Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Mewnforion dros dro
Fel arfer, gallwch ddefnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor heb ei gofrestru na’i drethu yn y DU os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych chi’n ymweld ac nad ydych chi’n bwriadu byw yma
-
mae’r cerbyd wedi’i gofrestru a’i drethu yn ei wlad wreiddiol
-
dim ond am hyd at 6 mis i gyd y byddwch chi’n defnyddio’r cerbyd - gall hyn fod yn un ymweliad, neu sawl ymweliad byrrach dros 12 mis
Bydd angen i chi gofrestru’ch cerbyd os ydych am ei symud rhwng Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) a Gogledd Iwerddon.
Os byddwch chi’n dod yn breswylydd neu’n aros am fwy na 6 mis, mae’n rhaid i chi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych chi’n dod â cherbyd i Gymru, Lloegr neu’r Alban
Nid ydych yn talu TAW na tholl dramor ar gerbyd os ydych chi’n ei fewnforio dros dro ac mae pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae at eich defnydd preifat eich hun
-
nid ydych yn breswylydd yn y DU
-
nid ydych chi’n ei werthu, ei fenthyg na’i hurio o fewn y DU
-
byddwch chi’n ei ail-allforio o’r DU cyn pen 6 mis - neu’n hirach os ydych chi’n gymwys i ddefnyddio platiau rhif tramor am gyfnod hirach
Hawliwch ryddhad drwy lenwi ffurflen C110 (yn agor tudalen Saesneg) a mynd â’ch cerbyd drwy’r sianel ‘dim byd i’w ddatgan’ pan fyddwch yn cyrraedd y DU.
Defnyddio platiau rhif tramor am fwy na 6 mis
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor am fwy na 6 mis os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
os ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
os ydych chi yn y DU am gyfnod penodol fel myfyriwr neu weithiwr
Os byddwch yn aros ar ôl i’ch rhyddhad tollau ddod i ben, mae’n rhaid i chi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych yn dod â cherbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
Ni fydd yn rhaid i chi dalu TAW na tholl dramor os byddwch yn dod â’ch cerbyd eich hun o’r UE.
Ffoniwch y llinell gymorth mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg) os oes gennych gwestiynau am ddod â cherbyd o’r UE am lai na 6 mis.
Os ydych yn dod â cherbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE
Nid ydych yn talu TAW na tholl dramor ar gerbyd os ydych chi’n ei fewnforio dros dro ac mae pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae at eich defnydd preifat eich hun
-
nid ydych yn breswylydd yn y DU
-
nid ydych chi’n ei werthu, ei fenthyg na’i hurio o fewn y DU
-
byddwch chi’n ei ail-allforio o’r DU cyn pen 6 mis - neu’n hirach os ydych chi’n gymwys i ddefnyddio platiau rhif tramor am gyfnod hirach
Hawliwch ryddhad drwy lenwi ffurflen C110 (yn agor tudalen Saesneg) a mynd â’ch cerbyd drwy’r sianel ‘dim byd i’w ddatgan’ pan fyddwch yn cyrraedd y DU.
Defnyddio platiau rhif tramor am fwy na 6 mis
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor am fwy na 6 mis os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
os ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
os ydych chi yn y DU am gyfnod penodol fel myfyriwr neu weithiwr
Os byddwch yn aros ar ôl i’ch rhyddhad tollau ddod i ben, mae’n rhaid i chi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych chi’n cael eich stopio gan yr heddlu
Mae’n rhaid i chi ddangos i’r heddlu y gallwch ddefnyddio’r cerbyd yn y DU heb ei drethu a’i gofrestru yma, er enghraifft tystiolaeth:
-
o’r amser rydych chi wedi bod yn y DU (fel tocyn fferi)
-
bod eich cerbyd yn gymwys i gael rhyddhad rhag TAW a tholl dramor fel mewnforyn dros dro, fel llythyr gan CThEF
Pan fydd angen platiau rhif ‘Q’ arnoch
Mae’n rhaid i chi gael platiau rhif ‘Q’ dros dro gan y DVLA os ydych chi’n ymweld â’r DU am hyd at 6 mis a’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
mae eich platiau rhif yn dangos rhifau neu lythrennau nad ydynt yn adnabyddadwy yn y DU, er enghraifft y sgript Arabeg
-
nid yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru yn ei wlad wreiddiol
Cysylltwch â’r DVLA (yn agor tudalen Saesneg) os oes rhaid i chi gael platiau rhif ‘Q’ dros dro.
Cyn i chi gael platiau rhif ‘Q’
Mae’n rhaid i chi hawlio rhyddhad rhag TAW a tholl dramor cyn y gallwch gael platiau rhif ‘Q’ dros dro.
I hawlio rhyddhad, llenwch ffurflen C110 (yn agor tudalen Saesneg) ar ôl i’r car gyrraedd y DU a’i hanfon at dîm NTAS i’w stampio.
NTAS team
Second Floor West
Ralli Quays
3 Stanley Street
Salford
M60 9LA