Gwneud, cofrestru neu roi terfyn ar atwrneiaeth arhosol
Printable version
1. Trosolwg
Mae atwrneiaeth arhosol (LPA) yn ddogfen gyfreithiol sy’n eich galluogi chi (y ‘rhoddwr’) benodi un neu fwy o bobl (a elwir yn ‘atwrneiod’) i’ch helpu i wneud penderfyniadau neu i wneud penderfyniadau ar eich rhan.
Mae hyn yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros beth fydd yn digwydd i chi os cewch ddamwain neu salwch ac os na fyddwch yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun (byddwch ‘heb alluedd meddyliol’).
Mae’n rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn a bod â galluedd meddyliol (gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun) pan rydych yn gwneud eich LPA.
Nid oes rhaid i chi fyw yn y DU na bod yn ddinesydd Prydeinig.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae 2 fath o atwrneiaeth arhosol:
- iechyd a lles
- eiddo a materion ariannol
Gallwch ddewis gwneud un math neu’r ddau.
Mae proses wahanol yn a .
Sut i wneud atwrneiaeth arhosol
-
Dewiswch eich atwrnai (gallwch gael mwy nag un).
-
Llenwch y ffurflenni i’w penodi fel atwrnai.
-
Cofrestrwch eich LPA gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (gall hyn gymryd rhwng 8 a 10 wythnos os nad oes camgymeriadau yn y cais).
Mae’n costio £82 i gofrestru LPA oni bai eich bod yn cael gostyngiad neu esemptiad.
Gallwch ganslo eich LPA os nad oes arnoch ei hangen mwyach neu os ydych eisiau gwneud un newydd.
Atwrneiaeth arhosol iechyd a lles
Defnyddiwch yr LPA hon i roi pŵer i atwrnai wneud penderfyniadau am bethau fel:
- eich trefn ddyddiol, er enghraifft, ymolchi, gwisgo, bwyta
- gofal meddygol
- symud i gartref gofal
- triniaeth cynnal bywyd
Dim ond pan nad ydych yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun y bydd yn cael ei defnyddio.
Atwrneiaeth arhosol eiddo a materion ariannol
Defnyddiwch yr LPA hon i roi i atwrnai bŵer i wneud penderfyniadau am arian ac eiddo ar eich rhan, er enghraifft:
- rheoli cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu
- talu biliau
- casglu budd-daliadau neu bensiwn
- gwerthu eich cartref
Gellir ei defnyddio cyn gynted ag y mae wedi’i chofrestru, gyda’ch caniatâd chi.
Help i benderfynu a ddylech wneud atwrneiaeth arhosol
Cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os oes arnoch angen help.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
2. Dewis eich atwrnai
Gallwch ddewis un neu fwy o bobl i fod yn atwrnai i chi. Os byddwch yn penodi mwy nag un, rhaid i chi benderfynu a fyddant yn gwneud penderfyniadau ar wahân neu gyda’i gilydd.
Pwy all fod yn atwrnai i chi
Rhaid i’ch atwrnai fod yn 18 oed neu’n hŷn. Gall fod yn:
- berthynas
- ffrind
- gweithiwr proffesiynol, er enghraifft, cyfreithiwr
- eich gŵr, gwraig neu bartner
Rhaid i chi benodi rhywun sydd â’r galluedd meddyliol i wneud ei benderfyniadau ei hun.
Nid oes rhaid i’ch atwrnai fyw yn y DU na bod yn ddinesydd Prydeinig.
Wrth ddewis atwrnai, meddyliwch am y canlynol:
- pa mor dda y maent yn edrych ar ôl eu materion eu hunain, er enghraifft, eu harian
- pa mor dda rydych yn eu hadnabod
- a ydych yn ymddiried ynddynt i wneud penderfyniadau er budd gorau i chi
- pa mor fodlon y byddant i wneud penderfyniadau ar eich rhan chi
Darllenwch am gyfrifoldebau atwrnai i’ch helpu gyda’ch penderfyniad.
Ni allwch ddewis rhywun sy’n destun Gorchymyn Rhyddhad Dyledion neu rywun sy’n fethdalwr os ydych yn gwneud atwrneiaeth arhosol (LPA) ar gyfer eiddo a materion ariannol.
