Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Gwneud datganiad mewnforio
Fel arfer, mae angen i chi wneud datganiad mewnforio os ydych chi’n dod â cherbyd i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
-
Prydain Fawr, o unrhyw leÂ
-
Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UEÂ
Ni fydd angen i chi wneud datganiad mewnforio os ydych chi’n dod â cherbyd i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
-
Gogledd Iwerddon o’r UE
-
Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon, o’r Ynys Manaw
Os yw’ch cerbyd yn cael ei gludo
Bydd angen i chi dalu cwmni cludo neu asiant tollau (yn agor tudalen Saesneg) i wneud datganiad mewnforio i chi. Gallant naill ai wneud y datganiad cyn dod â’r cerbyd i mewn neu wrth ffin y DU.
Bydd angen talu unrhyw TAW neu doll tramor wrth y ffin.
Os ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun ar fferi neu drwy Dwnnel y Sianel
Nid oes angen i chi wneud datganiad mewnforio cyn i chi ddod â’r cerbyd i’r wlad neu wrth y ffin.
Mae angen i chi wneud datganiad mewnforio dim ond os oes unrhyw TAW neu doll dramor i’w dalu. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi os oes angen i chi dalu unrhyw beth ar ôl i chi ddod â’r cerbyd i mewn i’r DU.
Bydd angen i chi dalu cwmni cludo neu asiant tollau (yn agor tudalen Saesneg) i wneud datganiad mewnforio i chi.
Gwneud cais am ryddhad treth
Gall eich cwmni cludo neu asiant tollau wneud cais am ryddhad ar TAW a tholl dramor pan fyddant yn gwneud eich datganiad mewnforio.
Efallai y byddwch yn gallu hawlio os yw’r canlynol yn wir:
-
rydych chi’n berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol
-
rydych chi’n symud i’r DU yn barhaol
Os chi’n berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol
I hawlio Rhyddhad ar Nwyddau a Dychwelwyd, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol:
-
mae’n rhaid i chi fod wedi prynu’r cerbyd newydd neu’n ail-law yn y DU
-
mae’n rhaid i chi fod wedi talu TAW ar y cerbyd os gwnaethoch ei brynu’n newydd
-
mae’n rhaid i’r person sy’n mewnforio’r cerbyd fod yr un person a gymerodd ef allan o’r DUÂ
-
mae’n rhaid i’r cerbyd beidio â bod wedi’i uwchraddio i gynyddu ei werth
I wneud cais am Ryddhad Nwyddau a Dychwelwyd (yn agor tudalen Saesneg), anfonwch y canlynol gyda’ch datganiad mewnforio:
-
ffurflen C179B (yn agor tudalen Saesneg) wedi’i lenwi
-
tystiolaeth eich bod yn berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol, er enghraifft, copi o lyfr log y DU blaenorol (V5C), bil gwerthu neu anfoneb brynu
-
copi o’r ddogfen gofrestru gyfredol o’r wlad allforio
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu Gyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer eich cerbyd
Os ydych yn symud i’r DU
Efallai y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad trosglwyddo preswylio (TOR) (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r DU i fod yn eich prif fan preswylio.
Bydd angen i chi gael cymeradwyaeth gan CThEF drwy lenwi ffurflen ToR1 (yn agor tudalen Saesneg).Ìý
Os caiff ei gymeradwyo, bydd CThEF yn anfon llythyr atoch gyda rhif cyfeirnod unigryw. Bydd angen i chi gynnwys y cyfeirnod hwn wrth wneud y datganiad mewnforio.
Bydd angen i chi hefyd anfon y canlynol gyda’ch datganiad mewnforio:
-
eich cyfeiriad yn y DU
-
y dyddiad cyrhaeddodd y cerbyd y DU
-
bil gwerthu neu anfoneb prynu ar gyfer y cerbyd
-
copïau o unrhyw ddogfen swyddogol sy’n cadarnhau rhif VIN neu rif y siasi eich cerbyd (er enghraifft, dogfen gofrestru neu deitl, neu dystysgrif allforio)
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu MRN ar gyfer eich cerbyd