Gwybodaeth am y gyflogres i’w hadrodd i CThEF
Dysgwch beth sydd angen i chi ei gynnwys yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) a’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) os ydych yn talu cyflogeion drwy TWE.
Fel cyflogwr sy’n rhedeg cyflogres (yn agor tudalen Saesneg), mae angen i chi adrodd ynghylch cyflog eich cyflogai, ynghyd ag unrhyw fuddiannau a delir drwy’r gyflogres, a’i ddidyniadau mewn Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) (yn agor tudalen Saesneg) ar neu cyn ei ddiwrnod cyflog (oni bai bod eithriad (yn agor tudalen Saesneg) yn berthnasol).
Bydd hefyd angen i chi anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) (yn agor tudalen Saesneg) erbyn y 19eg o’r mis treth dilynol fel y gall CThEF wneud unrhyw ddidyniadau perthnasol (er enghraifft, tâl statudol) o’r hyn y bydd arnoch o’ch FPS.
Os nad ydych wedi talu unrhyw gyflogeion mewn mis treth, anfonwch EPS yn lle FPS.
Mae’n bosibl y bydd gan eich meddalwedd gyflogres enwau gwahanol ar gyfer y meysydd isod.
Gwybodaeth y cyflogwr
Dylech adrodd am y rhain ym mhob FPS ac EPS.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Rhif swyddfa CThEF | Y rhan cyntaf o’ch cyfeirnod TWE y cyflogwr (3 digid). Bydd hwn i’w weld ar y llythyr a anfonodd CThEF atoch pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr. Gallwch hefyd ddod o hyd iddo ar hysbysiadau cod P6 neu P9 |
Cyfeirnod TWE y cyflogwr | Yr ail ran o’ch cyfeirnod TWE y cyflogwr (y llythrennau a’r rhifau sy’n dilyn y blaenslaes) |
Cyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon | Fformat ‘123PA00012345’. Byddwch yn cael hwn gan CThEF ar ôl i chi gofrestru fel cyflogwr. Mae ar gael ar-lein os ydych yn talu trwy ddull electronig |
Y flwyddyn dreth berthnasol | Y flwyddyn Dreth Incwm y mae’r adroddiad hwn yn berthnasol iddi |
Dylech gynnwys y rhain os ydynt yn berthnasol i’ch busnes.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
SA UTR | Eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad (SA) os ydych chi’n unig fasnachwr, neu UTR ar gyfer y bartneriaeth os ydych chi’n bartneriaeth |
Cyfeirnod COTAX | Eich cyfeirnod Treth Gorfforaeth, os ydych chi’n gwmni cyfyngedig Os oes gennych fwy nag un, nodwch gyfeirnod y cwmni sy’n gyfrifol am gontractau cyflogaeth |
Gwybodaeth y cyflogai
Mae’n rhaid i chi ddatgan yr wybodaeth hon drwy anfon FPS bob y byddwch yn talu eich cyflogai.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Rhif Yswiriant Gwladol | Rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai. Gadewch hwn yn wag os nad ydych chi’n gwybod beth ydyw, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi ei gyfeiriad |
Teitl | Mr, Mrs, Miss, Ms neu deitl arall |
Cyfenw neu enw teuluol | Gwnewch yn siŵr bod y cyfenw neu enw teuluol wedi’i sillafu’n gywir |
Enw cyntaf neu enw a roddwyd | Defnyddiwch enw cyntaf llawn y cyflogai a pheidiwch â defnyddio enwau cyfarwydd neu lysenwau. Gwnewch yn siŵr bod yr enw cyntaf neu enw a roddwyd wedi’i sillafu’n gywir |
Ail enw cyntaf neu enw a roddwyd | Nodwch ail enw cyntaf llawn y cyflogai, os yw’n berthnasol. Peidiwch â defnyddio enwau cyfarwydd neu lysenwau |
Blaenlythrennau | Bydd angen cynnwys hwn dim ond os na fyddwch yn gwybod ei enwau cyntaf llawn |
Dyddiad geni | Nodwch ddyddiad geni eich cyflogai. Peidiwch â defnyddio dyddiad geni diofyn neu ffug. Mae’n rhaid i chi nodi dyddiad geni’r cyflogai ar bob cyflwyniad Gwybodaeth Amser Real (RTI) |
Rhyw | Mae’n rhaid i chi nodi rhyw y cyflogai, ar hyn o bryd, ar bob cyflwyniad RTI |
Cyfeiriad | Nodwch ei gyfeiriad os yw’n gyflogai newydd, neu os nad ydych chi’n gwybod ei rif Yswiriant Gwladol neu os yw cyfeiriad y cyflogai wedi newid |
Cod post yn y DU | Os ydych chi’n nodi cod post y cyflogai, mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud yn siŵr ei fod yn gywir. Os ydych yn nodi cod post anghywir, gallai hyn arwain at gyfeiriad y cyflogai’n cael ei newid ar ein systemau a gohebiaeth yn cael ei hanfon i’r cyfeiriad anghywir |
Gwlad dramor | Dylech nodi ei wlad breswyl dim ond os yw’n byw y tu allan i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw. Mae hefyd angen i chi lenwi’r maes ‘Cyfeiriad’ |
ID ar y gyflogres | Gallwch bennu ID ar y gyflogres i’ch cyflogeion. Mae’n rhaid i’r ID fod yn unigryw. Defnyddiwch un gwahanol os byddwch yn ail-gyflogi rhywun (os byddwch yn gwneud hyn yn ystod yr un flwyddyn dreth, ailddechreuwch ei wybodaeth ‘blwyddyn hyd yma’ o ‘£0.00’) neu os oes gennych gyflogai sydd â mwy nag un swydd yn yr un cynllun TWE. Os byddwch yn ailddefnyddio ID ar y gyflogres, byddwch yn creu cofnod dyblyg ac yn rhoi gwybod am y gyflogres yn anghywir |
