Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Sut i fewnforio cerbyd
Mae’n rhaid i chi gwblhau camau penodol wrth ddod â cherbyd yn barhaol i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
- Prydain Fawr, o unrhyw le
- Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch gael eich erlyn os ydych yn defnyddio’ch cerbyd ar ffordd gyhoeddus cyn i chi gwblhau’r camau hyn, oni bai eich bod yn ei yrru i brawf MOT neu gymeradwyo cerbyd sydd wedi’i archebu ymlaen llaw.
Mae’r drefn rydych chi’n cwblhau’r camau hyn yn dibynnu ar y canlynol:Â
-
a ydych chi’n cael y cerbyd yn cael ei gludo i’r DU i chi gan gwmni mewnforio
-
a ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun, naill ai drwy Dwnnel y Sianel neu ar fferi
Nid oes rhaid i fewnforwyr masnachol cerbydau newydd sy’n defnyddio cynllun cofrestru diogel (yn agor tudalen Saesneg) ddilyn y camau hyn.
Os yw’ch cerbyd yn cael ei gludoÂ
-
Gwneud datganiad mewnforio. Mae’n rhaid i chi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud hyn i chi. Gallant naill ai wneud hyn cyn dod â’r cerbyd i mewn neu wrth ffin y DU.Ìý
-
Talu TAW a tholl dramor ar ffin y DU - bydd eich cwmni cludo neu asiant tollau fel arfer yn trefnu i wneud hyn i chi.
-
Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) o fewn 14 diwrnod y mae’r cerbyd wedi cyrraedd y DU.
-
Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd yn bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.
-
Cofrestru a threthu’r cerbyd ²µ²â»å²¹â€™r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - byddant yn rhoi rhif cofrestru i chi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
-
Yswirio’ch cerbyd (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi ei yrru ar ffyrdd y DU.Ìý
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi, ei ailadeiladu neu ei addasu, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn i chi ei fewnforio.
Os ydych chi’n dod â’r cerbyd i mewn eich hun, naill ai drwy Dwnnel y Sianel neu ar fferi
-
Rhoi gwybod i CThEF cyn pen 14 diwrnod y mae’r cerbyd wedi cyrraedd y DU.Ìý
-
Gwneud datganiad mewnforio os yw CThEF yn rhoi gwybod bod angen i chi talu TAW a thollau. Bydd angen i chi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud y datganiad mewnforio i chi.
-
Gwneud datganiad Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) - gweler Rhoi gwybod i CThEF i ddarganfod sut i wneud hyn.Ìý
-
Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd yn bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.
-
Cofrestru a threthu’r cerbyd ²µ²â»å²¹â€™r DVLA - byddant yn rhoi rhif cofrestru i chi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
-
Yswirio’ch cerbyd (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi ei yrru ar ffyrdd y DU.
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi, ei ailadeiladu neu ei addasu, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn i chi ei fewnforio.
Dod â’ch cerbyd i mewn neu allan o Ogledd Iwerddon
Os ydych chi’n byw yn y DU, gallwch symud eich cerbyd yn rhydd rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae wedi’i gofrestru yn y naill wlad neu’r llall
-
nad ydych chi’n ei symud i’w werthu, neu at unrhyw ddiben masnachol arall (er enghraifft, defnyddio’r car fel tacsi neu ei logi i rywun)
-
mae’r car at eich defnydd eich hun neu ddefnydd personol eich cartref
Dysgwch beth i’w wneud os yw rhywun arall yn dod â’ch cerbyd i Ogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).
Rhoi gwybod i’r DVLA am y newid cyfeiriad.
Ymweld â’r DU gyda cherbydÂ
Dilynwch y rheolau ar gyfer mewnforion dros dro yn lle hynny os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
nad ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
rydych chi’n dod â cherbyd i’r DU am lai na 6 mis
Dod â cherbyd yn ôl i’r DU
Mae’n rhaid i chi gwblhau camau penodol os ydych yn dod â cherbyd yn ôl i’r DU:
-
sydd wedi’i gofrestru yn y DU o’r blaen
-
sy’n cael ei ail-fewnforio i’r DU