma beth fydd angen i chi ei wneud:
Genedigaeth luosog
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych am wneud cais am yr eithriad hwn naill ai dros y ff担n neu drwy ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Os byddwch yn cysylltu 但 ni dros y ff担n, efallai y gofynnir i chi roir tystysgrifau geni gwreiddiol perthnasol i ni.
Os byddwch yn cysylltu 但 ni drwy ddefnyddio eich cyfrif ar-lein, byddwn yn eich ffonio ac efallai y gofynnir i chi roi unrhyw dystysgrifau geni gwreiddiol i ni.
Gallwch naill ai roir tystysgrifau geni ich anogwr gwaith neu eu hanfon ir cyfeiriad isod. Pan fyddwn wedi gweld y tystysgrifau geni, byddwn yn eu dychwelyd atoch.
Plant a fabwysiadwyd
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych am wneud cais am yr eithriad hwn naill ai dros y ff担n neu gan ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Os byddwch yn cysylltu 但 ni dros y ff担n, efallai y gofynnir i chi roir dogfennau ategol perthnasol i ni, er enghraifft, tystysgrif mabwysiadu.
Os ydych wrthin mabwysiadu plentyn ac nad oes tystysgrif mabwysiadu ar gael, bydd angen i chi roi dogfennau ategol ysgrifenedig gan weithiwr cymdeithasol.
Rhaid ir rhain gynnwys:
- y dyddiad y cafodd y plentyn ei leoli gyda chi
- enwr plentyn
- enw(au) y rhiant/rhieni mabwysiadu
Os byddwch yn cysylltu 但 ni gan ddefnyddio eich cyfrif ar-lein, byddwn yn eich ffonio ac efallai y gofynnir i chi roir dogfennau ategol perthnasol i ni.
Gallwch naill ai roir dogfennau ich anogwr gwaith neu eu hanfon ir cyfeiriad isod. Pan fyddwn wedi gweld y dogfennau mabwysiadu perthnasol, byddwn yn eu dychwelyd atoch.
Gofalwyr syn ffrindiau neun deulu: gofal ffurfiol
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych am wneud cais am yr eithriad hwn naill ai dros y ff担n neu drwy ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Os byddwch yn cysylltu 但r Adran Gwaith a Phensiynau dros y ff担n, efallai y gofynnir i chi roir dogfennau ategol perthnasol i ni, er enghraifft, gorchymyn trefniadau plentyn neu brawf o warcheidiaeth.
Os byddwch yn cysylltu 但r Adran Gwaith a Phensiynau drwy eich cyfrif ar-lein, bydd yn eich ffonio ac efallai y gofynnir i chi roir dogfennau ategol perthnasol i ni, fel uchod.
Gallwch naill ai roir dogfennau gofal ffurfiol ategol ich anogwr gwaith neu eu hanfon ir cyfeiriad isod. Pan fyddwn wedi gweld y rhain, byddwn yn eu dychwelyd atoch.
I wneud cais am yr eithriad hwn, bydd angen i chi roi dogfennau ategol y trefniant hwn i ni er enghraifft gorchymyn trefniadau plentyn.
Gofalwyr syn ffrindiau neun deulu: gofal anffurfiol
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych am wneud cais am yr eithriad hwn naill ai dros y ff担n neu drwy ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Os byddwch yn cysylltu 但 ni dros y ff担n neun defnyddio eich cyfrif ar-lein, gofynnir i chi lawrlwythor IC1 ffurflen cymorth i blentyn syn byw gyda chi yn anffurfiol.
Os nad oes gennych fynediad ir rhyngrwyd, gallwch gasglur ffurflen gan eich anogwr gwaith, neu gall yr Adran Gwaith a Phensiynau bostior ffurflen atoch.
Byddwch angen cwblhaur ffurflen ynghyd 但r gweithiwr cymdeithasol. Bydd angen ir gweithiwr cymdeithasol gadarnhau ei bod yn debygol y byddair plentyn rydych yn gofalu amdanon anffurfiol wedi cael ei roi yng ngofal yr awdurdod lleol fel arall.
Gallwch naill ai roir ffurflen ich anogwr gwaith neu ei hanfon ir cyfeiriad isod.
Gofalwyr syn ffrindiau neun deulu: plentyn plentyn
I wneud cais am yr eithriad hwn, bydd angen i chi roi gwybodaeth am y trefniant hwn i ni er enghraifft tystysgrif geni.
Ble i anfon dogfennau eithriad
Canterbury Benefit Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2EA
Plant y maen debygol eu bod wedi cael eu beichiogi o ganlyniad i weithred rywiol nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais), neu ar adeg pan oedd yr hawliwr yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus gan riant biolegol arall y plentyn
Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os ydych am wneud cais am yr eithriad hwn naill ai dros y ff担n neu drwy ddefnyddio eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein.
Os byddwch yn cysylltu 但 ni dros y ff担n neun defnyddio eich cyfrif ar-lein, ac nid oes gennych unrhyw ddogfennau cefnogol, gofynnir i chi lawrlwythor ffurflen cymorth ar gyfer plentyn a feichiogwyd heb eich cydsyniad. Os nad oes gennych fynediad ir rhyngrwyd, gallwch gasglur ffurflen gan eich anogwr gwaith.
Bydd angen i chi gwblhaur ffurflen ynghyd 但ch gweithiwr trydydd parti proffesiynol.
Er mwyn gwneud cais am yr eithriad hwn ni ddylech fod yn byw gyda rhiant biolegol arall y plentyn mwyach.
Bydd angen i chi roir ffurflen ich anogwr gwaith. Peidiwch 但 phostior ffurflen ir Adran Gwaith a Phensiynau.
Ni fydd staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich holi am y digwyddiad heblaw am dderbyn y cais ar wybodaeth ategol.
Ble na allwch gael yr holl ddogfennau cefnogol, dylech gysylltu 但ch anogwr gwaith am gymorth.
Mwy o wybodaeth
Nid effeithir ar ginio ysgol am ddim a .
Dylech barhau i roi gwybod am enedigaeth plentyn ac unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau syn cynnwys plant neu bobl ifanc, er mwyn sicrhau na fyddwch yn colli allan ar fudd-daliadau.
Ers 28 Tachwedd 2018, maer polisi ar gyfer pryd y byddwn yn talu am blant syn rhan o drefniadau gofalu heb fod yn rhiant a phlant a gaiff eu mabwysiadu wedi newid.
Os bydd yr amgylchiadau hyn yn berthnasol ir plentyn cyntaf neur ail blentyn yn eich cartref, a bod gennych drydydd plentyn neu blentyn dilynol nad oeddech yn cael swm plentyn ar ei gyfer, dylech gysylltu 但r Adran Gwaith a Phensiynau i roi gwybod iddi fod y newid wedi effeithio arnoch.
Dim ond i gartref syn gyfrifol am blentyn a aned cyn 6 Ebrill 2017 y bydd premiwm plentyn cyntaf Credyd Cynhwysol yn daladwy.
Rhagor o wybodaeth fanylach am y cymorth ar gyfer hyd at 2 blentyn.
Updates to this page
-
From 27 January 2021 you can claim claim Universal Credit if youre getting Severe Disability Premium (SDP), or if you received SDP in the last month and are still eligible for it.
-
Page updated and revised.
-
Removed references to Universal Credit full service and live service.
-
Updated guidance to reflect that new claims to Universal Credit can now be made by households with more than 2 children.
-
Updated the guide to correct some drafting errors.
-
Updated to reflect regulation change for adopted and kinship care children.
-
Added an attachment 'Universal Credit: 2 child limit flowchart' to the section 'New claimants with 2 children or fewer'.
-
Universal Credit live service telephone helpline opening hours changed to 9am to 4pm.
-
Updated guide with new 0800 freephone numbers for Universal Credit.
-
Amended the date claimants with 3 or more children are able to claim Universal Credit.
-
Amended information for new claimants with 3 children or more.
-
Clarified the information about when someone with 3 or more children can make a new Universal Credit claim (English).
-
First published.