Dangosydd newid i ID ar y gyflogres | Dylech osod y dangosydd ar gyfer newid ID y gyflogres dim ond wrth roi gwybod am newidiadau i ID y gyflogres gan wneud yn siŵr bod yr ‘HEN’ ID ar y gyflogres yn cael ei nodi ynghyd â’r ID ar y gyflogres ‘NEWYDD’. Ni ddylech gynnwys y dyddiad dechrau gwreiddiol. Peidiwch â nodi ‘Iawn’ os defnyddioch ID ar y gyflogres gwahanol pan wnaethoch chi ailgyflogi rhywun a oedd wedi gadael yn ystod yr un flwyddyn. Dylech wneud yn siŵr bod data ariannol y flwyddyn hyd yma yn cronni o’r hyn sydd ar y cyflwyniad blaenorol |
Yr hen ID ar y gyflogres am y gyflogaeth hon | Dylech nodi hen ID y cyflogai dim ond os yw ei ID wedi newid ers eich FPS diwethaf. Ni ddylech gwblhau hwn os ydych chi’n ailgyflogi rhywun. Os nad ydych chi’n nodi’r ID, a bod ganddo fwy nag un swydd yn eich cynllun TWE, mae’n bosibl y bydd eich bil TWE yn cael ei gyfrifo’n anghywir |
Dangosydd patrwm talu afreolaidd | Dylech nodi ‘Iawn’ dim ond os nad yw’r cyflogai yn cael ei dalu’n gyson (er enghraifft, mae’n gyflogai achlysurol neu’n absennol o’r gwaith yn hirdymor) neu os nad ydych chi’n mynd i’w dalu am 3 mis neu fwy |
Cyflog a didyniadau
Hysbysu gwybodaeth ynghylch cyflog a didyniadau pob cyflogai mewn FPS.
Cyflog a didyniadau a wnaed yn y chwarter hwn
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Cyflog trethadwy | Cyfanswm y cyflog trethadwy a wnaed i’r cyflogai (hyd yn oed os nad oes treth yn ddyledus) yn y cyfnod hwn, gan gynnwys unrhyw fuddiannau rydych chi wedi’u trethu drwy’r gyflogres |
Treth a ddidynnwyd neu a ad-dalwyd | Nodwch y dreth a ddidynnwyd neu a ad-dalwyd o’r taliad hwn |
Ad-daliad Benthyciad Myfyrwyr sydd wedi’i adennill | Nodwch y didyniadau benthyciad myfyriwr yn ystod y cyfnod cyflog hwn |
Ad-daliad Benthyciad Ôl-raddedig sydd wedi’i adennill | Nodwch y didyniadau benthyciad ôl-raddedig yn ystod y cyfnod cyflog hwn |
Cyflog ar ôl didyniadau statudol | Ei gyflog net ar ôl i chi ddidynnu treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr. Peidiwch â chynnwys taliadau rydych chi’n eu cynnwys yn ‘Taliad nad yw’n daliad sy’n agored i dreth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol’ |
Didyniadau o gyflog net | Unrhyw ddidyniadau rydych chi wedi’u gwneud er enghraifft, taliadau cynhaliaeth plant (peidiwch â chynnwys treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr) |
Ar streic | Dylech nodi ‘Iawn’ dim ond os gwnaethoch leihau cyflog eich cyflogai oherwydd ei fod ar streic |
Taliad nad yw’n daliad sy’n agored i dreth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol | Unrhyw daliad a wnaed i’r cyflogai nad yw’n agored i dreth TWE neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol a anfonwyd gyda’r taliad ‘cyflog’ ar gyfer y cyfnod hwn |
Math o gynllun benthyciad myfyriwr | Dewiswch y math o gynllun benthyciad myfyriwr sydd gan eich cyflogai. Os nad ydych chi’n gwybod hyn, dylai’ch cyflogai wirio gyda’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, fel arall dylech ddewis cynllun 1 hyd nes y byddwch yn cael hysbysiad dechrau benthyciad myfyriwr (SL1) |
Cyfansymiau y flwyddyn hyd yma
Enw’r maes | Disgrifiad |
---|---|
Cyfanswm cyflog trethadwy hyd yn hyn | Cyfanswm y cyflog trethadwy hyd yn hyn yn y gyflogaeth hon yn unig, gan gynnwys unrhyw fuddiannau sydd wedi’u trethu drwy’r gyflogres, gan gynnwys y taliad hwn |
Cyfanswm y dreth hyd yma | Nodwch gyfanswm y dreth hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon yn ystod y flwyddyn dreth, gan gynnwys y taliad hwn. Peidiwch â chynnwys treth a ddidynnwyd o unrhyw gyflogaeth flaenorol |
Ad-daliad Benthyciad Myfyrwyr sydd wedi’i adennill hyd yn hyn | Nodwch gyfanswm yr ad-daliadau benthyciad myfyrwyr a adenillwyd hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon yn ystod y flwyddyn dreth, gan gynnwys y taliad hwn |
Ad-daliad Benthyciad Ôl-raddedig sydd wedi’i adennill hyd yn hyn | Nodwch gyfanswm yr ad-daliadau benthyciad ôl-raddedig a adenillwyd hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon yn ystod y flwyddyn dreth, gan gynnwys y taliad hwn |
Os ydych wedi cyflogi’r un person mwy nag unwaith mewn blwyddyn dreth, dylech roi gwybod am ei gyflogaeth bresennol yn unig.
