Olrhain eich cais am drwydded yrru

Sgipio cynnwys

Os oes gennych gyfeirnod ‘FP’

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am drwydded yrru dros dro ar-lein, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i:

  • olrhain cynnydd eich cais
  • lanlwytho llofnod newydd
  • newid eich manylion cyswllt

Olrhain a rheoli eich cais

Bydd angen ichi ddarparu:

  • cyfeirnod eich cais - anfonwyd hwn atoch drwy e-bost ar ôl ichi wneud cais, a bydd yn dechrau â ‘FP’ wedi’i ddilyn gan 10 llythyren (er enghraifft, FPAB-ABCD-ABCD)
  • cyfeiriadau lle rydych wedi byw dros y 3 blynedd diwethaf
  • eich rhif Yswiriant Cenedlaethol
  • rhif eich pasbort y DU

Os nad oes gennych gyfeirnod digid FP

Mae ffordd wahanol o olrhain ceisiadau:

Pa mor hir mae ceisiadau fel arfer yn ei gymryd

Fel arfer, byddwch yn cael eich trwydded yrru o fewn wythnos ar ôl cwblhau eich cais ar-lein.

Os gwnaethoch gais drwy’r post

Cysylltwch â DVLA i olrhain eich cais.