Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Rhoi gwybod i CThEF
Mae gennych 14 diwrnod i roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar ôl i chi ddod â cherbyd i mewn i’r DU yn barhaol. Ni allwch gofrestru’r cerbyd nes eich bod wedi gwneud hyn.
Bydd sut rydych chi’n rhoi gwybod i CThEF yn dibynnu ar y canlynol:
-
p’un a ydych chi’n ei fewnforio i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) neu i Ogledd Iwerddon
-
o ble rydych chi’n ei fewnforio
Mae’n bosibl y cewch ddirwy os byddwch yn hwyr yn rhoi gwybod i CThEF.Ìý
Os oes gan eich cerbyd injan o 48cc neu lai (7.2kw neu lai os yw’n drydan), gallwch ei gofrestru heb roi gwybod i CThEF yn gyntaf.
Os ydych chi’n mewnforio cerbyd i Brydain Fawr o unrhyw le, neu i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE
Mae sut rydych chi’n rhoi gwybod i CThEF yn dibynnu ar a ydych chi wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW.
Gwneud datganiad Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) os ydych chi’n gwmni sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am y cerbyd a fewnforiwyd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Hysbysu o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) (yn agor tudalen Saesneg) o fewn 14 diwrnod. Gallwch ddefnyddio taenlen os oes angen i chi ddefnyddio NOVA ar gyfer llawer o gerbydau (yn agor tudalen Saesneg).
Cysylltwch â’r llinell gymorth mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol:
-
na allwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA - gofynnwch am ffurflen TAW NOVA1 yn lle hynny
-
mae angen help arnoch i gwblhau cais NOVA
Gwneud datganiad NOVA os nad ydych chi’n gwmni neu unigolyn preifat sydd heb gofrestru ar gyfer TAW
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am y cerbyd a fewnforiwyd drwy wneud datganiad NOVA. Mae sut rydych chi’n gwneud hyn yn dibynnu ar a ydych chi’n cael y cerbyd yn cael ei gludo neu’n dod ag ef i mewn eich hun.
Os ydych chi’n cael y cerbyd wedi’i gludo, gellir gwneud y datganiad NOVA gan y naill neu’r llall o’r canlynol:Â
-
eich cwmni cludo neu asiant tollau (efallai y byddant yn codi ffi ychwanegol am wneud hyn)
-
tîm CARS CThEF ar eich rhan chi
Mae’n rhaid gwneud hyn cyn pen 14 diwrnod o ddod â’r cerbyd i mewn.
Bydd angen y canlynol ar bwy bynnag sy’n gwneud y datganiad NOVA:
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu’ch dogfen mewnforio Cyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer eich cerbyd
-
yr anfoneb neu’r bil gwerthu ar gyfer eich cerbyd - os gwnaethoch ei brynu yn ystod y 6 mis diwethaf
-
prisiad presennol os gwnaethoch brynu’r cerbyd fwy na 6 mis yn ôl - mae’n rhaid i hyn gael ei wneud yn bersonol yn y DU gan garej, deliwr neu fusnes cydnabyddedig arall
-
copi o unrhyw ddogfen swyddogol sy’n cadarnhau rhif VIN neu rif y siasi eich cerbyd (er enghraifft, dogfen gofrestru neu deitl, neu dystysgrif allforio)Â
Os ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun, mae’n rhaid i chi gysylltu â thîm CARS CThEF a rhoi gwybod iddynt y canlynol:Â
-
os gwnaethoch brynu’r cerbyd y tu allan i’r DU yn ddiweddar
-
os ydych wedi symud i’r DU a dod â’ch cerbyd gyda chi
-
os ydych chi’n dod â cherbyd yn ôl i’r DU yr oeddech chi’n berchen arno yma yn flaenorol
-
os ydych wedi etifeddu’r cerbyd gan rywun sy’n byw y tu allan i’r DU
Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 14 diwrnod o ddyddiad ar ôl dod â’r cerbyd i mewn.
Yna bydd CThEF yn rhoi gwybod y canlynol i chi:Â
-
os oes angen i chi dalu unrhyw TAW neu doll dramorÂ
-
os ydych chi’n gymwys i gael unrhyw ryddhad
Os oes unrhyw TAW neu doll dramor yn ddyledus, bydd angen i chi hurio cwmni cludo neu asiant tollau i wneud datganiad mewnforio i chi. Byddant yn rhoi gwybod i chi faint i’w dalu a sut i wneud hyn, yn ogystal â darparu’r dogfennau sydd eu hangen i wneud datganiad NOVA.Ìý
Bydd angen i chi anfon y dogfennau hyn at dîm CARS CThEF fel y gallant wneud datganiad NOVA i chi.
Mae’n rhaid i chi fod wedi talu unrhyw drethi mewnforio sy’n ddyledus cyn y gall CThEF wneud y datganiad NOVA.
Gallwch gysylltu â’r tîm CARS drwy e-bost neu drwy’r post:
tîm CARS CThEF
ecsm.nchcars@hmrc.gov.uk
Busnes, Treth a Thollau / Business, Tax and Customs
Cyllid a Thollau EF
BX9 1EH
Mewnforio cerbyd o Ynys Manaw
Os yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn Ynys Manaw, nid oes angen i chi wneud cais NOVA. Dim ond angen i chi anfon ffurflen V55 wedi’i lenwi a dogfen gofrestru Ynys Manaw ar gyfer y cerbyd i’r DVLA.
Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn Ynys Manaw, neu os oes ganddo blatiau trwydded y DU o hyd, gofynnwch i’r llinell gymorth mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg) am ffurflen NOVA1. Anfonwch y ffurflen hon a llythyr eglurhaol yn esbonio’r sefyllfa i’r Uned Trafnidiaeth Bersonol.
Uned Trafnidiaeth Bersonol Â
Cyllid a Thollau EFÂ Â
BX9 1GD
Os ydych yn mewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
Rhowch wybod i CThEF drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Hysbysu o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch ddefnyddio taenlen os ydych chi’n fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac mae angen i chi ddefnyddio NOVA ar gyfer llawer o gerbydau (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn gallu defnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA, Os nad ydych yn gallu defnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA, gofynnwch i’r llinell gymorth mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg) am ffurflen NOVA1.
Ar ôl i chi roi gwybod i CThEF
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi:
-
os oes rhaid i chi dalu TAW a tholl dramor - mae hyn yn berthnasol dim ond os gwnaethoch ddod â’r cerbyd i mewn eich hun ar fferi neu drwy Dwnnel y Sianel
-
pan fydd eich cais NOVA wedi’i brosesu – ni allwch gofrestru eich cerbyd gyda’r DVLA tan ar ôl hynny
Help a chymorth
Cysylltwch â’r llinell gymorth TAW i gael help gyda TAW.
Cysylltwch â’r llinell gymorth mewnforio ac allforio (yn agor tudalen Saesneg) i gael help gyda mewnforio cerbyd.