Didyniadau pensiwn
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Cyfraniadau pensiwn cyflogai a dalwyd o dan drefniadau cyflog net’ | Cyfraniadau pensiwn a dalwyd o dan ‘drefniadau cyflog net’ yn y cyfnod cyflog hwn |
Cyfraniadau pensiwn cyflogai nad ydynt wedi’u talu o dan ‘drefniant cyflog net’ | Cyfraniadau a ddidynnwyd o’i gyflog ar ôl didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y cyfnod hwn |
Cyfraniadau pensiwn cyflogai a dalwyd o dan ‘drefniadau cyflog net’ yn y flwyddyn hyd yma | Swm y cyfraniadau pensiwn y mae’ch cyflogai wedi’u talu o dan ‘drefniadau cyflog net’, hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon, yn ystod y flwyddyn dreth |
Cyfraniadau pensiwn cyflogai nad ydynt wedi’u talu o dan ‘drefniant cyflog net’ yn y flwyddyn hyd yma | Swm y cyfraniadau pensiwn nad ydynt wedi’u talu o dan ‘drefniadau cyflog net’, hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon, yn ystod y flwyddyn dreth |
Tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol, tâl mabwysiadu statudol, tâl statudol ar y cyd i rieni a thâl gofal newyddenedigol statudol
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) y flwyddyn hyd yma | Nodwch gyfanswm y Tâl Mamolaeth Statudol a dalwyd hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon |
Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) y flwyddyn hyd yma | Nodwch gyfanswm y Tâl Tadolaeth Statudol a dalwyd hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon |
Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) y flwyddyn hyd yma | Nodwch gyfanswm y Tâl Mabwysiadu Statudol a dalwyd hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon |
Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP) y flwyddyn hyd yma | Nodwch gyfanswm y Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni a dalwyd hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon |
Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth (SPBP) y flwyddyn hyd yma | Nodwch gyfanswm y Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth a dalwyd hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon |
Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (SNCP) y flwyddyn hyd yma | Nodwch gyfanswm y Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol a dalwyd hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon |
ShPP: Enw olaf neu enw teuluol ar gyfer y partner | Dylech nodi hwn dim ond pan fyddwch yn adrodd am ShPP am y tro cyntaf ar gyfer y cyflogai hwn |
ShPP: Enw cyntaf neu enw a roddwyd ar gyfer y partner | Dylech nodi hwn dim ond pan fyddwch yn adrodd am ShPP am y tro cyntaf ar gyfer y cyflogai hwn |
ShPP: Ail enw cyntaf neu enw a roddwyd ar gyfer y partner | Dylech nodi hwn dim ond pan fyddwch yn adrodd am ShPP am y tro cyntaf ar gyfer y cyflogai hwn |
ShPP: Rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer y partner | Dylech nodi hwn dim ond pan fyddwch yn adrodd am ShPP am y tro cyntaf ar gyfer y cyflogai hwn |
Os ydych chi’n talu buddiannau drwy’r gyflogres
Nodwch yr wybodaeth hon os ydych chi wedi cytuno â CThEF i drethu buddiannau drwy’r gyflogres, yn lle adrodd yn y ffordd arferol.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Eitemau sy’n agored i Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn unig | Nodwch werth yr eitemau sy’n agored i Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn unig |
Buddiannau yn y cyfnod hwn sydd wedi’u trethu drwy’r gyflogres | Nodwch werth y buddiannau y mae TWE wedi’i weithredu arnynt, drwy’r gyflogres, yn y cyfnod cyflog hwn. Bydd hefyd angen cynnwys hwn yn ‘Cyflog Trethadwy yn y Cyfnod Hwn’ |
Buddiannau sydd wedi’u trethu drwy’r gyflogres y flwyddyn hyd yma | Nodwch werth y buddiannau y mae TWE wedi’i weithredu arnynt, drwy’r gyflogres, hyd yn hyn, yn y gyflogaeth hon, yn ystod y flwyddyn dreth |
Manylion cyflog y cyflogai
Dylech adrodd am fanylion pob taliad a wnewch i gyflogai mewn FPS.