Os oes mwy nag un atwrnai
Os ydych yn penodi mwy nag un unigolyn, rhaid i chi benderfynu a fyddant yn gwneud penderfyniadau:
- ar wahân neu gyda’i gilydd - a elwir weithiau’n ‘ar y cyd ac yn unigol’ - sy’n golygu y gall atwrneiod wneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain neu gydag atwrneiod eraill
- gyda’i gilydd - a elwir weithiau’n ‘ar y cyd’ - sy’n golygu bod rhaid i’r holl atwrneiod gytuno ar y penderfyniad
Hefyd gallwch ddewis gadael iddynt wneud rhai penderfyniadau ‘ar y cyd’ ac eraill ‘ar y cyd ac yn unigol’.
Rhaid i atwrneiod sy’n cael eu penodi ar y cyd i gyd gytuno neu ni allant wneud y penderfyniad.
Atwrneiod wrth gefn
Pan rydych yn gwneud eich LPA gallwch enwebu pobl eraill i gymryd lle eich atwrnai neu eich atwrneiod os na fyddant yn gallu gweithredu ar eich rhan mwyach.
3. Gwneud atwrneiaeth arhosol
Gallwch wneud atwrneiaeth arhosol (LPA) ar-lein neu gan ddefnyddio ffurflenni papur.
Y naill ffordd neu’r llall, bydd rhaid i chi gael pobl eraill i lofnodi’r ffurflenni, gan gynnwys yr atwrneiod a’r tystion.
Gallwch gael rhywun arall i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein neu i lenwi’r ffurflenni papur ar eich rhan, er enghraifft, aelod o’r teulu, ffrind neu gyfreithiwr.
Rhaid i chi gofrestru eich LPA neu ni fydd eich atwrnai’n gallu gwneud penderfyniadau ar eich rhan.
Mae’n cymryd rhwng 8 a 10 wythnos i wneud LPA os nad oes camgymeriadau yn y cais. Fel arfer bydd yn gynt na hyn os byddwch yn gwneud a thalu am y cais ar-lein.
Gwneud LPA ar-lein
Bydd rhaid i chi greu cyfrif neu fewngofnodi i gyfrif sy’n bodoli’n barod i allu:
- gwneud LPA
- parhau gyda LPA rydych wedi dechrau’i gwneud yn barod
Gallwch wedyn:
- gael help ac arweiniad ym mhob cam
- cadw eich ffurflenni a’u cwblhau yn nes ymlaen
- adolygu eich atebion a chywiro unrhyw gamgymeriadau
Rhaid i chi argraffu’r ffurflenni a’u llofnodi pan fyddwch wedi gorffen eu llenwi.
Os ydych wedi gwneud a chofrestru LPA yn barod, mae yna wasanaeth gwahanol ar gyfer defnyddio LPA.
Defnyddio’r ffurflenni papur
Lawrlwythwch y ffurflenni a’u hargraffu.
Llofnodi’r ffurflenni
Rhaid i chi lofnodi’r ffurflenni cyn eu hanfon. Hefyd rhaid i’r canlynol eu llofnodi:
- yr atwrneiod
- tystion
- ‘darparwr tystysgrif’, sy’n cadarnhau eich bod yn gwneud yr LPA o ddewis a’ch bod yn deall beth rydych yn ei wneud
Rhaid i bawb lofnodi’r un ddogfen wreiddiol. Ni allant lofnodi copïau neu ddefnyddio llofnodion digidol.
Pwy sy’n gallu bod yn dyst neu’n ddarparwr tystysgrif
Rhaid i dystion a darparwyr tystysgrifau fod yn 18 oed neu’n hŷn.
Caiff atwrneiod fod yn dystion i’w gilydd yn llofnodi, ond ni allant:
- fod yn dystion i chi’n llofnodi
- llofnodi fel y darparwr tystysgrif
Ni allwch fod yn dyst os mai chi yw’r unigolyn sy’n penodi atwrnai.
