Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Printable version
1. Sut i fewnforio cerbyd
Mae’n rhaid i chi gwblhau camau penodol wrth ddod â cherbyd yn barhaol i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
- Prydain Fawr, o unrhyw le
- Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch gael eich erlyn os ydych yn defnyddio’ch cerbyd ar ffordd gyhoeddus cyn i chi gwblhau’r camau hyn, oni bai eich bod yn ei yrru i brawf MOT neu gymeradwyo cerbyd sydd wedi’i archebu ymlaen llaw.
Mae’r drefn rydych chi’n cwblhau’r camau hyn yn dibynnu ar y canlynol:Ìý
-
a ydych chi’n cael y cerbyd yn cael ei gludo i’r DU i chi gan gwmni mewnforio
-
a ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun, naill ai drwy Dwnnel y Sianel neu ar fferi
Nid oes rhaid i fewnforwyr masnachol cerbydau newydd sy’n defnyddio cynllun cofrestru diogel (yn agor tudalen Saesneg) ddilyn y camau hyn.
Os yw’ch cerbyd yn cael ei gludoÌý
-
Gwneud datganiad mewnforio. Mae’n rhaid i chi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud hyn i chi. Gallant naill ai wneud hyn cyn dod â’r cerbyd i mewn neu wrth ffin y DU.Ìý
-
Talu TAW a tholl dramor ar ffin y DU - bydd eich cwmni cludo neu asiant tollau fel arfer yn trefnu i wneud hyn i chi.
-
Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) o fewn 14 diwrnod y mae’r cerbyd wedi cyrraedd y DU.
-
Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd yn bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.
-
Cofrestru a threthu’r cerbyd ²µ²â»å²¹â€™r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - byddant yn rhoi rhif cofrestru i chi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
-
Yswirio’ch cerbyd (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi ei yrru ar ffyrdd y DU.Ìý
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi, ei ailadeiladu neu ei addasu, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn i chi ei fewnforio.
Os ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun, naill ai drwy Dwnnel y Sianel neu ar fferi
-
Rhoi gwybod i CThEF cyn pen 14 diwrnod y mae’r cerbyd wedi cyrraedd y DU.Ìý
-
Gwneud datganiad mewnforio os yw CThEF yn rhoi gwybod bod angen i chi talu TAW a thollau. Bydd angen i chi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud y datganiad mewnforio i chi.
-
Gwneud datganiad Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) - gweler Rhoi gwybod i CThEF i ddarganfod sut i wneud hyn.Ìý
-
Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd yn bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.
-
Cofrestru a threthu’r cerbyd ²µ²â»å²¹â€™r DVLA - byddant yn rhoi rhif cofrestru i chi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
-
Yswirio’ch cerbyd (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi ei yrru ar ffyrdd y DU.
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi, ei ailadeiladu neu ei addasu, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn i chi ei fewnforio.
Dod â’ch cerbyd i mewn neu allan o Ogledd Iwerddon
Os ydych chi’n byw yn y DU, gallwch symud eich cerbyd yn rhydd rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae wedi’i gofrestru yn y naill wlad neu’r llall
-
nad ydych chi’n ei symud i’w werthu, neu at unrhyw ddiben masnachol arall (er enghraifft, defnyddio’r car fel tacsi neu ei logi i rywun)
-
mae’r car at eich defnydd eich hun neu ddefnydd personol eich cartref
Dysgwch beth i’w wneud os yw rhywun arall yn dod â’ch cerbyd i Ogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).
Rhoi gwybod i’r DVLA am y newid cyfeiriad.
Ymweld â’r DU gyda cherbydÌý
Dilynwch y rheolau ar gyfer mewnforion dros dro yn lle hynny os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
nad ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
rydych chi’n dod â cherbyd i’r DU am lai na 6 mis
Dod â cherbyd yn ôl i’r DU
Mae’n rhaid i chi gwblhau camau penodol os ydych yn dod â cherbyd yn ôl i’r DU:
-
sydd wedi’i gofrestru yn y DU o’r blaen
-
sy’n cael ei ail-fewnforio i’r DU
2. Gwneud datganiad mewnforio
Fel arfer, mae angen i chi wneud datganiad mewnforio os ydych chi’n dod â cherbyd i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
-
Prydain Fawr, o unrhyw leÌý
-
Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UEÌý
Ni fydd angen i chi wneud datganiad mewnforio os ydych chi’n dod â cherbyd i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
-
Gogledd Iwerddon o’r UE
-
Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon, o’r Ynys Manaw
Os yw’ch cerbyd yn cael ei gludo
Bydd angen i chi dalu cwmni cludo neu asiant tollau (yn agor tudalen Saesneg) i wneud datganiad mewnforio i chi. Gallant naill ai wneud y datganiad cyn dod â’r cerbyd i mewn neu wrth ffin y DU.