Enw’r maes | Disgrifiad |
---|---|
Cod treth cyflogai | Nodwch y cod treth a weithredwyd |
Cod treth cyflogai: Dangosydd Wythnos 1/Mis 1 | Dylech nodi ‘Iawn’ dim ond os oes ‘W1’ neu ‘M1’ ar ddiwedd ei god treth |
Oriau gwaith arferol y cyflogai | Nodwch ‘A’ os yw hyn yn llai na 16 awr, ‘B’ os yw hyn yn 16 i 23.99 awr, ‘C’ os yw’n 24 i 29.99 awr, neu ‘D’ os yw’n 30 neu fwy. Nodwch ‘E’ os nad ydych chi’n talu’ch cyflogai yn gyson, neu os ydych chi’n talu pensiwn gweithle neu flwydd-dal iddo |
Amlder cyflog | Nodwch ‘W1’ os yw’n wythnosol, ‘W2’ os yw’n bythefnosol, ‘W4’ os yw hyn bob 4 wythnos, ‘M1’ os yw’n fisol, ‘M3’ os yw’n chwarterol, ‘M6’ os yw hyn ddwywaith y flwyddyn, ‘MA’ os yw’n flynyddol, ‘IO’ os yw’n daliad untro, neu ‘IR’ os ydych yn talu’ch cyflogai’n afreolaidd |
Dyddiad talu | Dyma’r dyddiad rydych chi’n ei dalu, nid y dyddiad rydych chi’n rhedeg eich cyflogres. Defnyddiwch y diwrnod cyflog arferol os yw’n disgyn ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod banc |
Rhif yr wythnos dreth | Yr wythnos y gwnaethoch ei dalu os ydych chi’n ei dalu yn wythnosol, bob pythefnos neu bob 4 wythnos |
Rhif y mis treth | Y mis y gwnaethoch ei dalu os ydych chi’n ei dalu’n fisol, yn chwarterol, ddwywaith y flwyddyn neu’n flynyddol |
Nifer y ‘cyfnodau enillion’ a gwmpesir gan y taliad | Nodwch ‘1’ os yw’ch cyflogai yn cael ei dalu ar gyfnodau rheolaidd, er enghraifft, wythnosol, misol, neu wythnosau neu fisoedd lluosrif Fodd bynnag, os yw’ch cyflogai yn cael ei dalu ymlaen llaw neu ar ffurf ôl-daliadau ar gyfer mwy nag un ‘cyfnod enillion’, dylech nodi nifer y ‘cyfnodau enillion’ a gwmpesir. Er enghraifft, os yw’ch cyflogai yn cael ei dalu cyflog am un wythnos, ac yn cael ei dalu cyflog pythefnos ymlaen llaw ar gyfer gwyliau, nifer y ‘cyfnodau enillion’ a gwmpesir yw tri a dylech nodi ‘3’ Mae arweiniad ynghylch cyfnodau enillion ar gael yn CWG2: arweiniad pellach i gyfraniadau TWE ac Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) Am bensiynau galwedigaethol, nodwch ‘1’ |
Dangosydd enillion cyfansymiol | Nodwch ‘Iawn’ dim ond os ydych chi wedi ychwanegu’r enillion o fwy nag un swydd (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cyfrifo’i Yswiriant Gwladol |
Rheswm dros gyflwyno’n hwyr
Os ydych yn anfon FPS ar ôl diwrnod cyflog eich cyflogai (yn agor tudalen Saesneg), rhowch wybod pam i CThEF yn y maes ‘Rheswm dros gyflwyno’n hwyr’.
Cod CThEF | Sefyllfa | Pryd i gyflwyno |
---|---|---|
G | Mae gennych esgus rhesymol | Cyn gynted â phosibl |
G | Rydych chi’n talu treth dramor ar ran eich cyflogai, ac mae’n cymryd yn hirach na’r disgwyl i gyfrifo’r TWE a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y dreth honno | Cyn gynted â phosibl, heb fod yn hwyrach nag un mis ar ôl y dyddiad cyflwyno arferol, dewiswch god G ‘Rheswm dros gyflwyno’n hwyr’ |
H | Rydych yn cywiro adroddiad cyflogres cynharach | Ar eich FPS rheolaidd nesaf, neu ar FPS ychwanegol, dylech adrodd am y manylion talu cywir. Dylech chi anfon hwn erbyn y 19eg o’r mis treth ar ôl eich FPS gwreiddiol fel y gall CThEF ddangos y cywiriad yn y bil TWE ar gyfer y mis hwnnw |
F | Mae gennych chi gyflogai sy’n cael £96 yr wythnos neu lai wedi’i dalu iddo, neu sydd wedi gweithio i chi am lai nag wythnos | Cyn pen 7 diwrnod ar ôl talu’ch cyflogai |
D | Rydych yn talu buddiant neu draul i’ch cyflogai lle mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ond nid Treth Incwm, drwy’r gyflogres. Mae hyn yn dibynnu ar y buddiant (yn agor tudalen Saesneg) | Cyn pen 14 diwrnod ar ôl diwedd y mis treth |
F | Mae’r ffordd rydych chi’n talu’ch cyflogai yn seiliedig ar ei waith ar y diwrnod hwnnw (er enghraifft, talu gweithwyr cynaeafu yn seiliedig ar faint y byddant yn ei gasglu) | Cyn pen 7 diwrnod ar ôl i chi dalu’ch cyflogai |
A | Rydych chi’n gyflogwr tramor sy’n talu cyflogai sy’n berson alltud, neu rydych chi’n ei dalu drwy drydydd parti | Erbyn y 19eg o’r mis treth ar ôl gwneud y taliad |
B | Rydych yn talu’ch cyflogai mewn cyfranddaliadau sy’n llai na’r gwerth marchnadol | Fel arfer, erbyn y 19eg o’r mis treth ar ôl rhoi’r cyfranddaliadau iddo, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar gyfer sefyllfaoedd cymhleth |
C | Rydych yn gwneud unrhyw daliadau eraill nad ydynt ar ffurf arian parod (er enghraifft, talebau neu docynnau credyd) | Erbyn y 19eg o’r mis treth ar ôl gwneud y taliad |
Os yw CThEF yn anghytuno neu os na fyddwch yn cyflwyno FPS neu EPS, mae’n bosibl y bydd yn anfon hysbysiad i gyflwyno atoch drwy TWE Ar-lein (yn agor tudalen Saesneg) neu eich pecyn meddalwedd gyflogres fasnachol. Dechreuodd y cosbau am gyflwyno’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg) ar 6 Hydref 2014.
