Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Dod â cherbyd yn ôl i’r DU
Mae’n rhaid i chi gofrestru cerbyd pan fyddwch chi’n ei ail-fewnforio i’r DU os yw’r canlynol yn wir:
-
os yw wedi’i gofrestru yn y DU yn flaenorol
-
os yw wedi cae ei allforio i wlad arall
Dylech wneud y canlynol:
-
Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) cyn 14 diwrnod y mae’r cerbyd wedi cyrraedd y DU.
-
Talu unrhyw TAW a tholl dramor sy’n ddyledus arnoch.
-
Cofrestru a threthu’r cerbyd ²µ²â»å²¹â€™r DVLA - byddant yn rhoi rhif cofrestru i chi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
Nid oes angen i chi gael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd.
Mae’n rhaid i chi hefyd yswirio’ch cerbyd (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi ei yrru ar ffyrdd y DU.
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi, ei ailadeiladu neu ei addasu, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn i chi ei fewnforio.
Pan fyddwch chi’n cofrestru cerbyd wedi’i ail-fewnforio
Unwaith y bydd eich cerbyd wedi pasio ei MOT (yn agor tudalen Saesneg), dylech gofrestru a threthu’r cerbyd. Nid oes angen i chi dalu’r ffi o £55.
Mae’n rhaid i chi anfon y dogfennau gwreiddiol canlynol:
-
tystiolaeth sy’n dangos unrhyw newidiadau a wnaed i’r cerbyd, er enghraifft anfoneb i ddangos newidiadau lliw neu newidiadau injan
-
y dystysgrif gofrestru dramor wreiddiol (ni fyddwch yn cael hyn yn ôl)
Os nad oes gennych y dystysgrif o gofrestru dramor wreiddiol, anfonwch lythyr at y DVLA i esbonio pam nad oes gennych chi.
Peidiwch ag anfon llungopïau na chopïau sydd wedi’u ffacsio.
Os yw’ch cerbyd oddi ar y fforddÂ
Pan fyddwch chi’n ail-fewnforio’ch cerbyd i’r DU, mae angen i chi ei dynnu oddi ar y ffordd os na allwch neu os nad ydych chi eisiau cael MOT. Er enghraifft, os nad ydych am drethu eich cerbyd oherwydd eich bod yn bwriadu ei werthu neu oherwydd nad yw’ch cerbyd yn addas i’ch ffordd eto.
Os yw’ch cerbyd oddi ar y ffordd, mae angen i chi gwneud hysbysiad oddi ar y ffordd statudol (HOS).Ìý
Mae angen i chi gofrestru’r cerbyd o hyd os ydych chi’n gwneud HOS. Yna byddwch yn cael llyfr log cerbyd (V5C).