Bydd angen talu unrhyw TAW neu doll tramor wrth y ffin.
Os ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun ar fferi neu drwy Dwnnel y Sianel
Nid oes angen i chi wneud datganiad mewnforio cyn i chi ddod â’r cerbyd i’r wlad neu wrth y ffin.
Mae angen i chi wneud datganiad mewnforio dim ond os oes unrhyw TAW neu doll dramor i’w dalu. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi dalu unrhyw beth ar ôl i chi ddod â’r cerbyd i mewn i’r DU.
Bydd angen i chi dalu cwmni cludo neu asiant tollau (yn agor tudalen Saesneg) i wneud datganiad mewnforio i chi.
Gwneud cais am ryddhad treth
Gall eich cwmni cludo neu asiant tollau wneud cais am ryddhad ar TAW a tholl dramor pan fyddant yn gwneud eich datganiad mewnforio.
Efallai y byddwch yn gallu hawlio os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych chi’n berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol
-
rydych chi’n symud i’r DU yn barhaol
Os chi’n berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol
I hawlio Rhyddhad ar Nwyddau a Dychwelwyd, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol:
-
mae’n rhaid i chi fod wedi prynu’r cerbyd newydd neu’n ail-law yn y DU
-
mae’n rhaid i chi fod wedi talu TAW ar y cerbyd os gwnaethoch ei brynu’n newydd
-
mae’n rhaid i’r person sy’n mewnforio’r cerbyd fod yr un person a gymerodd ef allan o’r DUÌý
-
mae’n rhaid i’r cerbyd beidio â bod wedi’i uwchraddio i gynyddu ei werth
I wneud cais am Ryddhad Nwyddau a Dychwelwyd (yn agor tudalen Saesneg), anfonwch y canlynol gyda’ch datganiad mewnforio:
-
ffurflen C179B (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i lenwi
-
tystiolaeth eich bod yn berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol, er enghraifft, copi o lyfr log y DU blaenorol (V5C), bil gwerthu neu anfoneb brynu
-
copi o’r ddogfen gofrestru gyfredol o’r wlad allforio
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu Gyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer eich cerbyd
Os ydych yn symud i’r DU
Efallai y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad trosglwyddo preswylio (TOR) (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r DU i fod yn eich prif fan preswylio.
Bydd angen i chi gael cymeradwyaeth gan CThEF drwy lenwi ffurflen ToR1 (yn agor tudalen Saesneg).Ìý
Os caiff ei gymeradwyo, bydd CThEF yn anfon llythyr atoch gyda rhif cyfeirnod unigryw. Bydd angen i chi gynnwys y cyfeirnod hwn wrth wneud y datganiad mewnforio.
Bydd angen i chi hefyd anfon y canlynol gyda’ch datganiad mewnforio:
-
eich cyfeiriad yn y DU
-
y dyddiad cyrhaeddodd y cerbyd y DU
-
bil gwerthu neu anfoneb prynu ar gyfer y cerbyd
-
copïau o unrhyw ddogfen swyddogol sy’n cadarnhau rhif VIN neu rif y siasi eich cerbyd (er enghraifft, dogfen gofrestru neu deitl, neu dystysgrif allforio)
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu MRN ar gyfer eich cerbyd
3. Rhoi gwybod i CThEF
Mae gennych 14 diwrnod i roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar ôl i chi ddod â cherbyd i mewn i’r DU yn barhaol. Ni allwch gofrestru’r cerbyd nes eich bod wedi gwneud hyn.
Bydd sut rydych chi’n rhoi gwybod i CThEF yn dibynnu ar y canlynol:
-
p’un a ydych chi’n ei fewnforio i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) neu i Ogledd Iwerddon
-
o ble rydych chi’n ei fewnforio
Mae’n bosibl y cewch ddirwy os byddwch yn hwyr yn rhoi gwybod i CThEF.Ìý
Os oes gan eich cerbyd injan o 48cc neu lai (7.2kw neu lai os yw’n drydan), gallwch ei gofrestru heb roi gwybod i CThEF yn gyntaf.
Os ydych chi’n mewnforio cerbyd i Brydain Fawr o unrhyw le, neu i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE
Mae sut rydych chi’n rhoi gwybod i CThEF yn dibynnu ar a ydych chi wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW.
Gwneud datganiad Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) os ydych chi’n gwmni sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am y cerbyd a fewnforiwyd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Hysbysu o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) (yn agor tudalen Saesneg) o fewn 14 diwrnod. Gallwch ddefnyddio taenlen os oes angen i chi ddefnyddio NOVA ar gyfer llawer o gerbydau (yn agor tudalen Saesneg).
