Olrhain eich cais am drwydded yrru
Os oes gennych gyfeirnod 14 digid
Os ydych wedi gwneud cais am drwydded lawn neu dros dro ar-lein, gallwch olrhain ei chynnydd. Mae hyn yn cynnwys ceisiadau i adnewyddu eich trwydded.
Bydd arnoch angen eich cyfeirnod cais 14 digid. Anfonwyd hwn atoch drwy e-bost ar ôl ichi wneud cais.
Os nad oes gennych gyfeirnod 14 digid
Mae ffordd wahanol o olrhain ceisiadau:
- ar gyfer cyfeirnodau sy’n dechrau â ‘FP’
- os oes gennych unrhyw fath arall o gyfeirnod cais
Pa mor hir mae ceisiadau fel arfer yn ei gymryd
Fel arfer, byddwch yn cael eich trwydded yrru o fewn wythnos ar ôl cwblhau eich cais ar-lein.
Os gwnaethoch gais drwy’r post
Cysylltwch â DVLA i olrhain eich cais.