Olrhain eich cais am drwydded yrru

Sgipio cynnwys

Olrhain eich cais ar-lein

Os ydych wedi gwneud cais am drwydded yrru newydd neu wedi adnewyddu eich trwydded yrru ar-lein, gallwch olrhain ei chynnydd.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Defnyddiwch eich cyfrif gyrwyr a cherbydau i olrhain eich cais. Mae ffordd wahanol o olrhain ceisiadau ar gyfer:

Mewngofnodi neu greu cyfrif

Bydd angen ichi fewngofnodi i’ch cyfrif gyrwyr a cherbydau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych gyfrif gyrwyr a cherbydau eisoes, byddwch yn gallu creu un.

Cewch wybod pan fyddwch yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n golygu defnyddio ID ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.

Bydd arnoch angen cyfeirnod eich cais hefyd. Anfonwyd hwn atoch drwy e-bost ar ôl ichi wneud cais. Bydd hwn yn gyfres o 12 llythyren, er enghraifft TYAB-ABCD-ABCD.

Pa mor hir mae ceisiadau fel arfer yn ei gymryd

Fel arfer, byddwch yn cael eich trwydded yrru o fewn wythnos ar ôl cwblhau eich cais ar-lein.

Os gwnaethoch gais drwy’r post

Cysylltwch â DVLA i olrhain eich cais.