Cysylltwch â’r llinell gymorth mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol:
-
na allwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA - gofynnwch am ffurflen TAW NOVA1 yn lle hynny
-
mae angen help arnoch i gwblhau cais NOVA
Gwneud datganiad NOVA os nad ydych chi’n gwmni neu unigolyn preifat sydd heb gofrestru ar gyfer TAW
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am y cerbyd a fewnforiwyd drwy wneud datganiad NOVA. Mae sut rydych chi’n gwneud hyn yn dibynnu ar a ydych chi’n cael y cerbyd yn cael ei gludo neu’n dod ag ef i mewn eich hun.
Os ydych chi’n cael y cerbyd wedi’i gludo, gellir gwneud y datganiad NOVA gan y naill neu’r llall o’r canlynol:Ìý
-
eich cwmni cludo neu asiant tollau (efallai y byddant yn codi ffi ychwanegol am wneud hyn)
-
tîm CARS CThEF ar eich rhan chi
Mae’n rhaid gwneud hyn cyn pen 14 diwrnod o ddod â’r cerbyd i mewn.
Bydd angen y canlynol ar bwy bynnag sy’n gwneud y datganiad NOVA:
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu’ch dogfen mewnforio Cyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer eich cerbyd
-
yr anfoneb neu’r bil gwerthu ar gyfer eich cerbyd - os gwnaethoch ei brynu yn ystod y 6 mis diwethaf
-
prisiad presennol os gwnaethoch brynu’r cerbyd fwy na 6 mis yn ôl - mae’n rhaid i hyn gael ei wneud yn bersonol yn y DU gan garej, deliwr neu fusnes cydnabyddedig arall
-
copi o unrhyw ddogfen swyddogol sy’n cadarnhau rhif VIN neu rif y siasi eich cerbyd (er enghraifft, dogfen gofrestru neu deitl, neu dystysgrif allforio)Ìý
Os ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun, mae’n rhaid i chi gysylltu â thîm CARS CThEF a rhoi gwybod iddynt y canlynol:Ìý
-
os gwnaethoch brynu’r cerbyd y tu allan i’r DU yn ddiweddar
-
os ydych wedi symud i’r DU a dod â’ch cerbyd gyda chi
-
os ydych chi’n dod â cherbyd yn ôl i’r DU yr oeddech chi’n berchen arno yma yn flaenorol
-
os ydych wedi etifeddu’r cerbyd gan rywun sy’n byw y tu allan i’r DU
Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 14 diwrnod o ddyddiad ar ôl dod â’r cerbyd i mewn.
Yna bydd CThEF yn rhoi gwybod y canlynol i chi:Ìý
-
os oes angen i chi dalu unrhyw TAW neu doll dramorÌý
-
os ydych chi’n gymwys i gael unrhyw ryddhad
Os oes unrhyw TAW neu doll dramor yn ddyledus, bydd angen i chi hurio cwmni cludo neu asiant tollau i wneud datganiad mewnforio i chi. Byddant yn rhoi gwybod i chi faint i’w dalu a sut i wneud hyn, yn ogystal â darparu’r dogfennau sydd eu hangen i wneud datganiad NOVA.Ìý
Bydd angen i chi anfon y dogfennau hyn at dîm CARS CThEF fel y gallant wneud datganiad NOVA i chi.
Mae’n rhaid i chi fod wedi talu unrhyw drethi mewnforio sy’n ddyledus cyn y gall CThEF wneud y datganiad NOVA.
Gallwch gysylltu â’r tîm CARS drwy e-bost neu drwy’r post:
tîm CARS CThEF
ecsm.nchcars@hmrc.gov.uk
Busnes, Treth a Thollau / Business, Tax and Customs
Cyllid a Thollau EF
BX9 1EH
Mewnforio cerbyd o Ynys Manaw
Os yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn Ynys Manaw, nid oes angen i chi wneud cais NOVA. Dim ond angen i chi anfon ffurflen V55 wedi’i lenwi a dogfen gofrestru Ynys Manaw ar gyfer y cerbyd i’r DVLA.
Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn Ynys Manaw, neu os oes ganddo blatiau trwydded y DU o hyd, gofynnwch i’r llinell gymorth mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg) am ffurflen NOVA1. Anfonwch y ffurflen hon a llythyr eglurhaol yn esbonio’r sefyllfa i’r Uned Trafnidiaeth Bersonol.
