Mewnforio cerbyd sydd wedi’i ddifrodi, ei ailadeiladu neu ei addasu

Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi, ei ailadeiladu neu ei addasu mewn gwlad arall, gall y DVLA gwneud y canlynol:

Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi

Os yw’ch cerbyd wedi’i ystyried fel un sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, ni fyddwch yn gallu ei gofrestru yn y DU. Ni fyddwch yn cael eich ad-dalu am unrhyw ffi TAW a tholl dramor neu ffi cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd a dalwyd gennych cyn ceisio cofrestru’r cerbyd.

Mae difrod difrifol yn golygu na ellir atgyweirio’r cerbyd - gallai ddweud rhywbeth fel ‘gwerth dim yn statudol’, ‘wedi sgrapio’ neu ‘y tu hwnt i atgyweirio’ ar y dystysgrif gofrestru.

Gwiriwch gyda’r awdurdod cofrestru ar gyfer y wlad mae’r cerbyd yn dod o hyd i a yw’r cerbyd wedi’i ‘ddifrodi’n ddifrifol’.

Os nad yw’n cael ei ‘ddifrodi’n ddifrifol’, gofynnwch iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn – bydd angen hyn arnoch i gofrestru a threthu’r cerbyd yn y DU.