Olrhain eich cais am drwydded yrru
Printable version
1. Olrhain eich cais ar-lein
Os ydych wedi gwneud cais am drwydded yrru newydd neu wedi adnewyddu eich trwydded yrru ar-lein, gallwch olrhain ei chynnydd.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Defnyddiwch eich cyfrif gyrwyr a cherbydau i olrhain eich cais. Mae ffordd wahanol o olrhain ceisiadau ar gyfer:
Mewngofnodi neu greu cyfrif
Bydd angen ichi fewngofnodi i’ch cyfrif gyrwyr a cherbydau i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych gyfrif gyrwyr a cherbydau eisoes, byddwch yn gallu creu un.
Cewch wybod pan fyddwch yn mewngofnodi os oes angen ichi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw eich manylion yn ddiogel ac fel arfer mae’n golygu defnyddio ID ffotograff fel pasbort neu drwydded yrru.
Bydd arnoch angen cyfeirnod eich cais hefyd. Anfonwyd hwn atoch drwy e-bost ar ôl ichi wneud cais. Bydd hwn yn gyfres o 12 llythyren, er enghraifft TYAB-ABCD-ABCD.
Pa mor hir mae ceisiadau fel arfer yn ei gymryd
Fel arfer, byddwch yn cael eich trwydded yrru o fewn wythnos ar ôl cwblhau eich cais ar-lein.
Os gwnaethoch gais drwy’r post
Cysylltwch â DVLA i olrhain eich cais.
2. Os oes gennych gyfeirnod 14 digid
Os ydych wedi gwneud cais am drwydded lawn neu dros dro ar-lein, gallwch olrhain ei chynnydd. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau i adnewyddu eich trwydded.
Bydd arnoch angen eich cyfeirnod cais 14 digid. Anfonwyd hwn atoch drwy e-bost ar ôl ichi wneud cais.
Os nad oes gennych gyfeirnod 14 digid
Mae ffordd wahanol o olrhain ceisiadau:
- ar gyfer cyfeirnodau sy’n dechrau â ‘FP’
- os oes gennych unrhyw fath arall o gyfeirnod cais
Pa mor hir mae ceisiadau fel arfer yn ei gymryd
Fel arfer, byddwch yn cael eich trwydded yrru o fewn wythnos ar ôl cwblhau eich cais ar-lein.
Os gwnaethoch gais drwy’r post
Cysylltwch â DVLA i olrhain eich cais.
3. Os oes gennych gyfeirnod ‘FP’
Os ydych eisoes wedi gwneud cais am drwydded yrru dros dro ar-lein, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:
- olrhain cynnydd eich cais
- lanlwytho llofnod newydd
- newid eich manylion cyswllt
Olrhain a rheoli eich cais
Bydd angen ichi ddarparu:
- cyfeirnod eich cais - anfonwyd hwn atoch drwy e-bost ar ôl ichi wneud cais, a bydd yn dechrau â ‘FP’ wedi’i ddilyn gan 10 llythyren (er enghraifft, FPAB-ABCD-ABCD)
- cyfeiriadau lle rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf
- eich rhif Yswiriant Cenedlaethol
- rhif eich pasbort y DU
Os nad oes gennych gyfeirnod digid FP
Mae ffordd wahanol o olrhain ceisiadau:
- ar gyfer cyfeirnodau 14 digid
- os oes gennych unrhyw fath arall o gyfeirnod cais
Pa mor hir mae ceisiadau fel arfer yn ei gymryd
Fel arfer, byddwch yn cael eich trwydded yrru o fewn wythnos ar ôl cwblhau eich cais ar-lein.
Os gwnaethoch gais drwy’r post
Cysylltwch â DVLA i olrhain eich cais.