Yswiriant Gwladol
Dylech gynnwys gwybodaeth am Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) yn eich FPS pan fyddwch yn talu £96 yr wythnos neu fwy i gyflogai.
Ar gyfer y cyflogeion hynny sy’n cael eu talu’n llai na hyn, bydd dim ond angen i chi gynnwys yr wybodaeth hon os nad yw hi’n ofynnol i chi adrodd ynghylch eu henillion at ddibenion treth (er enghraifft, rydych yn gyflogwr tramor nad oes angen iddo dalu treth yn y DU).
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Llythyren gategori Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) eich cyflogai. Gallwch ddefnyddio hyd at 4 ar gyfer pob taliad |
Cod post gweithle cyflogai mewn Porthladd Rhydd a Pharth Buddsoddi sy’n safleoedd treth arbennig | Nodwch god post gweithle’r cyflogai. Dylech nodi hwn dim ond os ydych yn hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr mewn Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi ac yn defnyddio llythyren gategori Yswiriant Gwladol sy’n benodol ar gyfer Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi. Mae’n rhaid i hwn fod yn god post yn y DU. Os yw’ch cyflogai wedi’i leoli mewn Porthladd Rhydd neu Barth Buddsoddi sy’n safle treth arbennig nad oes ganddo god post a roddwyd gan y Post Brenhinol, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael rhagor o wybodaeth. Os ydych yn gwneud camgymeriad drwy gyflwyno cod post anghywir ar gyfer gweithle’r cyflogai, defnyddiwch y cod post cywir ar gyfer y gweithle o’ch FPS rheolaidd nesaf. |
Enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y cyfnod hwn | Cyfanswm y cyflog sy’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y cyfnod hwn — fel arfer, pob taliad sy’n £96 yr wythnos neu fwy. Dylech hefyd gynnwys unrhyw gyflog o dan hyn os nad oes gofyn i chi roi gwybod amdano at ddibenion treth |
Enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn hyd yma | Cyfanswm y cyflog sy’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn dreth hon |
Enillion ar y Terfyn Enillion Isaf (LEL) y flwyddyn hyd yma | Cyfanswm y cyflog hyd at £125 yr wythnos (£542) neu fwy. Peidiwch â chynnwys unrhyw daliadau llai, hyd yn oed os nad oes gofyn i chi roi gwybod am hyn at ddibenion treth |
Enillion Uwchben y Terfyn Enillion Isaf (LEL), hyd at ac yn cynnwys y Trothwy Cynradd (PT) y flwyddyn hyd yma | Cyfanswm y cyflog rhwng £125 a £242 yr wythnos, neu £542 a £1048 y mis |
Enillion Upper dros y PD, hyd at a chan gynnwys y Terfyn Enillion Uchaf (UEL) | Cyfanswm y cyflog rhwng £242 a £967 yr wythnos, neu £1048 a £4189 y mis |
Cyfraniadau’r cyflogai sy’n daladwy yn y cyfnod hwn | Prif gyfraniadau’r cyflogai (cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai) a ddidynnwyd o gyflog eich cyflogai yn y cyfnod hwn. Os na fyddwch yn talu cyflogai yn ystod cyfnod cyflog, nodwch 0.00 |
Cyfraniadau’r cyflogai sy’n daladwy yn y flwyddyn hyd yma | Cyfanswm y prif gyfraniadau (cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai) a ddidynnwyd o gyflog eich cyflogai. Os na fyddwch yn talu cyflogai yn ystod cyfnod talu, nodwch yr un ffigur a’r un sydd wedi’i gynnwys ar eich FPS diwethaf |
Cyfanswm cyfraniadau’r cyflogwr sy’n daladwy yn y cyfnod hwn | Y cyfraniadau eilaidd (cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr) sydd angen i chi eu talu yn y cyfnod hwn. Os na fyddwch yn talu cyflogai mewn cyfnod talu, nodwch 0.00 |
Cyfanswm cyfraniadau’r cyflogwr sy’n daladwy yn y flwyddyn hyd yma | Cyfanswm y cyfraniadau eilaidd (cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr). Os na fyddwch yn talu cyflogai yn ystod cyfnod talu, nodwch yr un ffigur a’r un sydd wedi’i gynnwys ar eich FPS diwethaf |
Rhif Cynllun Wedi’i Gontractio Allan (SCON) | Peidiwch â llenwi hwn os ydych yn rhoi gwybod am gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer blynyddoedd treth 2016 i 2017 ymlaen |
Cyflwynwch yr wybodaeth hon am Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn talu cyfarwyddwr (yn agor tudalen Saesneg).
