Ardystio copi o atwrneiaeth arhosol

Gallwch gadarnhau bod copi och atwrneiaeth arhosol (LPA) wedii chofrestru yn ddilys drwy ei ardystio os ydych chi dal i allu gwneud eich penderfyniadau eich hun.

Gall eich atwrnai ddefnyddior copi ardystiedig i brofi bod ganddynt ganiat但d i wneud penderfyniadau ar eich rhan, er enghraifft, i reoli eich cyfrif banc.

Gallwch hefyd wneud cop誰au ardystiedig och LPA cyn iddi gael ei chofrestru. Gallwch chi neuch atwrnai ddefnyddior copi i gofrestru eich LPA os nad oes gennych y ffurflen wreiddiol.

Sut i ardystio copi

Ysgrifennwch y testun canlynol ar waelod pob tudalen or copi:

Tystiaf fod hwn yn gopi gwir a chyflawn or dudalen gyfatebol yn yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol.

Ar dudalen olaf y copi, rhaid i chi hefyd ysgrifennu:

Tystiaf fod hwn yn gopi gwir a chyflawn or atwrneiaeth arhosol.

Rhaid i chi lofnodi a dyddio pob tudalen.

Ffyrdd eraill o ardystio copi

Gall y canlynol ardystio cop誰au och LPA hefyd:

  • cyfreithiwr
  • unigolyn sydd ag awdurdod i wneud gweithgareddau notariol