Uned Trafnidiaeth BersonolÌýÌý
Cyllid a Thollau EFÌýÌý
BX9 1GD
Os ydych yn mewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
Rhowch wybod i CThEF drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Hysbysu o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch ddefnyddio taenlen os ydych chi’n fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac mae angen i chi ddefnyddio NOVA ar gyfer llawer o gerbydau (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn gallu defnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA, Os nad ydych yn gallu defnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA, gofynnwch i’r llinell gymorth mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg) am ffurflen NOVA1.
Ar ôl i chi roi gwybod i CThEF
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi:
-
os oes rhaid i chi dalu TAW a tholl dramor - mae hyn yn berthnasol dim ond os gwnaethoch ddod â’r cerbyd i mewn eich hun ar fferi neu drwy Dwnnel y Sianel
-
pan fydd eich cais NOVA wedi’i brosesu – ni allwch gofrestru eich cerbyd ²µ²â»å²¹â€™r DVLA tan ar ôl hynny
Help a chymorth
Cysylltwch â’r llinell gymorth TAW i gael help gyda TAW.
Cysylltwch â’r llinell gymorth mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg) i gael help gyda mewnforio cerbyd.
4. Talu TAW a tholl dramor
Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu TAW mewnforio a tholl dramor pan fyddwch chi’n mewnforio cerbyd.Ìý
Codir TAW ar gyfanswm cost y cerbyd, ynghyd ag unrhyw un o’r canlynol:
-
ategolion y gwnaethoch eu prynu gydag ef
-
dosbarthu a thaliadau ychwanegol
-
toll dramor
Codir tollau ar gerbydau a fewnforir i’r gwledydd canlynol:
-
Cymru, Lloegr a’r Alban o’r tu allan i’r DUÌý
-
Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r DU neu’r UE (yn agor tudalen Saesneg)
Mae’r cyfraddau a godir arnoch yn dibynnu ar y math o gerbyd ac o ble rydych chi’n ei fewnforio. Gallwch wirio’r cyfraddau gyda’ch cwmni cludo neu’ch asiant tollau neu gallwch ffonio llinell gymorth Cyllid a Thollau EF (CThEF) (yn agor tudalen Saesneg).
Mae sut rydych chi’n talu yn dibynnu ar y canlynol:
-
o ble rydych chi’n mewnforio’r cerbyd
-
p’un a ydych chi’n cael y cerbyd yn cael ei gludo neu a ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun
Ni allwch gofrestru a threthu cerbyd sydd wedi’i ‘ddifrodi’n ddifrifol’. Os ydych chi’n talu TAW a tholl dramor ac yna’n ceisio cofrestru cerbyd sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, ni fyddwch yn cael eich ad-dalu.
Os gwnaethoch fewnforio’r cerbyd i Gymru, Lloegr, neu’r Alban o’r tu allan i’r DU
Pam wnaethoch chi ei fewnforio | Yr hyn rydych chi’n ei daluÌý |
---|---|
Rydych chi’n symud i’r DU gyda’ch cerbyd | Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad |
Rydych chi’n dychwelyd cerbyd sydd wedi’i allforio i’r DU | Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad |
Rydych chi’n ymweld â’r DU neu’r UE gyda’ch cerbyd | Dim TAW na tholl dramor os yw’n gymwys fel mewnforyn dros dro |
Unrhyw reswm arall - os nad ydych chi wedi’i gofrestru ar gyfer TAW | TAW a tholl dramor |
Unrhyw reswm arall - os ydych chi wedi’i gofrestru ar gyfer TAW | TAW a tholl dramor |
Sut i dalu os ydych chi’n ddyledus ar TAW a tholl dramorÌý
Os ydych chi’n cael y cerbyd wedi’i gludo, bydd eich cwmni cludo neu asiant tollau fel arfer yn trefnu talu CThEF wrth ffin y DU.Ìý
Os ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun, rhoi gwybod i CThEF cyn pen 14 diwrnod ar ôl cyrraedd. Os yw CThEF yn rhoi gwybod bod angen i chi dalu TAW a tholl dramor, mae angen i chi gael asiant tollau i wneud datganiad mewnforio i chi. Bydd yr asiant tollau yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i’w dalu a sut gallwch wneud hynny.
Os ydych wedi cofrestru TAW, gallwch hawlio’r TAW yn ôl ar eich Ffurflen TAW nesaf.
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw TAW a tholl dramor cyn y gallwch gofrestru’r cerbyd.
Os wnaethoch chi fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
Fel arfer, dim ond ar gerbydau newydd y codir TAW arno. Mae cerbyd yn newydd os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
mae’r cerbyd wedi cael ei yrru llai na 6,000km (tua 3,728 milltir)
-
mae’r cerbyd wedi bod yn cael ei ddefnyddio am ddim mwy na 6 mis
Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae angen i chi rhoi cyfrif am unrhyw TAW rydych chi wedi’i dalu ar eich Ffurflen TAW nesaf.