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Dull cyfrifo cyfrifiannell cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyfarwyddwr | Rhowch ‘AN’ os ydych yn defnyddio’r dull safonol i gyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyfarwyddwr, neu ‘AL’ os ydych yn defnyddio dull amgen |
Wythnos penodi’r cyfarwyddwr | Nodwch yr wythnos dreth pan benodwyd y cyfarwyddwr |
EPS: yr hyn sydd angen adrodd yn ei gylch
Anfonwch EPS (yn agor tudalen Saesneg) erbyn y 19eg i hawlio unrhyw ryddhad ar yr hyn y bydd arnoch i CThEF (er enghraifft, tâl statudol) o’r FPS a anfonwyd gennych yn ystod y mis blaenorol. Os nad ydych wedi talu unrhyw gyflogeion mewn mis treth, anfonwch EPS yn lle FPS.
Dylech gynnwys eich gwybodaeth am gyflogwr ynghyd â’r wybodaeth sydd i’w gweld isod.
Adhawlio tâl statudol ar gyfer rhieni a didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu
Llenwch y meysydd hyn ar eich EPS os ydych:
-
yn adhawlio tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol, tâl ar y cyd i rieni mewn profedigaeth a thâl gofal newyddenedigol statudol — gallwch adhawlio 92% neu 108.5% os yw’ch busnes yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Cyflogwyr Bach
-
wedi gwneud didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) (yn agor tudalen Saesneg) ac rydych yn Gwmni Cyfyngedig
Os ydych yn rhedeg mwy nag un gyflogres o dan yr un cyfeirnod TWE y Cyflogwr, dylech gynnwys cyfanswm y didyniadau ar gyfer pob un o’r cyflogresi hynny.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Mis treth | Nodwch pa fis treth y mae’r credyd EPS ar ei gyfer |
SMP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o dâl mamolaeth statudol yr ydych wedi’i hawlio |
Iawndal ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol ac SMP a adenillwyd yn ystod y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o iawndal cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’i adennill drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach |
SPP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o dâl tadolaeth statudol yr ydych wedi’i adhawlio |
Iawndal ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol ac SPP a adenillwyd yn y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o iawndal yr ydych wedi’i adennill drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach |
SAP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o dâl mabwysiadu statudol rydych wedi’i adhawlio |
Iawndal ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol ac SAP a adenillwyd yn ystod y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o iawndal cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’i adhawlio drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach |
ShPP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o dâl statudol ar y cyd i rieni yr ydych wedi’i adhawlio yn ystod y flwyddyn dreth hon |
ShPP a adenillwyd yn y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o iawndal cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’i adennill drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach |
SPBP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o dâl statudol rhieni mewn profedigaeth yr ydych wedi’i adhawlio yn ystod y flwyddyn dreth hon |
SPBP a adhawliwyd yn ystod y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o iawndal cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’i adhawlio drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach |
SNCP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o dâl gofal newyddenedigol statudol yr ydych wedi’i adhawlio yn ystod y flwyddyn dreth hon |
SNCP a adhawliwyd yn ystod y flwyddyn dreth hon | Nodwch faint o iawndal cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’i adhawlio drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach |
Didyniadau CIS a wnaethpwyd | Os ydych yn gwmni cyfyngedig sydd wedi cael didyniadau CIS wedi eu tynnu o daliadau a dderbyniwyd ar gyfer gwaith yn y diwydiant adeiladu, nodwch gyfanswm y didyniadau CIS a wnaethpwyd y flwyddyn hyd yma |
Ni wnaethoch dalu unrhyw gyflogeion yn ystod cyfnod
Anfonwch EPS sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol erbyn 19eg ar ôl y mis treth lle nad oeddech wedi talu unrhyw gyflogeion. Mae’r mis treth yn dechrau ar y 6ed. Peidiwch ag anfon FPS.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Dim taliadau mewn cyfnod | Nodwch ‘Iawn’ i roi gwybod i CThEF nad oeddech wedi talu unrhyw gyflogeion |
Dim dyddiadau talu o | Nodwch y 6ed o’r mis cyntaf lle nad oeddech wedi talu unrhyw gyflogeion |
Dim dyddiadau talu hyd at | Nodwch y 5ed o’r mis olaf lle nad oeddech wedi talu unrhyw gyflogeion |
