Newid eich atwrneiod

Gallwch ofyn i Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus ddiswyddo atwrnai os yw eich atwrneiaeth arhosol wedii chofrestru a bod gennych dal alluedd meddyliol i wneud penderfyniadau.

Bydd rhaid i chi anfon datganiad ysgrifenedig i Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus, sef gweithred diddymu rhannol.

Os ydych chi eisiau ychwanegu atwrnai arall rhaid i chi derfynu eich LPA a gwneud un newydd.

Defnyddiwch y geiriau canlynol. Newidiwch y geiriau yn y cromfachau sgw但r gydar manylion perthnasol.

Gweithred diddymu rhannol

Maer weithred diddymu rhannol hon yn cael ei gwneud gan [enwr rhoddwr] o [cyfeiriad y rhoddwr].

1: Dyfarnais atwrneiaeth arhosol ar gyfer eiddo a materion ariannol/iechyd a lles [rhaid dileu fel syn briodol] ar [dyddiad llofnodir atwrneiaeth arhosol gan y rhoddwr] yn penodi [enwr atwrnai cyntaf] o [cyfeiriad yr atwrnai cyntaf] a/ac [enwr ail atwrnai] o [cyfeiriad yr ail atwrnai] i weithredu fel fy atwrnai(atwrneiod).

2: Yr wyf trwy hyn yn diddymu [enwr atwrnai rydych yn ei ddiddymu] YN UNIG or atwrneiaeth arhosol ar awdurdod a ddyfarnwyd iddo ef/hi.

Llofnodwyd a chyflwynwyd fel gweithred [llofnod y rhoddwr]
Dyddiad llofnodi [dyddiad]
Tystiwyd gan [llofnod y tyst]
Enw llawn y tyst [enwr tyst]
Cyfeiriad y tyst [cyfeiriad y tyst]

Ble ddylid anfon gweithred diddymu rhannol

Anfonwch y weithred diddymu rhannol i Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus gyda dogfen wreiddiol yr LPA. Hefyd rhaid i chi ddweud wrth eich atwrnai neu eich atwrneiod eich bod yn terfynuch LPA.

Swyddfar Gwarcheidwad Cyhoeddus / Office of the Public Guardian
PO Box 16185
Birmingham
B2 2WH