Os nad ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW neu os ydych chi’n unigolyn preifat, mae angen i chi dalu CThEF yn uniongyrchol cyn y gallwch gofrestru eich cerbyd.
Adennill VAT
Os oes rhaid i chi ddatgan TAW i CThEF, gallwch hawlio unrhyw TAW a dalwyd gennych yn yr UE. Anfonwch y Dystysgrif TAW a gewch gan CThEF at y person a werthodd y cerbyd i chi.
Os wnaethoch chi fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r DU a’r UE
Pam wnaethoch chi ei fewnforio | Yr hyn rydych chi’n ei daluÌý |
---|---|
Rydych chi’n symud i’r DU gyda’ch cerbyd | Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad |
Rydych chi’n dychwelyd cerbyd sydd wedi’i allforio i’r DU | Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad |
Rydych chi’n ymweld â’r DU neu’r UE gyda’ch cerbyd | Dim TAW na tholl dramor os yw’n gymwys fel mewnforyn dros dro |
Unrhyw reswm arall - os nad ydych chi wedi’i gofrestru ar gyfer TAW | TAW a tholl dramor |
Unrhyw reswm arall - os ydych chi wedi’i gofrestru ar gyfer TAW | TAW a tholl dramor |
Sut i dalu os ydych chi’n ddyledus ar TAW a tholl dramorÌý
Os ydych chi’n cael y cerbyd wedi’i gludo, bydd eich cwmni cludo neu asiant tollau fel arfer yn trefnu talu CThEF wrth ffin y DU.Ìý
Os ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun, rhoi gwybod i CThEF cyn pen 14 diwrnod ar ôl cyrraedd. Os yw CThEF yn rhoi gwybod bod angen i chi dalu TAW a tholl dramor, mae angen i chi gael asiant tollau i wneud datganiad mewnforio i chi. Bydd yr asiant tollau yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i’w dalu a sut gallwch wneud hynny.
Os ydych wedi cofrestru TAW, gallwch hawlio’r TAW yn ôl ar eich Ffurflen TAW nesaf.
Mae’n rhaid i chi dalu unrhyw TAW a tholl dramor cyn y gallwch gofrestru’r cerbyd.
5. Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd
Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd a fewnforiwyd yn bodloni rheoliadau amgylcheddol a diogelwch. Bydd angen tystiolaeth o gymeradwyaeth arnoch i gofrestru a threthu’r cerbyd.
Ni allwch gofrestru a threthu cerbyd sydd wedi’i ‘ddifrodi’n ddifrifol’. Os ydych chi’n talu am gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd ac yna’n ceisio cofrestru cerbyd sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, ni fyddwch yn cael eich ad-dalu.
Pan rydych wedi’ch esemptio rhag cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd
Os cafodd eich cerbyd ei gofrestru am y tro cyntaf neu ei weithgynhyrchu fwy na 10 mlynedd yn ôl, efallai na fydd angen cymeradwyaeth arnoch. Gwiriwch i weld a yw’r cerbyd wedi’i esemptio (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd arnoch i drethu eich cerbyd os cafodd ei gofrestru am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Mawrth 2001 gyda chymeradwyaeth math yr UE ac mae’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
cerbyd nwyddau ysgafn (pwysau uchaf 3,500kg neu lai)
-
cerbyd i nifer fach o deithwyr - car neu fws mini gydag 8 sedd teithwyr neu lai (heb gynnwys y gyrrwr) a gyda ffigur allyriadau CO2 mewn g/km
Os nad oes gennych gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd eisoes, anfonwch lythyr gyda’ch cais i’r DVLA yn esbonio pam nad oes un gennych.
DVLA
Abertawe
SA99 1BE
Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn yr UE
I gael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd nad yw wedi’i gofrestru yn yr UE, gwnewch gais am y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
Cymeradwyaeth ar gyfer Cerbyd Unigol (yn agor tudalen Saesneg) (IVA)
-
Cymeradwyaeth ar gyfer Cerbyd Unigol i Feic Modur (yn agor tudalen Saesneg) (MSVA) os yw’n gerbyd 2,3 neu gerbyd 4-olwyn sy’n llai o faint
Os yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn yr UE
Mynnwch Dystysgrif Cydymffurfio Ewropeaidd gan y gwneuthurwr i ddangos bod gennych gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd sydd wedi’i gofrestru yn yr UE.
Os yw’n gerbyd â’r llyw ar y chwith, bydd arnoch hefyd angen tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) .