Cyfnod o anweithgarwch o | Rhowch wybod i CThEF ymlaen llaw os na fyddwch yn talu unrhyw gyflogai am gyfnod o un mis o leiaf, ac uchafswm o 12 mis. Nodwch y 6ed o’r mis cyntaf pan na fyddwch yn talu cyflogeion — dim ond o ddechrau’r mis treth nesaf y gallwch roi gwybod am hyn |
Cyfnod o anweithgarwch o | Nodwch y 5ed o’r mis olaf lle na fyddwch yn talu unrhyw gyflogeion |
Hawlio Lwfans Cyflogaeths Cyflogaeth
Gallech gael hyd at £10,500 y flwyddyn wedi’i ddidynnu o’ch Yswiriant Gwladol os ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Dangosydd Lwfans Cyflogaeth | Nodwch ‘Iawn’ i hawlio’r lwfans. Dyma’ch datganiad eich bod wedi gwirio’ch cymhwystra i gael Lwfans Cyflogaeth. Os na fyddwch yn gwirio’ch cymhwystra, neu os byddwch yn ateb yn anghywir, efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw Lwfans Cyflogaeth yr ydych wedi’i gael Mae’n rhaid hawlio Lwfans Cyflogaeth ym mhob blwyddyn dreth. Bydd yr hawliad yn cael ei gadw am y flwyddyn dreth gyfan a bydd angen i chi gyflwyno hawliad newydd ar gyfer y flwyddyn ddilynol. Dylech nodi ‘Na’ dim ond os nad ydych yn gymwys i hawlio neu os ydych am dynnu hawliad. Os yw’ch hawl yn cael ei wrthod, byddwch yn cael neges gan y Gwasanaeth Hysbysu Generig (GNS). |
Adrodd am yr Ardoll Brentisiaethau
Mae angen i gyflogwyr sydd â bil cyflog blynyddol dros £3 miliwn rhoi gwybod i CThEF am eu Hardoll Brentisiaethau. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gyflogwyr cysylltiedig sydd â chyfanswm bil cyflog blynyddol o dros £3 miliwn, o dan reolau ar gyfer cwmnïau cysylltiedig ag elusennau cysylltiedig.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Blwyddyn dreth | Nodwch y flwyddyn dreth y mae’r Ardoll Brentisiaethau yn berthnasol iddi |
Rhif swyddfa CThEF y cyflogwr | Y rhan cyntaf o’ch Cyfeirnod TWE y cyflogwr (3 digid). Bydd hwn i’w weld ar y llythyr a anfonodd CThEF atoch pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr. Gallwch hefyd ddod o hyd iddo ar hysbysiadau cod P6 neu P9 |
Cyfeirnod TWE y cyflogwr | Nodwch y flwyddyn dreth y mae’r Ardoll Brentisiaethau yn berthnasol iddi |
Cyfeirnod swyddfa gyfrifon y cyflogwr | Fformat ‘123PA00012345’. Byddwch yn cael hwn gan CThEF ar ôl i chi gofrestru fel cyflogwr. Os talwch trwy ddull electronig |
Swm lwfans blynyddol ar gyfer yr Ardoll Brentisiaethau | Swm lwfans blynyddol ar gyfer yr Ardoll Brentisiaethau y mae’r cyflogwr yn ei ddyrannu i gyfeirnod TWE y cyflogwr |
Yr Ardoll Brentisiaethau sy’n ddyledus ar gyfer y flwyddyn hyd yma | Swm yr Ardoll Brentisiaethau sy’n ddyledus ar gyfer y flwyddyn hyd yma, fel y cyfrifwyd gan y cyflogwr |
Y mis treth | Nodwch y mis treth y mae’r Ardoll Brentisiaethau yn berthnasol iddo |
Cyflogeion newydd
Pan fydd cyflogai yn dechrau gweithio i chi, mae angen i chi eu cofrestru nhw gyda CThEF gan gynnwys yr wybodaeth hon yn eich FPS y tro cyntaf y byddwch yn ei dalu.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Dyddiad dechrau | Dylech lenwi hwn dim ond pan fyddwch yn talu cyflogai newydd am y tro cyntaf |
Datganiad ar gyfer dechreuwr | Rhowch y datganiad ar gyfer dechreuwr (yn agor tudalen Saesneg) yr ydych wedi’i gyfrifo. Peidiwch â rhoi unrhyw beth ar gyfer pensiynwyr newydd, neu gyflogeion sydd wedi’u secondio o dramor |
Dangosydd Benthyciad Myfyriwr | Rhowch ‘Iawn’ os oes angen i chi wneud didyniadau Benthyciad Myfyriwr ar gyfer eich cyflogai |
Cyfeiriad | Nodwch gyfeiriad preswylio presennol eich cyflogai |
Cod post yn y DU | Nodwch god post yn y DU sy’n ddilys. Peidiwch â gwneud cofnod yma os yw cyfeiriad eich cyflogai mewn gwlad dramor, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw |
Gwlad dramor | Dylech nodi ei wlad breswyl os yw’n byw y tu allan i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw |
Rhif pasbort | Dylech gynnwys hyn os gwnaethoch adolygu pasbort eich cyflogai i wirio ei fod yn cael gweithio yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) |
Mae rheolau arbennig yn berthnasol o ran yr hyn y mae angen i chi ei lenwi os ydych:
Pan fydd cyflogai yn gadael
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am yr wybodaeth hon pan fydd cyflogai’n gadael (yn agor tudalen Saesneg) neu os ydych yn cau eich cynllun TWE (yn agor tudalen Saesneg).
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Dyddiad gadael | Nodwch y dyddiad y gwnaeth eich cyflogai roi’r gorau i weithio i chi, ar adeg adrodd y taliad olaf i’ch cyflogai, os yw’r ddau yn digwydd yn yr un flwyddyn dreth |
Dangosydd taliad ar ôl gadael | Nodwch ‘Iawn’ os ydych yn talu cyflogai ar ôl i chi anfon FPS sy’n cynnwys ei ddyddiad gadael (er enghraifft, rydych yn ei dalu ar ôl rhoi P45 iddo) |
Pensiynau’r gweithle
Mae’n rhaid i chi roi gwybod am yr wybodaeth hon pan ydych yn talu pensiwn gweithle (yn agor tudalen Saesneg) neu flwydd-dal.
