Cael budd-daliadau os ydych yn nesáu at ddiwedd oes

Sgipio cynnwys

Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau

Os ydych chi’n agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch chi’n gallu cael eich budd-daliadau’n gyflymach ac ar gyfradd uwch.

Weithiau gelwir hyn yn ‘rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych chi 12 mis neu lai i fyw, bydd angen i chi:

  • rhoi gwybod am hyn fel newid yn eich amgylchiadau
  • gofyn i’ch gweithiwr meddygol proffesiynol lenwi ffurflen (a elwir yn SR1) i gadarnhau eich bod chi’n agosáu at ddiwedd oes

Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am ba mor hir y gallech chi fyw, gallwch ofyn a fyddant yn cefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Darganfyddwch sut i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau os ydych eisoes yn cael:

Anfonwch ffurflen SR1

Gofynnwch i’ch meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol lenwi ffurflen SR1. Bydd ganddyn nhw’r ffurflen.

Fel arfer, bydd eich gweithiwr meddygol proffesiynol yn anfon y ffurflen, neu gallwch ei hanfon eich hun. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dim ond un ffurflen SR1 sydd ei hangen arnoch i’w llenwi, hyd yn oed os ydych chi’n cael mwy nag un budd-dal.