Os oes gennych lori neu gerbyd nwyddau dros 3,500kg, ni allwch gael tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA. Gwnewch gais am IVA (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.
Cael tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais am:
Codir ffi o £100. Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Cael help tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA
Cysylltwch â’r Asiantaeth Ardystio Cerbydau (VCA) os nad ydych yn siŵr a yw’ch cerbyd yn gymwys ar gyfer tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA.
Asiantaeth Ardystio Cerbydau (VCA)ÌýÌýÌýÌý
vehicleimporting@vca.gov.ukÌý
6. Cofrestru cerbyd sydd wedi’i fewnforio
Mae’n rhaid i chi gofrestru eich cerbyd ²µ²â»å²¹â€™r DVLA os ydych chi’n dod ag ef i mewn i’r DU yn barhaol.
Cyn i chi gofrestru’ch cerbyd, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) eich bod wedi mewnforio’r cerbyd a chael cadarnhad bod eich cais Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) (yn agor tudalen Saesneg) yn cael ei brosesu
-
talu unrhyw TAW a tholl dramor sy’n ddyledus arnoch
-
cael tystiolaeth o gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd
Bydd angen i chi dalu ffi gofrestru o £55 a threthu eich cerbyd pan fyddwch chi’n ei gofrestru.
Sut i gofrestru
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer cofrestru cerbyd (yn agor tudalen Saesneg) i lenwi’ch ffurflenni ac anfon dogfennau ategol.
Gallwch hefyd anfon unrhyw ddogfennau ategol ar gyfer cerbyd sydd wedi’i fewnforio.
Efallai y bydd DVLA yn gofyn i archwilio’r cerbyd.
Dogfennau ategol ychwanegol ar gyfer cerbydau sydd wedi’u mewnforio
Mae’n rhaid i chi anfon y dogfennau gwreiddiol canlynol:
-
tystiolaeth o gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd
-
ffurflen V267 (yn agor tudalen Saesneg) (weithiau yn cael ei alw’n ‘datganiad o fod yn newydd’) os ydych chi’n cofrestru cerbyd newydd
-
tystiolaeth sy’n dangos y dyddiad y cafodd y cerbyd ei gasglu, er enghraifft yr anfoneb gan y cyflenwr
-
y dystysgrif gofrestru tramor wreiddiol i ddangos pryd y cafodd y cerbyd ei gynhyrchu (ni fyddwch yn cael hyn yn ôl)
Mae angen i chi ddarparu gwahanol ddogfennau os ydych yn dod â cherbyd yn ôl i’r DU sydd wedi’i gofrestru o’r blaen.
Os nad oes gennych y dystysgrif o gofrestru dramor wreiddiol, efallai y bydd DVLA yn derbyn tystiolaeth arall o’r dyddiad gweithgynhyrchu, er enghraifft llythyr gan y gwneuthurwr neu glwb selogion cerbydau.
Peidiwch ag anfon llungopïau na chopïau sydd wedi’u ffacsio.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Gall gymryd hyd at 6 wythnos i’ch tystysgrif cofrestru (V5C) ddod i law.
Mae angen y V5C arnoch i drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
7. Dod â cherbyd yn ôl i’r DU
Mae’n rhaid i chi gofrestru cerbyd pan fyddwch chi’n ei ail-fewnforio i’r DU os yw’r canlynol yn wir:
-
os yw wedi’i gofrestru yn y DU yn flaenorol
-
os yw wedi cae ei allforio i wlad arall
Dylech wneud y canlynol:
-
Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) cyn 14 diwrnod y mae’r cerbyd wedi cyrraedd y DU.
-
Talu unrhyw TAW a tholl dramor sy’n ddyledus arnoch.
-
Cofrestru a threthu’r cerbyd ²µ²â»å²¹â€™r DVLA - byddant yn rhoi rhif cofrestru i chi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
Nid oes angen i chi gael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd.
Mae’n rhaid i chi hefyd yswirio’ch cerbyd (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi ei yrru ar ffyrdd y DU.
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi, ei ailadeiladu neu ei addasu, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn i chi ei fewnforio.
Pan fyddwch chi’n cofrestru cerbyd wedi’i ail-fewnforio
Unwaith y bydd eich cerbyd wedi pasio ei MOT (yn agor tudalen Saesneg), dylech gofrestru a threthu’r cerbyd. Nid oes angen i chi dalu’r ffi o £55.
Mae’n rhaid i chi anfon y dogfennau gwreiddiol canlynol:
-
tystiolaeth sy’n dangos unrhyw newidiadau a wnaed i’r cerbyd, er enghraifft anfoneb i ddangos newidiadau lliw neu newidiadau injan
-
y dystysgrif gofrestru dramor wreiddiol (ni fyddwch yn cael hyn yn ôl)
Os nad oes gennych y dystysgrif o gofrestru dramor wreiddiol, anfonwch lythyr at y DVLA i esbonio pam nad oes gennych chi.
