Cael budd-daliadau os ydych yn nesáu at ddiwedd oes
Os ydych yn gofalu am rywun sy’n agosáu at ddiwedd oes
Gwiriwch a all y person rydych chi’n gofalu amdano gael rhai budd-daliadau’n gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Bydd angen i chi ddod yn benodai i wneud cais ar ran rhywun arall, oni bai eich bod chi’n gwneud cais am:
- Lwfans Gweini
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant
Gwiriwch a allwch chi gael budd-daliadau gofalwyr
Efallai y byddwch chi’n gymwys i gael cymorth ariannol os ydych chi’n gofalu am rywun sy’n agosáu at ddiwedd oes.
Os ydych chi’n gofalu am rywun am o leiaf 35 awr yr wythnos, gwiriwch a allwch chi gael Lwfans Gofalwr.
Os ydych chi’n gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos ac rydych chi o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch a allwch chi gael Credyd Gofalwr.
Cymorth a chefnogaeth
Os oes angen cefnogaeth i ofalwyr arnoch neu gymorth gyda gwneud cais am fudd-daliadau, gallwch gael cymorth gan y sefydliadau canlynol: