Codi arian o’ch cyfrif arian parod y Gwasanaeth Datganiadau Tollau
Gwneud cais i godi arian o’ch cyfrif arian parod.
Gallwch wneud cais i godi arian o’ch cyfrif arian parod y Gwasanaeth Datganiadau Tollau drwy ddefnyddio ein ffurflen neu’r gwasanaeth ar-lein. Gallwn dalu’r arian i mewn i gyfrif banc busnes neu gyfrif banc personol sydd wedi’i leoli yn y DU.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni:
-
manylion eich cwmni, gan gynnwys manylion cyswllt
-
EORI
-
eich manylion chi a’ch swydd yn y cwmni
-
y swm rydych am ei godi
-
manylion banc
-
y rheswm dros godi’r arian
Bydd arnoch angen y canlynol hefyd:
-
rhif y cyfrif arian parod os ydych yn gwneud cais ar-lein
-
enw deiliad y cyfrif arian parod os ydych yn gwneud cais drwy’r post
Sut i wneud cais i godi arian
Cais ar-lein
Dylech gasglu’r holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau.
Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi am y tro cyntaf).
Gallwch gadw’r hyn rydych wedi’i wneud a dod yn ôl ato’n nes ymlaen.
Cais drwy’r post
Llenwch ffurflen gais am gael codi arian o’ch cyfrif arian parod (CDSCAW1) a’i hanfon i’r cyfeiriad sydd ar y ffurflen.
Anfonwch e-bost at CThEF er mwyn gofyn am y ffurflen yn Gymraeg.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Ein nod yw prosesu pob cais sy’n dod i law cyn pen 5 diwrnod ar ôl iddynt ein cyrraedd. Bydd eich arian yn cyrraedd eich cyfrif banc cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl i’ch cais gael ei brosesu.
Cael help a chymorth
Cysylltwch â chanolfan cyfrifyddu CThEF os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch codi arian o’ch cyfrif arian parod y Gwasanaeth Datganiadau Tollau.
E-bostio CThEF
Gallwch anfon ymholiad drwy e-bost i customsaccountingrepayments@hmrc.gov.uk.
Bydd angen cynnwys ‘Withdraw funds from my Customs Declaration Service cash account’ yn y llinell pwnc.
Ffonio CThEF
Ffôn: 0300 200 3705 a dewiswch opsiwn 1.
Oriau agor:
Dydd Llun i ddydd Gwener: 8:30am i 5pm
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
Information and the link to request a withdrawal online has been added.
-
A new version of form CDSCAW1 has been added. You must now give your bank name and account details every time you complete the form. The section for international bank accounts has been removed and the return address has been updated.
-
A link to the withdrawal request form (CDSCAW1) has been added to the guide.
-
Information on how to get help to withdraw funds from your cash account has been added.
-
The ‘Request a withdrawal’ section has been updated. The address to send your form to has changed to: HM Revenue & Customs, Customs Salford, 5th floor, Three New Bailey, New Bailey Street, Salford, M3 5FS.
-
First published.