Peidiwch ag anfon llungopïau na chopïau sydd wedi’u ffacsio.
Os yw’ch cerbyd oddi ar y fforddÌý
Pan fyddwch chi’n ail-fewnforio’ch cerbyd i’r DU, mae angen i chi ei dynnu oddi ar y ffordd os na allwch neu os nad ydych chi eisiau cael MOT. Er enghraifft, os nad ydych am drethu eich cerbyd oherwydd eich bod yn bwriadu ei werthu neu oherwydd nad yw’ch cerbyd yn addas i’ch ffordd eto.
Os yw’ch cerbyd oddi ar y ffordd, mae angen i chi gwneud hysbysiad oddi ar y ffordd statudol (HOS).Ìý
Mae angen i chi gofrestru’r cerbyd o hyd os ydych chi’n gwneud HOS. Yna byddwch yn cael llyfr log cerbyd (V5C).
8. Mewnforion dros dro
Fel arfer, gallwch ddefnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor heb ei gofrestru na’i drethu yn y DU os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych chi’n ymweld ac nad ydych chi’n bwriadu byw yma
-
mae’r cerbyd wedi’i gofrestru a’i drethu yn ei wlad wreiddiol
-
dim ond am hyd at 6 mis i gyd y byddwch chi’n defnyddio’r cerbyd - gall hyn fod yn un ymweliad, neu sawl ymweliad byrrach dros 12 mis
Bydd angen i chi gofrestru’ch cerbyd os ydych am ei symud rhwng Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) a Gogledd Iwerddon.
Os byddwch chi’n dod yn breswylydd neu’n aros am fwy na 6 mis, mae’n rhaid i chi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych chi’n dod â cherbyd i Gymru, Lloegr neu’r Alban
Nid ydych yn talu TAW na tholl dramor ar gerbyd os ydych chi’n ei fewnforio dros dro ac mae pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae at eich defnydd preifat eich hun
-
nid ydych yn breswylydd yn y DU
-
nid ydych chi’n ei werthu, ei fenthyg na’i hurio o fewn y DU
-
byddwch chi’n ei ail-allforio o’r DU cyn pen 6 mis - neu’n hirach os ydych chi’n gymwys i ddefnyddio platiau rhif tramor am gyfnod hirach
Hawliwch ryddhad drwy lenwi ffurflen C110 (yn agor tudalen Saesneg) a mynd â’ch cerbyd drwy’r sianel ‘dim byd i’w ddatgan’ pan fyddwch yn cyrraedd y DU.
Defnyddio platiau rhif tramor am fwy na 6 mis
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor am fwy na 6 mis os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
os ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
os ydych chi yn y DU am gyfnod penodol fel myfyriwr neu weithiwr
Os byddwch yn aros ar ôl i’ch rhyddhad tollau ddod i ben, mae’n rhaid i chi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych yn dod â cherbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
Ni fydd yn rhaid i chi dalu TAW na tholl dramor os byddwch yn dod â’ch cerbyd eich hun o’r UE.
Ffoniwch y llinell gymorth mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg) os oes gennych gwestiynau am ddod â cherbyd o’r UE am lai na 6 mis.
Os ydych yn dod â cherbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE
Nid ydych yn talu TAW na tholl dramor ar gerbyd os ydych chi’n ei fewnforio dros dro ac mae pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae at eich defnydd preifat eich hun
-
nid ydych yn breswylydd yn y DU
-
nid ydych chi’n ei werthu, ei fenthyg na’i hurio o fewn y DU
-
byddwch chi’n ei ail-allforio o’r DU cyn pen 6 mis - neu’n hirach os ydych chi’n gymwys i ddefnyddio platiau rhif tramor am gyfnod hirach
Hawliwch ryddhad drwy lenwi ffurflen C110 (yn agor tudalen Saesneg) a mynd â’ch cerbyd drwy’r sianel ‘dim byd i’w ddatgan’ pan fyddwch yn cyrraedd y DU.
