Gwneud, cofrestru neu roi terfyn ar atwrneiaeth arhosol
Terfynuāch atwrneiaeth arhosol
Gallwch derfynuāch atwrneiaeth arhosol (LPA) eich hun - os oes gennych alluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw.
Rhaid i chi anfon y canlynol i Swyddfaār Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG):
- yr LPA wreiddiol
- datganiad ysgrifenedig oār enw āgweithred diddymuā
Defnyddiwch y geiriau canlynol ar gyfer y weithred diddymu. Newidiwch y geiriau yn y cromfachau sgwĆ¢r gydaār manylion perthnasol.
Gweithred diddymu
āMaeār weithred diddymu hon yn cael ei gwneud gan [eich enw] o [eich cyfeiriad].
1: Dyfarnais atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol/iechyd a lles (rhaid dileu fel syān briodol) ar [dyddiad llofnodiār atwrneiaeth arhosol gennych] yn penodi [enwār atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a/ac [enwār ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrnai(atwrneiod).
2: Rwyf yn diddymuār atwrneiaeth arhosol aār awdurdod sydd wediāi ddyfarnu fel rhan ohoni.
Llofnodwyd a chyflwynwyd fel gweithred [eich llofnod]
Dyddiad llofnodi [dyddiad]
Tystiwyd gan [llofnod y tyst]
Enw llawn y tyst [enwār tyst]
Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]ā
Rhaid i chi allu gwneud eich penderfyniadau eich hun pan rydych yn terfynuāch LPA.
Hefyd gallwch wneud cwyn os oes gennych bryderon am eich atwrnai, er enghraifft, os nad ywān cyflawni ei gyfrifoldebauān briodol.
Ffyrdd eraill y gall atwrneiaeth arhosol ddod i ben
Gall eich LPA ddod i ben os bydd eich atwrnai:
- yn colliār gallu i wneud penderfyniadau - ācolli galluedd meddyliolā
- yn eich ysgaru neuān dod Ć¢āch partneriaeth sifil i ben os ywān ŵr, gwraig neuān bartner i chi
- yn dod yn fethdalwr neuān destun gorchymyn rhyddhad dyledion - os ywān atwrnai eiddo a materion ariannol
- yn cael ei atal gan y Llys Gwarchod
- yn marw
Os bydd eich unig atwrnaiān marw
Bydd eich LPA yn dod i ben os bydd eich atwrnaiān marw ac os nad oes gennych chi unrhyw atwrneiod newydd. Rhaid i chi ddweud wrth Swyddfaār Gwarcheidwad Cyhoeddus ac anfon y canlynol iddi:
- yr LPA wreiddiol
- pob copi ardystiedig oār LPA
- cyfeiriad dychwelyd ar gyfer anfon eich dogfennauān Ć“l atoch
Swyddfaār Gwarcheidwad Cyhoeddus
customerservices@publicguardian.gov.uk
FfƓn (yn Saesneg yn unig): 0300 456 0300
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffƓn): 18001 yna 0300 123 1300
Dydd Llun, dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher, 10am tan 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os hoffech siarad Cymraeg, anfonwch ebost i Swyddfaār Gwarcheidwad Cyhoeddus
Swyddfaār Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH
Caiff eich LPA barhau os:
- oes atwrneiod eraill syān gallu gweithredu āar y cyd ac yn unigolā - ond nid os mai dim ond āar y cydā maent yn cael gweithredu
- oes atwrneiod i gymryd eu lle
Os byddwch yn marw
Bydd eich LPA yn dod i ben yn awtomatig pan fyddwch yn marw. Bydd eich materion yng ngofal eich ysgutorion neu eich cynrychiolwyr personol wedyn, nid eich atwrnai.