Maes | Disgrifiad |
---|---|
Dangosydd pensiwn galwedigaethol | Nodwch ‘Iawn’ os ydych yn gwneud taliadau pensiwn galwedigaethol |
m Swm blynyddol y pensiwn galwedigaethol | Dylech nodi hwn dim ond pan fyddwch yn talu rhywun sydd â chynllun pensiwn gweithle sydd wedi’i gofrestru gyda CThEF. Gadewch y maes yn wag (peidiwch â nodi £0.00) |
Cyflogai sy’n cael pensiwn galwedigaethol am eu bod yn briod neu’n bartner sifil sydd mewn profedigaeth | Nodwch ‘Iawn’ os yw hyn yn berthnasol |
Math o daliad cymudo pitw | Os ydych yn talu cyfandaliad, nodwch ‘A’ am gyfandaliad cymudo pitw (TCLS), ‘B’ os daw o gynllun pensiwn personol, neu ‘C’ os daw o gynllun pensiwn gweithle neu gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus |
Taliad cymudo pitw | Y cyfandaliad a dalwyd. Bydd hefyd angen i chi lenwi’r meysydd ‘Cyflog trethadwy hyd yn hyn’ a ‘Cyflog trethadwy yn y cyfnod hwn’, a nodi unrhyw swm nad yw’n drethadwy yn y maes ‘Taliad nad yw’n daliad sy’n agored i dreth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol’ |
Taliad i rywun nad yw’n unigolyn | Nodwch ‘Iawn’ os ydych yn gwneud taliadau i gynrychiolydd personol, ymddiriedolwr neu sefydliad corfforaethol ayb |
Adroddiadau diwedd blwyddyn
Bydd hefyd angen i chi gwblhau adroddiadau a thasgau blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) penodol i baratoi ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf, sy’n dechrau ar 6 Ebrill.
Rhowch wybod am yr wybodaeth hon yn FPS neu EPS terfynol y flwyddyn dreth (yn agor tudalen Saesneg). Bydd hefyd angen i chi lenwi’r meysydd perthnasol os mai dyma’ch adroddiad diwethaf oherwydd eich bod yn cau eich cynllun TWE (yn agor tudalen Saesneg).
Maes | Disgrifiad newydd |
---|---|
Cyflwyniad terfynol am y flwyddyn | Nodwch ‘Iawn’ i roi gwybod i CThEF mai dyma’ch adroddiad cyflogres terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth |
Dangosydd Darfod | Nodwch ‘Iawn’ os mai dyma’r adroddiad terfynol oherwydd eich bod yn cau’ch cynllun TWE. Dylech hefyd nodi ‘Dyddiad y daeth y cynllun i ben’ a ‘Dyddiad gadael’ ar gyfer pob un o’ch cyflogeion. Peidiwch â llenwi ‘Cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn’ |
Dyddiad y daeth y cynllun i ben | Nodwch y dyddiad os ydych wedi rhoi’r gorau i fod yn gyflogwr ac rydych yn talu’ch cyflogeion am y tro olaf, a hwn yw’ch cyflwyniad terfynol. Mae’n bosibl y bydd angen cwblhau’r ‘Dangosydd Darfod’. Mae’n rhaid i’r dyddiad fod yn yr un flwyddyn dreth â’ch cyflwyniad terfynol |
Updates to this page
-
Added translation
-
Rates, allowances and duties have been updated for tax year 2025 to 2026. The section about claiming Employment Allowance has been updated to show the new allowance for 6 April 2025. Statutory Neonatal Care Pay has been added. Information about what to enter for the Freeport and Investment Zone special tax sites employee workplace postcode has been added.
-
Rates, allowances and duties have been updated for tax year 2023 to 2024.
-
Rates and allowances for National Insurance contributions have been updated and will take effect from 6 July 2022.
-
Rates, allowances and duties have been updated for tax year 2022 to 2023.
-
Code G, reasonable excuse has been updated in the 'late reporting reason' section.
-
Clarification added to late reporting reason code G.
-
Rates, allowances and duties have been updated for tax year 2021 to 2022.
-
The section on Claiming Employment Allowance has been updated to give more detailed information about reporting.
-
Claim Employment Allowance section has been updated.
-
Rates, allowances and duties have been updated for tax year 2020 to 2021.
-
Information about where you can find the Accounts Office reference has been updated.
-
The Lower Earnings Limit (LEL) amounts have been updated within the guidance.
-
More details about the Student Loan Plan type has been added.
-
The employee information section has been updated to help ensure post codes are entered correctly.
-
Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2018 to 2019.
-
Information about running an employer payroll has been updated.
-
The Payroll ID changed indicator section of the employee information table has been updated.
-
Table under 'end-of-year or final reports' heading has been updated for the tax year 2017 to 2018.
-
Information on reporting Apprenticeship Levy added to the page.
-
Minor amend on when to complete the 'Employment Allowance indicator' field
-
The National Insurance and Late reporting reason sections have been updated.
-
Late reporting guidance updated on what payroll information to report to HM Revenue and Customs.
-
Guide updated to to clarify the use of unique payroll ids and when to set the payroll id changed indicator.
-
Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2015 to 2016.
-
You can now tell HMRC up to 12 months in advance if you won't pay any employees and include a tax month when submitting an EPS.
-
There is an additional situation where the 'Payment after leaving' indicator should be used.
-
First published.