Defnyddio platiau rhif tramor am fwy na 6 mis
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor am fwy na 6 mis os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
os ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
os ydych chi yn y DU am gyfnod penodol fel myfyriwr neu weithiwr
Os byddwch yn aros ar ôl i’ch rhyddhad tollau ddod i ben, mae’n rhaid i chi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych chi’n cael eich stopio gan yr heddlu
Mae’n rhaid i chi ddangos i’r heddlu y gallwch ddefnyddio’r cerbyd yn y DU heb ei drethu a’i gofrestru yma, er enghraifft tystiolaeth:
-
o’r amser rydych chi wedi bod yn y DU (fel tocyn fferi)
-
bod eich cerbyd yn gymwys i gael rhyddhad rhag TAW a tholl dramor fel mewnforyn dros dro, fel llythyr gan CThEF
Pan fydd angen platiau rhif ‘Q’ arnoch
Mae’n rhaid i chi gael platiau rhif ‘Q’ dros dro gan y DVLA os ydych chi’n ymweld â’r DU am hyd at 6 mis a’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
mae eich platiau rhif yn dangos rhifau neu lythrennau nad ydynt yn adnabyddadwy yn y DU, er enghraifft y sgript Arabeg
-
nid yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru yn ei wlad wreiddiol
Cysylltwch â’r DVLA (yn agor tudalen Saesneg) os oes rhaid i chi gael platiau rhif ‘Q’ dros dro.
Cyn i chi gael platiau rhif ‘Q’
Mae’n rhaid i chi hawlio rhyddhad rhag TAW a tholl dramor cyn y gallwch gael platiau rhif ‘Q’ dros dro.
I hawlio rhyddhad, llenwch ffurflen C110 (yn agor tudalen Saesneg) ar ôl i’r car gyrraedd y DU a’i hanfon at dîm NTAS i’w stampio.
NTAS team
Second Floor West
Ralli Quays
3 Stanley Street
Salford
M60 9LA
9. Talu TAW ar fewnforion cerbydau i Ogledd Iwerddon o’r UE
Mae angen i chi dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) cyn i chi gofrestru cerbyd os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
os wnaethoch chi fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
-
os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW neu eich bod yn unigolyn preifat
Yr hyn bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud taliad
Defnyddiwch eich rhif cyfeirnod Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) 13 o gymeriadau pan fyddwch chi’n talu. Gallwch gael hyd iddo:
-
ar yr e-bost anfonodd CThEF atoch os gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth NOVA
-
ar yr hysbysiad talu anfonodd CThEF atoch
Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng y cymeriadau yn eich cyfeirnod.
Talu ar-lein
Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol. Pan fyddwch chi’n barod i dalu, dechreuwch eich taliad am fewnforio cerbydau i mewn i’r DU.
Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol i gymeradwyo’ch taliad.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:
-
drwy’ch cyfrif banc ar-leinÌý
-
drwy ffonio’ch banc
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
-
cod didoli - 08 32 00
-
rhif y cyfrif - 12000903
-
enw’r cyfrif - HMRC Indirect Miscellaneous
Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
-
rhif y cyfrif (IBAN) - GB20 BARC 2005 1730 3364 91
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
-
enw’r cyfrif - HMRC Indirect Miscellaneous
Dylai taliadau tramor fod mewn sterling, ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
10. Mewnforio cerbyd sydd wedi’i ddifrodi, ei ailadeiladu neu ei addasu
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi, ei ailadeiladu neu ei addasu mewn gwlad arall, gall y DVLA gwneud y canlynol:
-
rhoi rhif cofrestru ‘Q’ i’ch cerbyd (yn agor tudalen Saesneg)
-
rhoi rhif adnabod y cerbyd (VIN) (yn agor tudalen Saesneg) newydd i’ch cerbyd
-
rhoi marciwr ar lyfr log eich cerbyd (V5C) - i ddangos bod eich cerbyd wedi’i newid neu ei adeiladau gan ddefnyddio gwahanol rannau
-
gofyn am Gymeradwyaeth ar gyfer Cerbyd Unigol (IVA) (yn agor tudalen Saesneg)
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi
Os yw’ch cerbyd wedi’i ystyried fel un sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, ni fyddwch yn gallu ei gofrestru yn y DU. Ni fyddwch yn cael eich ad-dalu am unrhyw ffi TAW a tholl dramor neu ffi cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd a dalwyd gennych cyn ceisio cofrestru’r cerbyd.
Mae difrod difrifol yn golygu na ellir atgyweirio’r cerbyd - gallai ddweud rhywbeth fel ‘gwerth dim yn statudol’, ‘wedi sgrapio’ neu ‘y tu hwnt i atgyweirio’ ar y dystysgrif gofrestru.
Gwiriwch ²µ²â»å²¹â€™r awdurdod cofrestru ar gyfer y wlad mae’r cerbyd yn dod o hyd i a yw’r cerbyd wedi’i ‘ddifrodi’n ddifrifol’.
Os nad yw’n cael ei ‘ddifrodi’n ddifrifol’, gofynnwch iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn – bydd angen hyn arnoch i gofrestru a threthu’r cerbyd yn y DU.