Cael help
Gofynnwch i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am yr help y gallwch ei gael os:
- nad oes gennych gyfrifiadur neu argraffydd
- rydych eisiau defnyddio’r gwasanaeth ar-lein ond angen rhywfaint o help
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am ffioedd galw
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
4. Cofrestru atwrneiaeth arhosol
Pan fyddwch wedi gwneud eich atwrneiaeth arhosol (LPA), rhaid i chi ei chofrestru gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).
Mae’n cymryd 8 i 10 wythnos i gofrestru LPA os nad oes unrhyw gamgymeriadau yn y cais.
Gallwch wneud cais i gofrestru eich LPA eich hun os ydych yn gallu gwneud eich penderfyniadau eich hun.
Gall eich atwrnai gofrestru’r LPA ar eich rhan hefyd. Byddwch yn cael gwybod os bydd yn gwneud hynny a gallwch wrthwynebu’r cofrestru.
Hysbysu pobl
Cyn cofrestru, anfonwch ffurflen i hysbysu pobl (LP3) at yr holl ‘bobl i’w hysbysu’ (a elwir hefyd yn ‘bobl i gael gwybod’) rydych wedi’u rhestru yn yr LPA.
Bydd ganddynt 3 wythnos i fynegi unrhyw bryderon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Os ydych chi’n defnyddio’r i wneud atwrneiaeth arhosol, bydd yn creu ac yn llenwi’r ffurflenni LP3 ar eich rhan.
Sut i gofrestru
Gwnewch gais i gofrestru cyn gynted ag yr ydych wedi anfon y ffurflenni i hysbysu pobl.
I gofrestru, bydd angen i chi lofnodi eich ffurflen atwrneiaeth arhosol wedi’i llenwi a’i hanfon i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Os byddwch yn creu eich ffurflen atwrneiaeth arhosol gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen i chi ei hargraffu i wneud hyn.
Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen hefyd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y ffurflen LPA wreiddiol a’r ffi.
Gallwch anfon copi ardystiedig os nad yw’r ffurflen wreiddiol gennych chi. Ysgrifennwch lythyr yn cyd-fynd i esbonio pam nad yw’r gwreiddiol gennych chi.
Os gwnaethoch eich LPA gyda ffurflen bapur hÅ·n
Gallwch gofrestru drwy lenwi ffurflen LP2 os gwnaethoch eich LPA:
- ar ffurflenni LPA114 neu LPA117 cyn 1 Ionawr 2016
- ar ffurflenni LP PA neu LP PW cyn 1 Ebrill 2011
Fel arall bydd rhaid i chi wneud LPA newydd.
Faint mae’n ei gostio
Mae’n costio £82 i gofrestru LPA.
Os ydych eisiau gwneud cais am LPA iechyd a lles a LPA eiddo a materion ariannol, bydd yn costio cyfanswm o £164.
Gallwch dalu gyda:
- cherdyn credyd neu ddebyd
- siec
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Office of the Public Guardian’ ac ysgrifenwch eich enw ar y cefn. Anfonwch y siec i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda’ch ffurflenni.
Cael gostyngiad neu esemptiad
Gallwch wneud cais am ostyngiad os ydych chi’n ennill llai na £12,000. Efallai y gallwch hefyd wneud cais am esemptiad os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol, megis Cymhorthdal Incwm.
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais. Mae yna fwy o wybodaeth am gymhwysedd ar y ffurflen.
Os byddwch yn gwneud camgymeriad ar eich ffurflen
Gan ddibynnu ar y math o gamgymeriad, efallai y bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gadael i chi ei gywiro a gwneud cais arall o fewn 3 mis am £41.
5. Ardystio copi o atwrneiaeth arhosol
Gallwch gadarnhau bod copi o’ch atwrneiaeth arhosol (LPA) wedi’i chofrestru yn ddilys drwy ei ‘ardystio’ os ydych chi dal i allu gwneud eich penderfyniadau eich hun.
Gall eich atwrnai ddefnyddio’r copi ardystiedig i brofi bod ganddynt ganiatâd i wneud penderfyniadau ar eich rhan, er enghraifft, i reoli eich cyfrif banc.
Gallwch hefyd wneud copïau ardystiedig o’ch LPA cyn iddi gael ei chofrestru. Gallwch chi neu’ch atwrnai ddefnyddio’r copi i gofrestru eich LPA os nad oes gennych y ffurflen wreiddiol.
