Cael budd-daliadau os ydych yn nesáu at ddiwedd oes

Sgipio cynnwys

Hawlio budd-daliadau o dan reolau arbennig

Os ydych chi’n agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch chi’n gallu cael rhai budd-daliadau yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.

Weithiau gelwir hyn yn ‘reolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.

Mae .

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dysgwch sut i hawlio o dan reolau arbennig os:

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i hawlio o dan reolau arbennig

Rydych chi’n gymwys ar gyfer y rheolau arbennig os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych chi salwch sy’n gwaethygu dros amser
  • mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych chi 12 mis neu lai i fyw

Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am ba mor hir y gallech chi fyw, gallwch ofyn a fyddan nhw’n cefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn cynnwys:

  • meddygon teulu
  • meddygon ysbyty
  • nyrsys cofrestredig (er enghraifft, nyrsys Macmillan neu nyrsys arbenigol)

Gwiriwch pa fudd-daliadau rydych chi’n gymwys ar eu cyfer

Os ydych chi’n gwneud cais o dan y rheolau arbennig, rhaid i chi fod yn gymwys o hyd ar gyfer y budd-dal. Mae gan bob budd-dal feini prawf cymhwysedd gwahanol.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael mwy nag un budd-dal ar yr un pryd.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini.

Os ydych chi o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Y budd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt yw:

Os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd oes

Os oes gennych blentyn o dan 16 oed sy’n agosáu at ddiwedd oes, gallwch wneud cais am:

Sut i wneud cais o dan y rheolau arbennig

  1. Gwiriwch eich bod yn gymwys i gael y budd-dal.

  2. Gwnewch gais am y budd-dal, gan ddweud eich bod yn hawlio o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

  3. Gofynnwch i’ch meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol lenwi ffurflen SR1 i gadarnhau eich bod yn agosáu at ddiwedd oes. Bydd ganddyn nhw’r ffurflen.

  4. Mae eich gweithiwr meddygol proffesiynol yn anfon y ffurflen at adran berthnasol y llywodraeth, neu gallwch ei hanfon eich hun. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dim ond un ffurflen SR1 sydd ei hangen arnoch i’w llenwi, hyd yn oed os ydych chi’n gwneud cais am fwy nag un budd-dal.

Cymorth a chefnogaeth

Os oes angen cefnogaeth arnoch ar ôl eich diagnosis neu gyda gwneud cais am fudd-daliadau, gallwch gael cymorth gan y sefydliadau canlynol:

  • - gofal a chefnogaeth ar ddiwedd oes
  • - cefnogaeth i blant sy’n ddifrifol wael a’u teuluoedd
  • - cefnogaeth i deuluoedd â phlant sy’n ddifrifol wael
  • - cefnogaeth ymarferol ac emosiynol ar ddiwedd oes
  • - ar gyfer cyngor a chefnogaeth ariannol
  • - cyngor ar arian a budd-daliadau