Sut i ardystio copi
Ysgrifennwch y testun canlynol ar waelod pob tudalen o’r copi:
“Tystiaf fod hwn yn gopi gwir a chyflawn o’r dudalen gyfatebol yn yr atwrneiaeth arhosol wreiddiol.â€
Ar dudalen olaf y copi, rhaid i chi hefyd ysgrifennu:
“Tystiaf fod hwn yn gopi gwir a chyflawn o’r atwrneiaeth arhosol.â€
Rhaid i chi lofnodi a dyddio pob tudalen.
Ffyrdd eraill o ardystio copi
Gall y canlynol ardystio copïau o’ch LPA hefyd:
- cyfreithiwr
- unigolyn sydd ag awdurdod i wneud gweithgareddau notariol
6. Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt
Mae’n rhaid i chi (os oes gennych chi alluedd meddyliol) neu un o’ch atwrneiod roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am y canlynol:
-
os ydych chi neu atwrnai yn newid enw neu gyfeiriad
-
os bydd atwrnai yn marw
Os ydych chi neu atwrnai yn newid enw neu gyfeiriad
Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os byddwch chi neu’ch atwrnai yn newid enw ac anfon copi o’r dystysgrif priodas neu’r ddogfen gweithred newid enw sy’n dangos yr enw newydd. Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol.
Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus os byddwch chi neu’ch atwrnai yn newid cyfeiriad, ond nid oes angen i chi anfon unrhyw ddogfennau ategol.
Peidiwch â gwneud newidiadau i’r ddogfen atwrneiaeth arhosol (LPA) ei hun, gan y gallai hyn achosi iddi fod yn annilys.
Os bydd un o’ch atwrneiod yn marw
Rhaid i chi roi gwybod i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac anfon yr LPA wreiddiol a phob copi ardystiedig iddynt.
Os bu farw’r atwrnai tu allan i’r Deyrnas Unedig, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth.
Beth fydd yn digwydd i’r LPA bresennol
Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn canslo’r LPA os bydd y rhoddwr yn marw, neu os bydd atwrnai’n marw a naill ai:
- roedd rhaid i’r atwrneiod wneud pob penderfyniad gyda’i gilydd - gelwir hyn yn ‘gweithredu ar y cyd’
- dim ond un atwrnai oedd yna
Bydd LPA sydd wedi’i chanslo yn cael ei dinistrio. Ond os hoffech i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ei hanfon yn ôl yn hytrach na’i dinistrio, dylech gynnwys nodyn yn gofyn iddi gael ei dychwelyd a chynnwys cyfeiriad dychwelyd.
Os bydd atwrnai’n marw a bod yr atwrneiod yn gallu gwneud unrhyw benderfyniadau ar wahân (a elwir yn ‘gweithredu ar y cyd ac yn unigol’), bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad yn diweddaru’r LPA yn hynny o beth. Mae’n rhaid i chi gynnwys cyfeiriad dychwelyd pan fyddwch yn anfon yr LPA.
Cysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Os byddwch yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu at Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, dylech gynnwys:
- eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch dyddiad geni
- nodi’n glir ai chi yw’r atwrnai neu’r rhoddwr
- enw llawn y rhoddwr, ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni (os mai chi yw’r atwrnai)
- y cyfeirnod ar eich atwrneiaeth arhosol
7. Newid eich atwrneiod
Gallwch ofyn i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ddiswyddo atwrnai os yw eich atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru a bod gennych dal alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau.
Bydd rhaid i chi anfon datganiad ysgrifenedig i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, sef ‘gweithred diddymu rhannol’.
Os ydych chi eisiau ychwanegu atwrnai arall rhaid i chi derfynu eich LPA a gwneud un newydd.
Defnyddiwch y geiriau canlynol. Newidiwch y geiriau yn y cromfachau sgwâr gyda’r manylion perthnasol.
Gweithred diddymu rhannol
“Mae’r weithred diddymu rhannol hon yn cael ei gwneud gan [enw’r rhoddwr] o [cyfeiriad y rhoddwr].
1: Dyfarnais atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol/iechyd a lles [rhaid dileu fel sy’n briodol] ar [dyddiad llofnodi’r atwrneiaeth arhosol gan y rhoddwr] yn penodi [enw’r atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a/ac [enw’r ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrnai(atwrneiod).
2: Yr wyf trwy hyn yn diddymu [enw’r atwrnai rydych yn ei ddiddymu] YN UNIG o’r atwrneiaeth arhosol a’r awdurdod a ddyfarnwyd iddo ef/hi.
Llofnodwyd a chyflwynwyd fel gweithred [llofnod y rhoddwr]
Dyddiad llofnodi [dyddiad]
Tystiwyd gan [llofnod y tyst]
Enw llawn y tyst [enw’r tyst]
Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]â€
Ble ddylid anfon gweithred diddymu rhannol
Anfonwch y weithred diddymu rhannol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda dogfen wreiddiol yr LPA. Hefyd rhaid i chi ddweud wrth eich atwrnai neu eich atwrneiod eich bod yn terfynu’ch LPA.
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
8. Terfynu’ch atwrneiaeth arhosol
Gallwch derfynu’ch atwrneiaeth arhosol (LPA) eich hun - os oes gennych alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw.
Rhaid i chi anfon y canlynol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):
- yr LPA wreiddiol
- datganiad ysgrifenedig o’r enw ‘gweithred diddymu’
Defnyddiwch y geiriau canlynol ar gyfer y weithred diddymu. Newidiwch y geiriau yn y cromfachau sgwâr gyda’r manylion perthnasol.
Gweithred diddymu
“Mae’r weithred ddiddymu hon yn cael ei gwneud gan [eich enw] o [eich cyfeiriad].
1: Dyfarnais atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol/iechyd a lles (rhaid dileu fel sy’n briodol) ar [dyddiad llofnodi’r atwrneiaeth arhosol gennych] yn penodi [enw’r atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a/ac [enw’r ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrnai(atwrneiod).
2: Rwyf yn diddymu’r atwrneiaeth arhosol a’r awdurdod sydd wedi’i ddyfarnu fel rhan ohoni.
Llofnodwyd a chyflwynwyd fel gweithred [eich llofnod]
Dyddiad llofnodi [dyddiad]
Tystiwyd gan [llofnod y tyst]
Enw llawn y tyst [enw’r tyst]
Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]â€
Rhaid i chi allu gwneud eich penderfyniadau eich hun pan rydych yn terfynu’ch LPA.
Hefyd gallwch wneud cwyn os oes gennych bryderon am eich atwrnai, er enghraifft, os nad yw’n cyflawni ei gyfrifoldebau’n briodol.
Ffyrdd eraill y gall atwrneiaeth arhosol ddod i ben
Gall eich LPA ddod i ben os bydd eich atwrnai:
- yn colli’r gallu i wneud penderfyniadau - ‘colli galluedd meddyliol’
- yn eich ysgaru neu’n dod â’ch partneriaeth sifil i ben os yw’n ŵr, gwraig neu’n bartner i chi
- yn dod yn fethdalwr neu’n destun gorchymyn rhyddhad dyledion - os yw’n atwrnai eiddo a materion ariannol
- yn cael ei atal gan y Llys Gwarchod
- yn marw
Os bydd eich unig atwrnai’n marw
Bydd eich LPA yn dod i ben os bydd eich atwrnai’n marw ac os nad oes gennych chi unrhyw atwrneiod newydd. Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ac anfon y canlynol iddi:
- yr LPA wreiddiol
- pob copi ardystiedig o’r LPA
- cyfeiriad dychwelyd ar gyfer anfon eich dogfennau’n ôl atoch
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
Ffôn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
Ffôn testun (yn Saesneg yn unig): 0115 934 2778
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Caiff eich LPA barhau os:
- oes atwrneiod eraill sy’n gallu gweithredu ‘ar y cyd ac yn unigol’ - ond nid os mai dim ond ‘ar y cyd’ maent yn cael gweithredu
- oes atwrneiod i gymryd eu lle
Os byddwch yn marw
Bydd eich LPA yn dod i ben yn awtomatig pan fyddwch yn marw. Bydd eich materion yng ngofal eich ysgutorion neu eich cynrychiolwyr personol wedyn, nid eich atwrnai.